Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

STEAM

 

Mae menter STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor) Gogledd Cymru yn bartneriaeth rhwng holl awdurdodau lleol Gogledd Cymru a Phartneriaeth Twristiaeth gogledd Cymru. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn arwain y fenter ar ran y bartneriaeth, a sefydlwyd yn 1999.

Mae STEAM yn rhaglen ymchwil bwysig sy'n monitro maint a gwerth twristiaeth. Mae menter STEAM Gogledd Cymru yn cofnodi maint a gwerth ym mhob sir, ardal farchnata a ledled Gogledd Cymru. Yn seiliedig ar wybodaeth busnes twristiaid sylfaenol, mae STEAM yn cofnodi popeth o niferoedd ymwelwyr, nifer dyddiau, gwariant, nifer nosweithiau mewn llety a chyflogaeth. Mae'n ddibynnol ar gefnogaeth a chydweithrediad busnesau twristiaid, lletyau ac atyniadau. Ar hyn o bryd, mae dros 500 o fusnesau ledled gogledd Cymru yn cymryd rhan weithredol yn STEAM.

Cydnabyddir STEAM ym mhob rhan o'r byd. Yng Nghymru mae 21 o'r 22 o awdurdodau lleol yn defnyddio STEAM i fonitro twristiaeth. Mae cwmnïau a sefydliadau yn defnyddio STEAM yn rheolaidd ar gyfer dibenion amrywiol, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru. Erbyn hyn mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn dibynnu ar STEAM i fonitro'r effaith ar economi Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae busnesau twristiaeth unigol yn defnyddio'r atborth a dderbyniant o ganlyniad i gymryd rhan mewn grantiau busnes, tystiolaeth mewn ceisiadau, cynlluniau busnes, neu ar ei ffurf symlaf, i gymharu sut y maent yn perfformio yn erbyn eu cystadleuwyr.

Am wybodaeth bellach am STEAM, cysylltwch â'r Adran Datblygiad Economaidd ar 01978 292489, neu anfonwch e-bost at tourism@wrexham.gov.uk.

Pwysig - Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn cydnabod menter STEAM Gogledd Cymru os defnyddir data ar unrhyw achos. Rydym yn monitro'r defnydd a wneir o'r data lle bynnag y bo hynny'n bosibl, felly byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhoi gwybod i ni pryd a sut y bwriadwch ddefnyddio'r data.

 
English
 

Cyswllt i

Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint