1. Cyswllt
Cysylltwch â'r Rheolwr Twristiaeth a Datblygiad Gwledig, Adran Datblygiad Economaidd (01978 292461) am sgwrs anffurfiol i roi gwybod i ni am eich cynigion, a thrafod gofynion statudol y bydd angen i chi eu cyflawni. Ar ôl hynny byddwn yn rhoi'ch enw (gyda'ch caniatâd) yn syth ar restr bostio i dderbyn gwybodaeth reolaidd, a byddwch yn cael eich ychwanegu ar restr lletyau'r Ganolfan Groeso.
2. Graddio/Gwirio
Penderfynwch a ydych am ansawdd eich eiddo gael ei raddio. Er nad yw hyn yn orfodol ar hyn o bryd, efallai y byddwch yn darganfod bod llawer mwy o lwybrau marchnata ar agor i chi os yw eich eiddo wedi'i raddio.
- Cysylltwch â Bwrdd Croeso Cymru i wneud cais am raddio - 02920 499909
- Cysylltwch â'r AA i wneud cais am raddio - 01256 884445
- Cysylltwch â'r RAC i wneud cais am raddio - 020 8917 2840
Mae ffyrdd eraill o raddio ar gael.
3. Marchnata eich busnes
Ystyriwch pa fath o farchnata fyddai o fudd i'ch busnes
- Canllaw 'Wrecsam Go Iawn' - 01978 292489
- Prif Ganllaw a Gwefan Gororau Gogledd Cymru - 01978 292489
- "Cymru - Lle i aros" taflen lletyau - 02920 475205
- Gwefan Visitwales - 08708 300 301
Mae nifer o ddulliau marchnata eraill y gellwch eu dewis. Bydd yr Uned Twristiaeth, Adfywiad Gwledig a Marchnata yn ymdrechu i gynorthwyo unrhyw ymholiadau sydd gennych. Cysylltwch â'r Swyddog Twristiaeth ar 01978 292489.
|