Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Siopa yn Wrecsam

 

Siopa yn Wrecsam

Mae Wrecsam wedi datblygu o dref farchnad ganoloesol yn ganolfan adwerthu modern ffyniannus, sy’n gallu diwallu’r chwant mwyaf am siopa.

"Profiad braf iawn yw siopa yn Wrecsam – mae’r holl siopau bydd eu hangen arnoch yn agos at ei gilydd mewn ardal i gerddwyr yn unig mewn cyrraedd hwylus i faes parcio. Ac mae yna bethau ar werth yn y marchnadoedd na allwch ddod o hyd iddynt unman arall"
- Irene Winsford

Bob wythnos bydd torfeydd o siopwyr o ardal Wrecsam a thu hwnt yn llenwi strydoedd prysur y dref.

Yn ddiweddar bu gwaith datblygu helaeth yn Wrecsam sydd wedi cynyddu ei hardal siopa gan 250,000 troedfedd sgwâr. Drwy gydol y trawsnewid hwn, llwyddwyd i gadw cymeriad a chyfaredd wreiddiol hen strydoedd, fel Stryt y Banc a Rhes y Deml, ac arcedau traddodiadol, fel Arcêd Owrtyn a’r Arcêd Ganolog.

Mae’r siopau a boutiques bach annibynnol ochr yn ochr â siopau poblogaidd y stryd fawr yn cadarnhau statws Wrecsam fel profiad siopa hollol unigryw.

Ychydig y tu allan i ganol y dref, ar Barciau Adwerthu Plas Coch a Border, dewch o hyd i’r archfarchnadoedd mwy, uwchfarchnadoedd DIY a sinema aml-sgrîn.

Hanes y Marchnadoedd

Oherwydd lleoliad Wrecsam, rhwng y ffin â Lloegr a thir amaethyddol Cymru, roedd yn fan perffaith i gyfarfod a masnachu. Deuai pobl ar geffylau ac ar droed i gyfnewid nwyddau a chlebran yn ei ffeiriau a’i marchnadoedd. Cyn bo hir, roedd delwyr o drefi a dinasoedd Lloegr yn masnachu ochr wrth ochr â’r ffermwyr Cymreig, a gynigiai cig, llysiau a chynnyrch llaeth.

Symudodd y marchnadoedd dan do yn y 19eg ganrif ac mae’r nwyddau wedi ehangu o gynnyrch ffermwyr i unrhyw beth y gallwch ddychmygu, bron iawn. Marchnad y Bobl yw’r fwyaf o’r tair marchnad dan do, lle ceir mynediad i’r anabl ac mae’n cynnwys maes parcio aml-lawr.

Ymunwch â’r dorf i ddarganfod beth gall ein marchnadoedd ei gynnig i chi!

Mae Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol wedi eu lleoli mewn adeiladau hanesyddol rhestredig.  Mae’r Farchnad Gyffredinol wedi’i gorchuddio â gwaith bric addurnol Rhiwabon. Maen nhw’n cynnig nifer fawr o nwyddau gwneud, o fwyd anifeiliaid anwes i fframiau ar gyfer lluniau, yn ogystal â chig, pysgod a helgig.

Bob dydd Llun, cynhelir marchnad ar Sgwâr y Frenhines. Mae’n dyddio yn ôl i’r canol oesoedd, a dyma un o farchnadoedd awyr agored mwyaf Gogledd Cymru.  Mae’n cynnig popeth o gig a dofednod, ffrwythau a llysiau, i garpedi, esgidiau a dodrefn.

Bydd y Marchnadoedd Ffrengig a Chyfandirol hynod boblogaidd, lle gwerthir nwyddau dilys a thraddodiadol, yn ymweld â Wrecsam drwy gydol y flwyddyn.

I ddarganfod dyddiadau’r dyfodol 01978 292015.

Marchnad y Bobl, Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol - Oriau Agor

Dydd Llun – Dydd Sadwrn 9.00 a.m. hyd 5.00 p.m. Ar gau brynhawn dydd Mercher.

Cynnyrch Cartref

Mae’r cefn gwlad ffrwythlon a gwyrdd o amgylch Wrecsam wedi cael ei ffermio ers canrifoedd. Mae’n dal i fod yn gartref i gymuned ffermio sy’n ffynnu, a llawer o gynhyrchwyr bwyd bach sy’n cynhyrchu rhai o’r cynhyrchion mwyaf blasus a ffres yn yr ardal.

Felly nid yw’n syndod bod ein siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr yn gwerthu amrywiaeth mor drawiadol o gynnyrch a dyfwyd gartref, bwydydd cartref ac arbenigeddau lleol blasus. Trwy brynu bwyd yn uniongyrchol gan y tyfwr, bydd siopwyr yn cefnogi’r economi lleol ac yn mwynhau croeso cynnes a gwasanaeth ardderchog.

Marchnad y Ffermwyr Wrecsam

Bydd oddeutu ugain o stondinau ym Marchnad y Ffermwyr Wrecsam, a gyda’i gilydd byddant yn cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch lleol. Yma cewch frithyll lleol a physgod wedi’u sychu mewn mwg, cig byfflo a chig eidion Gwartheg Duon Cymreig y mae galw mawr amdano, cawsiau a chyffeithiau, wyau maes, ffrwythau a llysiau organig, a chacennau a phasteiod wedi’u coginio ar y fferm. Hefyd ceir amrywiaeth ardderchog o winoedd a chwrw lleol i’w mwynhau gartref.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01978 292448.

Cynhelir Marchnad y Ffermwyr Wrecsam ar 3ydd dydd Gwener y mis rhwng 9.00 a.m. a 3.30 p.m. ar Sgwâr y Frenhines, Wrecsam.

Cysylltiadau perthnasol:

Mwy Gwybodaeth Thwristiaeth | Mapiau Canol Tref Wrecsam

 
English
 

Cyswllt i

Ymweld a Wrecsam
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint