Gororau Gogledd Cymru
Ers 1996, mae Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistef Sirol Wrecsam (CBSW) wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i hyrwyddo twristiaeth yn y rhanbarth. Caiff 'Yr Adran Farchnata' (Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych wledig) ei farchnata fel 'Gororau Gogledd Cymru' (GGC). Mae gan Gymru gyfanswm o 13 o 'Ardaloedd Marchnata', ac mae 'Gororau Gogledd Cymru' yn un ohonynt.
Canllaw i'r Prif Ardal Farchnata
Y prif faes gweithgarwch ym Mhartneriaeth Gororau Gogledd Cymru yw y canllaw a gynhyrchir ar y prif ardal farchnata. Mae'r canllaw wedi'i anelu'n bennaf at ymwelwyr hamdden ac mae'n tynnu sylw at bopeth sydd gan yr ardal i'w chynnig yn ogystal â chyflwyno cyfeirlyfr o letyau ac atyniadau. Mae'r canllaw yn agored i holl fasnachwyr twristiaid hysbysebu ynddo, fodd bynnag, rhaid i bob llety fod wedi'i raddio gan Fwrdd Croeso Cymru, yr AA neu'r RAC. Mae'r rheolau hyn yn unol â'r rhai a osodwyd gan Croeso Cymru, ac maent yn berthnasol i bob pamffledyn marchnata ar draws Cymru.
Mae'r canllaw hwn yn gyhoeddiad blynyddol a dechreuir ei gynhyrchu yn ystod mis Mehefin/Gorffennaf er mwyn ei ddosbarthu yn ystod y mis Rhagfyr canlynol. Bob blwyddyn, argreffir dros 100,000 o ganllawiau.
Dosberthir y canllaw trwy gyfrwng amryw o ffynonellau:
- Canolfannau croeso ar draws y Deyrnas Unedig (DU)
- Post uniongyrchol
- Ymateb i ymholiadau
- Trwy ymgyrchoedd marchnata ar y cyd (gweler isod)
- Hysbysebu
Gwefan
Mae gwefan Gororau Gogledd Cymru yn canmol yr argraffiad. Gellir edrych ar bob lleoliad sy'n talu i hysbysebu yn y canllaw ar wefan Gororau Gogledd Cymru hefyd. Datblygiad newydd yn y wefan yw'r defnydd o dudalennau lletyau o wefan swyddogol Croeso Cymru. Gall gweithredwyr roi gwybodaeth eu busnesau ar y wefan, yn rhad ac am ddim. Mae Croeso Cymru yn cynnal cyrsiau rheolaidd ledled Cymru i weithredwyr fynychu yn rhad ac am ddim i hwyluso'r wefan.
Marchnata ar y cyd
Bob blwyddyn mae Gororau Gogledd Cymru yn talu i fod yn rhan o ymgyrchoedd amrywiol i hyrwyddo'r lleoliad. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn cynnwys:
- Croeso Cymru
- UK Co-ordinated Advertising Campaign - Hysbysebu ar y cyd â phartneriaid eraill.
Defnyddir pamffledyn Gororau Gogledd Cymru fel argraffiad cyflawni ar gyfer bob un o'r uchod. Trwy gael cronfa o adnoddau fel hyn, gellir cyflawni mwy o weithgareddau na trwy weithredu'n annibynnol. Mae Gororau Gogledd Cymru hefyd yn gosod hysbysebion ad-hoc ac ati, pan fo cyfleoedd yn codi.
Marchnata Wrecsam
Yn ogystal ag ymgyrch Gororau Gogledd Cymru, mae pob Awdurdod Lleol yn marchnata eu hardaloedd yn unigol.
Mae'r Adran Datblygiad Economaidd wedi cynhyrchu 'Canllaw i Ymwelwyr' sy'n newydd sbon ac yn arbennig ar gyfer Wrecsam. Mae nifer o farchnadoedd sy'n berthnasol i Wrecsam yn cael eu tangynrychioli yn yr ymgyrch GGC ar hyn o bryd. Mae canllaw cynhwysfawr sy'n anelu at dynnu sylw at bopeth sydd gan Wrecsam i'w gynnig wedi'i ddatblygu, a bydd yn gyhoeddiad blynyddol. (Fersiwn y gellir ei lawrlwytho)
Dosberthir y canllaw hwn mewn canolfannau croeso lleol, ac mewn gwestai ac atyniadau, fe'i dosberthir hefyd yn dilyn ceisiadau mewn ymgyrchoedd hysbysebu amrywiol.
|