Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Telerau ac Amodau Talu ar Lein

 

Mae'r telerau a'r amodau hyn yn berthnasol i holl daliadau ar lein a wneir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd

Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r gwasanaeth talu ar lein. Mae defnyddio'r gwasanaeth talu ar lein ar y wefan hon yn tybio eich bod yn derbyn y telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn ("telerau"), yna peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth.

Mae'r holl daliadau yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

  • Bydd eich tâl yn cymryd o leiaf 2 ddiwrnod gwaith i gyrraedd y cyfrif yr ydych yn gwneud tâl iddo. (Mae hyn yn cynnwys amser i wirio manylion eich cerdyn credyd/debyd gyda'r cwmni cerdyn credyd/debyd ac i'r Cyngor gael ei hysbysu o'r tâl). Os yw eich tâl yn hwyr ac os yw camau adennill ar fin eu cymryd, dylech dalu gydag arian parod yn Swyddfeydd y Cyngor.
  • Ni fedrwn dderbyn cyfrifoldeb am dâl sy'n methu â chyrraedd y cyfrif priodol oherwydd bod cwsmer wedi dyfynnu rhif cyfrif anghywir.
  • Ni fedrwn 'chwaith dderbyn cyfrifoldeb os bydd cwmni cerdyn credyd/debyd yn gwrthod talu (gan fod y cwsmer wedi dyfynnu manylion anghywir neu oherwydd unrhyw reswm arall).
  • Os bydd y cwmni cerdyn credyd/debyd yn gwrthod talu, 'does dim rhaid i'r Cyngor ddwyn hyn i sylw'r cwsmer. Dylai cwsmeriaid holi'r banc/cwmni cerdyn credyd/debyd i sicrhau bod y tâl wedi ei gymryd o'u cyfrif.

Cadarnhau Tâl

Ar ôl i chi dalu, byddwch yn derbyn cadarnhad o'r tâl ar y sgrîn. Medrwch brintio hwn allan fel cadarnhad trwy ddewis testun y wybodaeth, dewis yr opsiwn i brintio a chlicio ar yr opsiwn botwm radio 'dewis'.

Datganiad Cyfreithiol

Bydd data a ddarperir gennych yn ystod y broses hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cofnodi eich tâl yn unig. Byddwn yn glynu at egwyddorion Deddf Gwarchod Data 1998 a sicrhau na ddefnyddir y wybodaeth i unrhyw bwrpas arall, ac na chaiff ei datgelu i drydydd person.

Cyfyngiad Atebolrwydd

Ni fydd y Cyngor, ei gyflenwyr, nac unrhyw drydydd person a grybwyllir ar y safle hwn, yn gyfrifol dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw golledion (gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled yn deillio o golli elw, colli data neu ymyrryd gyda busnes) sy'n deillio o ddefnyddio, methu â defnyddio, neu ganlyniadau defnyddio'r safle hwn, unrhyw wefannau sy'n gysylltiedig gyda'r safle hwn, neu ddeunydd neu wybodaeth a gynhwysir ar safleoedd o'r fath, boed yn seiliedig ar warant, contract, camwedd neu unrhyw ddamcaniaeth gyfreithiol arall, a boed wedi ei hysbysu ai peidio o'r posibilrwydd o golled o'r fath.

Cyfreithiau perthnasol

Gweinyddir y safle hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o'i swyddfeydd yn Wrecsam, Cymru. Bydd y telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan a'u dadansoddi yn unol â chyfraith Lloegr, heb achosi unrhyw egwyddorion gwrthdrawiadau cyfreithiau.


Polisi Preifatrwydd Ar Lein

Me eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac 'rydym yn cydnabod eich bod yn ymddiried ynddom i weithredu mewn dull cyfrifol pan fyddwch yn dewis rhoi gwybodaeth i ni.

Credwn y dylid ond defnyddio'r wybodaeth hon i'n helpu i ddarparu gwell gwasanaeth i chi. Dyna pam y mae gennym bolisi i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol.

Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol chi, a geir trwy gyfrwng y we, i gwmnïau eraill nac i unigolion oni fo hynny'n ofynnol dan y gyfraith.

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth sensitif (rhif cerdyn credyd, er enghraifft, pan yn talu), byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i'w warchod, megis seiffro rhif eich cerdyn. Byddwn hefyd yn cymryd mesurau diogelwch i warchod gwybodaeth bersonol a gaiff ei storio. Defnyddir rhifau cardiau credyd ar gyfer prosesu taliadau yn unig, ac ni chânt eu cadw i ddibenion marchnata.

Weithiau bydd ein gwefan yn darparu cysylltiad gyda safleoedd trydydd person. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hyn, 'rydym yn eich annog i ddarllen polisïau preifatrwydd y safleoedd hynny.

Caiff gwybodaeth a gesglir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei storio a'i phrosesu ar ddatabasau sydd ym meddiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn unig.

Adolygiadau

Caiff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam adolygu'r Telerau hyn ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru'r neges hwn. Fe'ch cynghorir i ymweld â'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i adolygu'r Telerau sy'n ddilys ar y pryd. Mae'n bosibl y bydd rhai darpariaethau yn y Telerau hyn yn cael eu disodli gan hysbysiadau cyfreithiol penodol neu delerau a leolir ar dudalennau penodol ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gweler hefyd bolisi Ymwadiad gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Sut i Gysylltu

Anfonwch e-bost atom yn counciltax@wrexham.gov.uk neu ffoniwch ar (01978) 292000 os oes gennych gwestiwn neu os ydych yn cael unrhyw broblem. Nodwch os gwelwch yn dda y medrwn ond ymateb yn ystod oriau swyddfa 8.45am - 5:15pm Llun i Iau, 8.45am - 4.45pm Gwener.

 Dychwelyd i dudalen gwybodaeth Talu Ar Lein

 
English
 

Cysylltiadau i

Cwestiynau a ofynnir yn aml - talu ar lein
Telerau ac Amodau
Sut i Gysylltu

VeriSign Secured Site Logo - link to validate site security - this link will open a new browser window

cerdyn credyd/debyd logos

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint