Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cwestiynau a ofynnir yn aml - talu ar lein

 

Dychwelwch i'r dudalen talu Treth y Cyngor


Ydy hi'n ddiogel i dalu dros y Rhyngrwyd?

Ydy, mae'n ddiogel. Mae'r wybodaeth rydych yn ei hanfon yn cael ei hysgrifennu mewn côd. Golyga hyn na all unrhyw un ei darllen wrth iddi deithio ar draws y Rhyngrwyd.

Byddwn yn derbyn eich manylion credyd drwy wasanaethydd diogel. Golyga hyn bod côd diogel yn cael ei ddefnyddio rhwng eich peiriant a gwasanaethydd y Cyngor. Yn ogystal, ni fyddwn yn storio manylion eich cerdyn credyd ar ôl prosesu eich tâl.

Mae cyfeiriadau gwefan traddodiadol yn dechrau gyda "http" - bydd cyfeiriad gwefan ddiogel yn dechrau gyda "https".

Unwaith i chi gyflwyno manylion eich cerdyn credyd i ni ac mae eich cwmni credyd wedi cytuno i'r taliad, bydd yn cael ei brosesu.

yn ôl i'r brig

Beth sy'n digwydd unwaith i mi roi fy manylion cerdyn credyd i chi?

Unwaith i chi anfon manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd atom ac mae'r taliad wedi ei gymeradwyo, bydd eich cyfrif yn cael ei ddebydu o fewn dau ddiwrnod gwaith.

yn ôl i'r brig

Pa wasanaethau allaf dalu amdanynt?

I ddechrau, gallwch dalu Treth y Cyngor a Threthi Busnes. Y bwriad yw cynnwys holl daliadau'r Cyngor ar-lein yn y dyfodol.

yn ôl i'r brig

Sut wyf yn cysylltu â chi ynghylch talu ar-lein?

Os oes raid i chi gysylltu â ni, bydd rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gael ar ben y ffurflen talu.

yn ôl i'r brig

Faint o'm Treth y Cyngor/Treth Busnes sy'n ddyledus?

Gydag amser, y bwriad yw eich galluogi i weld y swm sy'n ddyledus ar eich cyfrif. Yn y cyfamser, dylech gyfeirio at eich bil neu hysbysiad diweddaraf. Gallwch benderfynu ar y swm i'w dalu ond os na thalwch y swm sy'n ddyledus, ni fydd eich cyfrif yn ddiweddaredig.

yn ôl i'r brig

Pa gardiau fyddwch yn eu derbyn?

Gallwch ddefnyddio Visa, Mastercard, Visa Delta, Switch, Solo neu Electron. Nid ydym yn derbyn American Express na Diners Club.

yn ôl i'r brig

Beth os yw fy ngherdyn yn cael ei wrthod?

Nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n gwrthod eich cerdyn - eich banc neu gymdeithas adeiladu sy'n gwneud hyn. Os digwydd hyn, fe'ch cynghorwn i gysylltu â'ch banc neu gymdeithas adeiladu'n uniongyrchol.

yn ôl i'r brig

 
English
 

Cysylltiadau i

Cwestiynau a ofynnir yn aml - talu ar lein
Telerau ac Amodau
Sut i Gysylltu

VeriSign Secured Site Logo - link to validate this site is secure - this link will open a new browser window

cerdyn credyd/debyd logos

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint