|
Bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ledled gogledd Cymru. Yn y ddegawd ddiwethaf bu i’r nifer godi o 33% i 40%. Roedd 13.4% o boblogaeth Wrecsam yn cyfrif eu hunain yn siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 1991. Gofynnwyd cwestiwn mwy cyffredinol yng Nghyfrifiad 2001, a dangosodd hyn bod 22.9% o’r bobl leol yn meddu ar o leiaf un sgil yn yr iaith Gymraeg o’i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 28.4%.
| Ardal |
Adnabyddir fel Cymreig |
Meddu ar un sgil neu fwy yn yr iaith Gymraeg |
| Nifer |
% |
Nifer |
% |
| Wrecsam |
12,065 |
9.4 |
28,401 |
22.9 |
| Conwy |
13,289 |
12.1 |
42,174 |
39.7 |
| Sir Ddinbych |
9,829 |
10.6 |
32,469 |
36.0 |
| Sir y Fflint |
8,662 |
5.8 |
30,660 |
21.4 |
| Gwynedd |
31,356 |
26.8 |
85,847 |
76.1 |
| Ynys Môn |
12,975 |
19.4 |
45,534 |
70.4 |
| Gogledd Cymru |
88,176 |
13.3 |
265,085 |
40.0 |
| Cymru |
417,820 |
14.4 |
797,717 |
28.4 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol – Cyfrifiad 2001
Yng Nghyfrifiad 2001 roedd bron iawn i 1 o bob 7 o’r boblogaeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu darllen Cymraeg. Roedd ychydig dros 1 o bob 8 yn gallu ysgrifennu Cymraeg ac ychydig dros 1 o bob 9 yn gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg ac roedd gan 1 o bob 8 rhai sgiliau. Roedd gan oddeutu 4 o bob 5 o bobl dim sgiliau yn y Gymraeg.
| Gallu darllen % |
Gallu ysgrifennu % |
Dim sgiliau % |
Rhywfaint o sgiliau % |
Gallu darllen, ysgrifennu a siarad % |
| 14.82 |
12.32 |
77.10 |
12.00 |
10.90 |
Mae gan ychydig dros 2 o bob 5 o boblogaeth gogledd Cymru un sgil neu fwy yn y Gymraeg (yn ôl Cyfrifiad 2001). Yn Wrecsam mae’r gyfran ychydig dros 1 o bob 5. Mae’r ffigwr hwn yn uwch yng Ngwynedd ac Ynys Môn, sydd â’r cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Yng Nghymru’n gyffredinol mae’r ffigwr ychydig dros 1 o bob 4.
| Math |
Wrecsam |
Gogledd Cymru |
Cymru |
| Yr holl bobl |
128,476 |
641,286 |
2,805,701 |
| Un sgil yn y Gymraeg neu fwy |
28,401 |
265,085 |
797,717 |
| % |
22.1 |
41.3 |
28.4 |
Mae Cyngor Sir Wrecsam drwy ei Gynllun Iaith Cymraeg yn ceisio parhau i ymestyn y defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn y gymuned a gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg. Yng Nghyfrifiad 2001, Ponciau oedd â’r ddealltwriaeth fwyaf o’r Gymraeg ymysg ei drigolion. Roedd gan 49.92% o’r boblogaeth rhywfaint o ddealltwriaeth o’r iaith. Yn Nyffryn Ceiriog roedd gan 47% rhywfaint o ddealltwriaeth a 45% yn y Pant. Roedd gan yr ardaloedd sydd gerllaw'r ffin â Lloegr a Sir Caer yn arbennig Yr Orsedd (12%) a Holt (14%), lai o bobl gydag unrhyw ddealltwriaeth o’r Gymraeg er bod Queensway yn drydydd gydag ychydig yn llai na 15% yn meddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg.
|