Casglwyd gwybodaeth o ystod o ffynonellau i gyflwyno trosolwg ystadegol o Fwrdeistref Sirol Wrecsam a’i 47 adran/ward etholiadol. Mae’r tudalennau canlynol yn cynnwys gwybodaeth ystadegol i gynorthwyo preswylwyr, ymwelwyr a busnesau i gael gwell dealltwriaeth o gyfansoddiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal.
CyflwyniadWrecsam yw’r ganolfan fasnachol a gweinyddol yn ardal ddiwydiannol gogledd ddwyrain Cymru. Mae hefyd yn ganolbwynt naturiol i’r ardal sydd o’i hamgylch.
Mae Wrecsam wedi cadw ei hamgylchedd tref farchnad, er gwaethaf y ffaith bod gan y dref ganolfan siopa gyfoes i gerddwyr yn unig, sy’n cynnig cymysgedd o siopau lleol a chenedlaethol. Mae’r dalgylch yn ymestyn y tu hwnt i ffin y fwrdeistref ac yn denu siopwyr o ardaloedd y gororau sef Sir Gaer a Sir Amwythig ac o ganolbarth a gogledd Cymru.
Wrecsam yw’r dref fwyaf yng ngogledd Cymru a hi yw’r drydedd ganolfan fanwerthu fwyaf yng Nghymru ar ôl Caerdydd ac Abertawe.
Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam oddeutu 1000 o siopau, banciau, cymdeithasau adeiladu a swyddfeydd post ac mae 600 ohonynt o fewn cylchffordd fewnol y dref.
Yn y degawdau diwethaf gwelwyd newid mawr yng nghymeriad diwydiannol yr ardal wrth i’r diwydiannau glo a chynhyrchu briciau leihau a diflannu.
Atgynhyrchir deunydd sydd â hawlfraint y goron drwy ganiatâd Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi ac Argraffydd y Frenhines ar gyfer yr Alban. Rhif Trwydded Clic-defnyddio C02W0002178.
Y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Ystadegau
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Gwybodaeth perfformiad
Drwy ddilyn y dolenni sydd ar y wefan hon, gallwch ddarganfod pa mor dda yw perfformiad y gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal chi yng Nghymru. Cewch wybododaeth am bethau fel y gyfradd ailgylchu yn eich awdurdod lleol, ansawdd yr addysgu yn eich ysgol leol a'r rhestr aros ar gyfer eich ysbyty lleol. Gallwch hefyd gael data am eich ardal leol a darganfod beth y mae pobl Cymru yn ei feddwl am rai o'u gwasanaethau cyhoeddus allweddol.
Gwasanaeth Gwybodaeth am y Gweithlu Cenedlaethol Ar-lein (NOMIS)
Uned Gwella a Pherfformiad
Adran Cyllid a Pherfformiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR
Ffôn: 01978 292256
Ebost: statistics@wrexham.gov.uk