Strydoedd o Fri - 01978 298989
Mae 'Strydoedd o Fri' yn ymwneud â darparu gwasanaeth gwell i chi'r cwsmer, trwy roi un cysylltbwynt i chi ar gyfer pob gwasanaeth sy'n ymwneud â'ch strydoedd, priffyrdd a mannau agored. Byddem yn gwneud addewid glir am safon y gwasanaethau y byddem yn eu darparu a bydd adrannau'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod yr addewid hon yn cael ei chyflawni.
Mae llawer o wahanol wasanaethau sy'n cyfrannu at Strydoedd o Fri a gallwch weld rhestr ohonynt isod.
Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw beth sy'n effeithio ar y strydlun, fel sbwriel, baw cŵn, ailgylchu, goleuadau stryd diffygiol neu broblemau gyda'r ffordd neu'r pafin hyd yn oed. Ond cofiwch fod rhai troseddau fel gadael baw cŵn, gollwng sbwriel a thipio anghyfreithlon yn gallu arwain at ddirwy ac erlyniad.
Rydym eisiau gwneud hyn yn llwyddiant mawr i Wrecsam a dim ond gyda’ch help a’ch cydweithrediad chi y gallwn sicrhau strydoedd gwyrddach, glanach a diogelach - rhowch fri i’ch strydoedd!
Cysylltwch â Ni
Ffôn: 01978 298989
Ebost: cysylltwch@wrexham.gov.uk
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|