Costau Tir Lleol

Croeso i Gostau Tir Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ein hamcan yw rhoi canllaw hygyrch i drawsgludwyr eiddo i chwiliadau awdurdodau lleol, gan gynnwys ffioedd a manylion sefydliadau perthnasol eraill.  Gobeithiwn y bydd y wybodaeth a ddarperir yn ateb rhai o’r cwestiynau a ofynnir yn aml, ac a fydd yn hwyluso ac yn arbed amser i chi.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol dan Ddeddf Costau Tir 1975 i gadw Cofrestr o Gostau Tir Lleol.

Mae Costau Tir yn rhan o’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd sy’n darparu gwasanaeth cyfreithiol i holl adrannau’r cyngor.

Oriau arferol ein swyddfeydd yw: Dydd Llun i ddydd Iau: 8.45am i 5.15pm ac: 08.45am to 4.45pm ddydd Gwener.

1. Gwneud cais am Chwiliad Awdurdod Lleol

Gellir gwneud chwiliadau drwy’r post a chyfnewidfa dogfennau (DX) neu’n electronig, gan ddefnyddio’r Ffurflen Gais am Gostau Tir neu drwy’r NLIS (cyswllt allanol).

Wrth wneud cais drwy’r post am Chwiliad Awdurdod Lleol sicrhewch eich bod yn amgáu’r canlynol:

  • Dwy ffurflen LLC1
  • Dwy ffurflen CON29
  • Y ffi gywir - cofiwch y caiff chwiliadau eu dychwelyd os yw’r ffi yn anghywir.  Dylid gwneud sieciau’n daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.’
  • Rhaid gwneud cais am chwiliadau gyda chynllun.  Amlinellwch yr ardal yn amlwg sydd i gael ei chwilio mewn coch.  Mae’n hanfodol bod y cynllun hefyd yn dangos y ffyrdd/eiddo sydd gerllaw.

Sylwer

  • Nid ydym yn codi ffi ar wahân am chwiliadau ar frys ond os yw chwiliad yn un brys cysylltwch â’r uned costau tir a gwnawn ein gorau i roi blaenoriaeth i’r chwiliad.
  • Ar hyn o bryd mae chwiliad fel rheol yn cymryd 3 i 4 diwrnod gwaith.

Ffurflen Gais am Gostau Tir Arlein | Lawrlwytho Ffurflen Gais am Gostau Tir

Chwiliad Adnewyddu Am Ddim

Mae’r uned yn cynnig gwasanaeth adnewyddu am ddim am chwiliadau llawn.  Galluoga hyn i’r unigolyn a gyflwynodd y chwiliad gwreiddiol wneud cais am ddiweddariad sy’n rhad ac am ddim o fewn 6 mis i’r cais gwreiddiol drwy gwblhau ffurflen gais adnewyddu chwiliad.

2. Chwiliadau Personol a Mynediad at Wybodaeth

O 6ed Ebrill 2009 gellir cael ymateb i bob ymholiad CON29R gan yr Awdurdod fel y nodir isod.

Mae’r Uned Costau Tir Lleol yn darparu stop un siop ar gyfer yr ymholiadau  hynny ac yn cynnig y dewisiadau canlynol i gael mynediad i wybodaeth.

Gwybodaeth Gyflawn i Chwiliad Gwybodaeth CON29: Gellir cael y gofrestr gyhoeddus a’r ymatebion i’r CON29 drwy ymweld â’r uned Costau Tir Lleol ac fe’i darperir am bris rhesymol (gweler y tabl ffioedd a’r weithdrefn mynediad i wybodaeth).

Mae ein meddalwedd bresennol yn caniatáu i ni ofyn am ymatebion i bob ateb CON29 yn unig, felly, ar hyn o bryd ni allwn ddarparu ymateb i gwestiynau unigol.  Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr meddalwedd ar hyn o bryd i wireddu’r nod hwn.

Mynediad i Wybodaeth Chwiliad CON29 (ac eithrio Cynllunio, Priffyrdd a chofrestrau tiroedd halogedig):  Fel arall, gellir cael ymateb i wybodaeth y gofrestr gyhoeddus (Qu 1.1 (a) - (e) Cynllunio, 2 (a) Priffyrdd, 3.12 (a - c) am ddim yn uniongyrchol o’r adran (gweler y weithdrefn chwiliadau personol isod).  Gellir cael ymatebion CON29 i’r ymholiadau sy’n weddill drwy ymweld â’r Uned Costau Tir Lleol a chânt eu darparu am bris rhesymol.  (gweler y tabl ffioedd isod a’r weithdrefn chwiliadau personol).

Mynediad i ymholiadau CON29 a’r Weithdrefn Chwiliadau Personol

Mae’r weithdrefn ar gyfer cael gwybodaeth am chwiliadau fel a ganlyn:

  1. Gwnewch gais am atebion i’ch ymholiadau CON29R (gyda neu heb wybodaeth y gofrestr gyhoeddus) trwy ffacsio’r Ffurflen Gais am Chwiliad Personol a Data Crai a chynllun atom ar 01978 292247. Dylai atebion fod ar gael ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais. Fodd bynnag cysylltwch â’r Uned Pridiannau Tir ar 01978 292021 ar y pedwerydd diwrnod gwaith i gadarnhau bod yr atebion ar gael i’w casglu.
  2. Bydd yr uned Costau Tir yn rhoi gwybod i chi am y ffi sy’n daladwy i’r Swyddfa Arian cyn i chi gyrraedd i’ch apwyntiad (mae’r Swyddfa Arian yn cau am 4.00pm).

  3. Mae angen rhybudd o 24 awr i apwyntiadau am chwiliadau personol.  Ar hyn o bryd mae angen 4 diwrnod o rybudd am apwyntiadau am wybodaeth CON 29R (gall apwyntiadau a wneir cyn 10.00 am gyda’r cynllun perthnasol gael mynediad i ddata costau tir ar y pedwerydd diwrnod ar ôl 2.00pm.  Gall apwyntiadau a wneir ar ôl hyn gael mynediad i’r data ar y pumed diwrnod).  Cadarnheir diwrnod yr apwyntiad pan neilltuir yr apwyntiad i ddechrau.  Bydd amser yr apwyntiad yn adlewyrchu amseroedd gweithredu’r awdurdod lleol (4 diwrnod ar hyn o bryd), fodd bynnag gall yr amseroedd hyn newid yn dibynnu ar y llwyth gwaith.

  4. Bydd yr Uned Costau tir yn darparu taflen wedi ei hargraffu o’r data craidd ynghyd â’r ymatebion i’r chwiliad personol.

  5. Mae cofnodion y gofrestr gyhoeddus ar gael o’r swyddfeydd canlynol:

    Ffyrdd mabwysiedig – Adeiladau’r Goron, Stryt Caer, Wrecsam.

    Cofrestr Cynllunio – Neuadd y Dref Newydd, Stryt y Lampint, Wrecsam.

    Cofrestr Tir Halogedig – Swyddfeydd Rhiwabon, Stryt Fawr, Rhiwabon, Wrecsam.

Lawrlwtho’r Ffurflen Gais am Chwiliad Personol a Data Crai

3. Mynediad at Ddata Eiddo dan y Rheoliadau Gwybodaeth am yr Amgylchedd

Bydd mynediad i’w gael at ddata amgylcheddol er mwyn cael gwybodaeth ar gyfer ymholiadau chwiliadau lleol fel a ganlyn:-

Cysylltwch â’r adran berthnasol (gwelwch isod) i wneud trefniant i edrych ar ffynhonnell y wybodaeth.

Sylwch mai eich cyfrifoldeb chi yw archwilio a dehongli’r ffynhonnell wybodaeth. Nid yw’r adran yn gallu cynhorthwy gyda dehongli dogfennau.

Adran Cwestiynau
Rheoli Adeiladu
Stryt y Lampint
Wrecsam
Ffôn: 01978 292491
1.1 (f - h)
3.3
3.7 (a)
3.8
3.13
Uned Priffyrdd
Adeiladau’r Goron
Stryt Caer
Wrecsam
Stephen Jones
Ffôn: 01978 297158
2 (a – d)
3.2
3.4 (a – f)
3.6 (a – k)
3.7 (a)
Pridiannau Tir
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Ffôn: 01978 292021
3.9 (a – n)
3.11
Adran Gynllunio
Stryt y Lampint
Wrecsam
Ffôn: 01978 292491
1.1 (a – e)
1.2
3.1
3.5
3.10
Diogelu’r Cyhoedd
Swyddfeydd Rhiwabon
Stryd Fawr
Rhiwabon
Wrecsam
Ffôn: 01978 813722
3.7 (b, c, d, f)
3.12

Graddfeydd Ffioedd

Cais Ffi - Ceisiadau Post Ffi - Ceisiadau Arlein
LLC1 yn unig - rhan gyfan o'r gofrestrfa £6.00 £4.00
LLC1 a CON29R (Preswyl) £100.00 £75.00
LLC1 a CON29R (Masnachol/Diwydiannol) £125.00 £100.00
CON29R Rhan 2 Ymholiadau £10.00 yr un £10.00 yr un
Ymholiadau Ychwanegol £17.00 yr un £17.00 yr un
Parseli o Dir Ychwanegol £11.00 yr un £11.00 yr un
Cais Ffi
Chwiliad Personol £11.00
Mynediad i holl wybodaeth y CON29R– drwy ymweld â’r Uned Costau Tir. £47.00
Mynediad i wybodaeth CON29R (heb, wybodaeth o'r Adran Cynllunio, Priffyrdd, cofrestr tir halogedig) drwy ymweld â’r Uned Costau Tir. £38.00

Y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS)

Mae’r NLIS y fenter gan y llywodraeth sy’n darparu gwasnaethau’n electronig, a’r amcan yn y pen draw yw cyflymu’r broses drawsgludo drwy ddefnyddio trafodion electronig.

Mae’r gwasanaeth yn cysylltu cwmnïau cyfreithiol, trawsgludwyr a darparwyr data megis Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi (cyswllt allanol) a chostau cofrestrfeydd tir awdurdodau lleol.

Yn Wrecsam mae gennym gysylltiad â’r NLIS i lefel 2 a gallwn dderbyn ceisiadau a ffioedd yn electronig a gallwn hefyd eu dychwelyd yn electronig.

Rydym yn annog defnyddwyr ein gwasanaeth i ddod yn ddefnyddwyr NLIS. I ganfod mwy (gan gynnwys ffioedd) ewch i www.nlis.org.uk (cyswllt allanol) neu ewch i’r wefan isod:

Darparwyr Sianeli NLIS

www.searchflow.co.uk
Ffôn: 0845 250 7040.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009

Ffioedd Tir Lleol-Costau Amcangyfrifedig Data Amrwd a Nifer y Chwiliadau 2009/2010

Cyfrifwyd y ffioedd uned ar gyfer cofnodion eiddo fel a ganlyn Amcangyfrifon y costau llawn am chwiliadau data amrwd yw £59,720

Amcangyfrifon y nifer o geisiadau am chwiliadau data amrwd yw 1280

Mae sail yr amcangyfrifon yn unol â Rheoliad 6(2) – Amcangyfrif rhesymol y costau tebygol wrth roi mynediad at gofnodion eiddo.

Y ffordd mwyaf cost-effeithiol o ddarparu’r gwasanaeth hwn yw cael siop un stop yn yr uned Ffioedd Tir ble mae arbedion maint a’r defnydd o TG yn galluogi’r uned i ddarparu’r wybodaeth yn rhatach na bod y chwiliwr yn ymweld ag adrannau unigol i gael y wybodaeth.

Mae nifer y chwiliadau yn seiliedig ar y rhif o 1217 o chwiliadau personol a dderbyniwyd yn 2008/9 a chynnydd canrannol bach

Gan fod y ddarpariaeth o fynediad at wybodaeth yn cael ei gynhyrchu drwy ein meddalwedd Ffioedd Tir dim ond mewn fformat grynöedig y gallwn ni ddarparu mynediad at wybodaeth.

Ni allwn ychwaith roi atebion i gwestiynau unigol oherwydd anhyblygrwydd ein meddalwedd. Fodd bynnag rydym yn gweithio gyda chyflenwyr ein meddalwedd ar hyn o bryd i oresgyn y broblem hon.

Data Amrwd £ (Prisiau) Adrannau
1. Costau Uniongyrchol 31,863 (ffioedd tir priffyrdd a chynllunio)
2. Gorbenion 8,884
3. Anfonebu Mewnol Adrannau Allanol 18,973 (Rheoli Iechyd a Diogelwch)
Cyfanswm 59,720  
Nifer amcangyfrifedig o chwiliadau = 1,280    
Cost fesul chwiliad 47  

Nodiadau:

1. Mae’r costau hyn yn cynnwys dyraniad amser staff Ffioedd Tir yn seiliedig ar % pro-rata a gafwyd gan ddefnyddio data cofnodi amser. Hefyd cynhwysir elfen o gostau rhedeg swyddfa fel defnyddiau traul wedi’u dyrannu ar yr un sail.

2. Mae gorbenion yn cynnwys gwresogi, goleuo a chostau yswirio adeiladau- Hefyd elfen o anfonebu mewnol costau cymorth i’r gwasanaeth Ffioedd Tir yn ei chrynswth fel costau TG. Dyrennir y costau hyn ar sail data cofnodi amser.

3. Dyma’r costau a godir gan Adrannau Allanol fel Amgylchedd, Iechyd a Rheoli Adeiladu/Cynllunio sydd i’w priodoli’n uniongyrchol i ddarparu’r chwiliad Data Amrwd.

Mae mynediad at wybodaeth data amrwd CON29R heb gynnwys Cynllunio C 1.1 (a) i (e) Priffyrdd C2 (a) ac Iechyd C 3.12 (a) a (b) (ii) (gwybodaeth cofrestr gyhoeddus) wedi’i asesu drwy dynnu amser swyddogion yn ateb y cwestiynau hyn (Priffyrdd £2, Cynllunio £5 ac Iechyd £2) Cyfanswm cost £38.

A yw'r Eiddo yn ein Hardal?

Os nad ydych yn sicr os yw eiddo yn ein hardal, ffoniwch ni am gadarnhad ar 01978 292021.

Yr Awdurdodau Lleol eraill sy'n ffinio â ni yw:

Cyngor Sir Ddinbych
Ffôn: 01824 706379

Cyngor Sir y Fflint
Ffôn: 01352 702335

Chester City Council
Ffôn: 01244 402585

Oswestry Borough Council
Ffôn: 01691 671111

Cyngor Sir Powys
Ffôn: 01597 826000

Chwiliadau Draeniad

Bydd Dŵr Cymru Blwch SP 10 Treharris CF46 6XZ. Ffôn 01443 331155 yn ymdrin agymholiadau draeniad.

Sylwadau ac ymholiadau

Os hoffech wybodaeth bellach am Gostau Tir Lleol cysylltwch â 01978 292021 neu ysgrifennwch at:

Cyfeiriad: Prif Swyddog Gwasanaeth Cyfreithiol a Democrataidd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY

DX: 26672 – Wrexham

Ebost:  landcharges@wrexham.gov.uk

Dogfennau

Ffurflen Gais Chwiliad

Mae'r ffurflen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Gais Chwiliad - fformat Word 45Kb

Ffurflen Gais Chwiliad - fformat PDF 17Kb

Ffurflen Gais Chwiliad - fformat Testun Plaen 88Kb

Ffurflen Gais Adnewyddu Chwiliad

Mae'r ffurflen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Gais Adnewyddu Chwiliad - fformat Word 32Kb

Ffurflen Gais Adnewyddu Chwiliad - fformat PDF 15Kb

Ffurflen Gais Adnewyddu Chwiliad - fformat Testun Plaen 59Kb

Ffurflen Gais am Chwiliad Personol a Data Crai

Mae'r ffurflen ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Ffurflen Gais am Chwiliad Personol a Data Crai - fformat Word 22Kb

Ffurflen Gais am Chwiliad Personol a Data Crai - fformat PDF 12Kb

Ffurflen Gais am Chwiliad Personol a Data Crai - fformat Testun Plaen 9Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig

Cysylltiadau Defnyddiol