Adran
Cynllunio
Yma i'ch helpu chi
cefnogi datblygiad economaidd a diwylliannol y Fwrdeistref Sirol a diogelu
a gwella'r amgylchedd adeiledig a naturiol
Beth yw cyfeiriad y Gwasanaeth Cynllunio?
Beth yw oriau agor swyddfa'r Gwasanaeth Cynllunio?
Beth yw Cynllunio?
Pa ardaloedd mae’r Adran Cynllunio yn ei gynnwys?
Sut all Cynllunio fy helpu i?
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Sut ydw i'n gwneud cais cynllunio?
Faint fydd y gost?
O le fedra i gael map?
Pwy fydd yn penderfynu ar fy nghais cynllunio?
Sut allaf wneud sylwadau am gais cynllunio?
Allwch chi roi manylion i mi am gais cynllunio?
Sut allaf i ganfod os ceir datblygiad newydd yn fy ardal?
Pwy sy'n penderfynu lle caniateir adeiladu?
A fedrwch chi roi gwybodaeth i mi am eiddo?
All yr Adran Cynllunio fy nghynorthwyo ag anghydfod ynghylch ffin?
Sut allaf ganfod os ceir unrhyw gynigion datblygu yn fy ardal?
A yw fy nghymydog wedi cael hawl cynllunio?
Pwy sy'n berchen ar ddarn o dir?
A allaf ganfod os oes perygl i'm ty gael ei orlifo?
Oes angen caniatâd arnaf i docio fy nghoed?
A allwch chi ddweud mwy wrthyf am Safleoedd Bywyd Gwyllt a gwrychoedd?
Pryd fydd y gwasanaethau cynllunio ar gael yn electronig?
Beth yw Porth Cynllunio?
A oes gennych chi unrhyw nodiadau cyfarwyddyd cynllunio?
A yw'r wybodaeth cynllunio ar gael ar ffurfiau gwahanol?
Pam fo Rheoliadau Adeiladau'n bodoli?
A oes angen cymeradwyaeth Rheoli Adeiladau ar fy ngwaith adeiladu?
A oes angen i mi gael cynlluniau ar gyfer cymderadwyaeth Rheoli Adeiladau?
Allaf i gael grant i wella fy eiddo?
Beth allaf ei wneud os nad ydw i'n fodlon â gwasanaeth yr wyf wedi ei dderbyn?
Beth allaf ei wneud os nad ydw i'n fodlon â'r hyn mae fy nghymydog yn ei wneud?
Beth allaf ei wneud os nad ydw i'n fodlon â'r penderfyniad am fy nghais cynllunio?
Beth allaf ei wneud os nad yw fy nghwestiwn am gynllunio yn ymddangos yma?
Beth yw cyfeiriad y Gwasanaeth Cynllunio?
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Adran Cynllunio,
Stryt y Lampint,
Wrecsam LL11 1AR.
Llinell Gymorth: 01978 292016
Ffacs: 01978 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Gwefan: www.wrecsam.gov.uk/cynllunio
Ffurflen Ymholiad Ar-lein
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut wyf yn gwneud cais cynllunio?
Mae ein swyddfeydd ar agor i ymwelwyr rhwng 8.45 a 5.15 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.45 i 4.45 ar ddydd Gwener. Neu gallwch ein ffonio rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gellir gwneud trefniadau arbennig gyda swyddogion unigol ar gyfer cyfarfodydd y tu allan i'r orau hyn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw Cynllunio?
Mae cynllunio'n ymwneud â sut y gwna bobl benderfyniadau am ein trefi, ein pentrefi a'n cefn gwlad. Pan fydd rhywun am adeiladu ty neu ddatblygu canolfan siopa bydd eich awdurdod cynllunio lleol yn Wrecsam yn gyfrifol am benderfynu p'un ai y rhoddir caniatâd i'r datblygiad.
Os hoffech fod yn rhan o'r broses i benderfynu beth sy'n digwydd yn eich ardal cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld yr ystod o wasanaethau a gynigiwn;
Hafan Cynllunio www.wrecsam.gov.uk/cynllunio
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pa ardaloedd mae’r Adran Cynllunio yn ei gynnwys?
Mae’r adran yn gweithredu yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cynllun o Fwrdeistref Sirol Wrecsam
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i’n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
Hafan Cynllunio www.wrecsam.gov.uk/cynllunio
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut all Cynllunio fy helpu i?
Mae Gwasanaeth Cynllunio Wrecsam yma i’ch helpu chi i fod ynghlwm wrth y prif weithgareddau canlynol:
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i’n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
Hafan Cynllunio www.wrecsam.gov.uk/cynllunio
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Nid oes angen caniatâd cynllunio ar bob datblygiad, ond bydd angen caniatâd ar rai newidiadau neu newid defnydd sy'n ymddangos yn ddigon syml a dibwys. Mae gennym ganllaw syml ar ein gwefan o'r enw 'Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?'a allai fod o gymorth a cheir llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan cynllunio'r llywodraeth. Os oes gennych unrhyw amheuon, defnyddiwch y ffurflen ymholi ar-lein gan roi gymaint o fanylion ag sy'n bosib a gwnawn gadarnhau'r sefyllfa.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut ydw i'n gwneud cais cynllunio?
Bydd angen ffurflen gais sydd ar gael o'n swyddfeydd neu ar ein gwefan. Dylid dychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau gyda'r cynlluniau a'r ffi at yr adran cynllunio. Ceir nodiadau cyfarwyddyd i'ch helpu chi i lenwi eich ffurflenni ar ein gwefan, neu gallwch ffonio ein llinell gymorth ar 01978 292016.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Faint fydd y gost?
Bydd angen talu gwahanol ffioedd yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn gwneud cais amdano.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
O le fedra i gael map?
Mae cynlluniau lleoliadau ar gael i'w prynu o'r Adran Cynllunio pan fyddwch chi'n cyflwyno eich cais cynllunio. Fel arall, gellir prynu mapiau ar-lein o'r porth cynllunio neu ar wefan yr Arolwg Ordnans neu gan Booklands, Caer sy'n asiant i Arolwg Ordnans.
Adran Mapiau Bookland,
12 Bridge Street,
Chester, CH1 1NQ.
Ffôn: 01244 401920
Porth Cynllunio www.planningportal.gov.uk
Arolwg Ordnans www.ordnancesurvey.co.uk .
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pwy fydd yn penderfynu ar fy nghais cynllunio?
Mae swyddogion cynllunio yn ymdrin â phob cais cynllunio ac yn ymgynghori gyda chymdogion a phobl eraill perthnasol. Maent yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 8 wythnos os na dderbynnir gwrthwynebiad i'ch cynnig. Os derbynnir gwrthwynebiad bydd angen i'r cais fynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio i'r Cynghorwyr benderfynu p'un ai y dylid rhoi caniatâd. Mae'r manylion am y Pwyllgor Cynllunio h.y yr aelodau, dyddiadau, agendau ar gael ar ein gwefan.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf wneud sylwadau am gais cynllunio?
Rhaid anfon unrhyw sylwadau yr ydych am eu gwneud yn ysgrifenedig neu mewn e-bost (gellir defnyddio ffurfiau neu wneud trefniadau eraill) a bydd angen i'r sylwadau gyrraedd cyn y dyddiad cau - fel arfer 21 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad safle gael ei arddangos. Bydd yr holl sylwadau ar gael i unrhyw un eu darllen ac mae'n rhaid iddynt fod yn berthnasol i faterion cynllunio. Ni dderbyniwn unrhyw sylwadau hiliol.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Allwch chi roi manylion i mi am gais cynllunio?
Mae manylion cryno ceisiadau diweddar i'w gweld ar ein gwefan. Mae pob cais cynllunio ar gael i'w harchwilio yn ystod oriau swyddfa, ond bydd cost am wneud copïau o fanylion y cais. Os ydych yn dymuno siarad â swyddog arbennig am gais, bydd angen i chi ffonio yn gyntaf i wneud apwyntiad.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf i ganfod os ceir datblygiad newydd yn fy ardal?
Cyhoeddir 'Rhestr o Geisiadau Cynllunio Newydd" yn wythnosol ac mae ar gael i'w gweld yn ein derbynfeydd ac ar ein gwefan. Gellwch hefyd weld cynlluniau'r ceisiadau yn ein derbynfa. Rhaid anfon unrhyw sylwadau yr ydych am eu gwneud yn ysgrifenedig neu mewn e-bost (gellir defnyddio ffurfiau neu wneud trefniadau eraill).
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pwy sy'n penderfynu lle caniateir adeiladu?
Mae Cynllun Datblygu yn gosod y cynigion a'r polisïau ar gyfer defnydd tir yn y fwrdeistref. Mae'n nodi'r tir y dylid ei ddiogelu a hefyd y tir sy'n addas ar gyfer datblygiad yn unol ag anghenion y gymuned. Cymeradwywyd Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam ym mis Chwefror 2005 a gellir ei weld ym mhob llyfrgell leol, yn y swyddfa cynllunio ac ar ein gwefan. Ceir Crynodebau Poblogaidd o'r cynllun sy'n canolbwyntio ar dref Wrecsam, pentrefi trefol a gwledig a chefn gwlad.
Os hoffech fod ynghlwm wrth benderfynu lle y dylid caniatáu datblygiad yn eich cymuned, cysylltwch â'r Adran Polisi Cynllunio ar 01978 292013 neu ewch i'n gwefan. Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A fedrwch chi roi gwybodaeth i mi am eiddo?
Gellir archwilio'r gofrestr cynllunio, am ddim yn ystod oriau swyddfa. Fodd bynnag, codir tâl am unrhyw gopïau y gwneir cais amdanynt .
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
All yr Adran Cynllunio fy nghynorthwyo ag anghydfod ynghylch ffin?
Nid ydym yn ymdrin ag anghydfodau am ffiniau gan mai ar y gweithredoedd yn unig y dangosir y diffiniad cywir o ffin yr eiddo ar ei weithredoedd. Yn aml gall y Gofrestra Tir yn Abertawe fod o gymorth . Ffoniwch 01792 355000.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf ganfod os ceir unrhyw gynigion datblygu yn fy ardal?
Mae Cynllun Datblygu yn gosod y cynigion a'r polisïau ar gyfer defnydd tir yn y fwrdeistref. Mae'n nodi'r tir y dylid ei ddiogelu a hefyd y tir sy'n addas ar gyfer datblygiad yn unol ag anghenion y gymuned. Cymeradwywyd Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam ym mis Chwefror 2005 a gellir ei weld ym mhob llyfrgell leol, yn y swyddfa cynllunio ac ar ein gwefan. Ceir Crynodebau Poblogaidd o'r cynllun sy'n canolbwyntio ar dref Wrecsam, pentrefi trefol a gwledig a chefn gwlad.
Os hoffech fod ynghlwm wrth benderfynu lle y dylid caniatáu datblygiad yn eich cymuned, cysylltwch â'r Adran Polisi Cynllunio ar 01978 292013 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw fy nghymydog wedi cael hawl cynllunio?
Gellir darganfod hyn yn gyflym drwy gyfeirio at y gofrestr statudol yn yr Adran Gynllunio. Fodd bynnag nid oes angen caniatâd cynllunio ar bob estyniad / newid. Gall ein swyddogion archwilio cwynion am ddefnydd tir neu adeiladau i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â rheolau cynllunio.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pwy sy'n berchen ar ddarn o dir?
Cysylltwch â'r Gofrestrfa Tir yn Abertawe ar 01792 355000. Os credwch mai'r Cyngor sy'n berchen ar y tir, cysylltwch â'r Isadran Cynllunio Eiddo yn Adeiladau'r Goron, Stryt Caer ar 01978 297213, lle cedwir y Gofrestr o Dir Dan Berchnogaeth y Cyngor.
Cyswllt i'r Wefan
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i’n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A allaf ganfod os oes perygl i'm ty gael ei orlifo?
Gellwch ganfod os yw eich ty mewn drwy ddefnyddio gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd, mewngofnodwch eich côd post i weld os ydych mewn perygl ar y map llifogydd. Gellwch ddod o hyd i sut y gallech ddiogelu eich hun rhag llifogydd a sut y gallai effeithio ar yswiriant eich ty. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd ar 08708 506 506 neu ewch i'w gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Allaf i weld cynlluniau gwreiddiol fy nghartref neu ystâd?
Daeth deddfwriaeth gynllunio i rym yn 1947, felly os adeiladwyd eich cartref ar ôl y dyddiad hwnnw, dylai'r manylion fod ar gael i'w harchwilio.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan ar y we.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth os wyf yn byw mewn Adeilad Rhestredig neu Ardal Gadwraeth?
Am gyngor ynghylch adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, pa newidiadau y gellwch eu gwneud i adeiladau a ph'un ai oes grantiau cadwraeth ar gael, cysylltwch â Chynllunio Amgylchedd ar 01978 292019 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Oes angen caniatâd arnaf i docio fy nghoed?
Mae’n bosibl bod coed sy’n ffinio eich eiddo yn cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed. (TPO) neu’n rhan o ardal gadwraeth. Am gyngor ynghylch coed neu wrychoedd uchel cysylltwch â Chynllunio Amgylchedd ar 01978 292019 neu ewch i’n gwefan;
Am gyngor ynghylch coed ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, ffoniwch 01978 292043.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A allwch chi ddweud mwy wrthyf am Safleoedd Bywyd Gwyllt a gwrychoedd?
Am wybodaeth am fywyd gwyllt Wrecsam, cynefinoedd, diogelu a chymorth grant ar gyfer gwrychoedd neu wybodaeth am Gynllun Bioamrywiaeth y cyngor cysylltwch â Chynllunio Amgylchedd ar 01978 292019 neu ewch i'n gwefan
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pryd fydd y gwasanaethau cynllunio ar gael yn electronig?
Mae gan yr adran gynllunio lawer o wybodaeth a gwasanaethau ar gael ar y wefan, fodd bynnag, rydym yn gwella ein gwasanaethau’n barhaus ac yn gobeithio cynnig pob un o’n gwasanaethau yn electronig erbyn 2006. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno ceisiadau cynllunio a rheoli adeiladu ar-lein, gweld a gwneud sylwadau am ddatblygiadau neu gynigion polisi.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i’n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw Porth Cynllunio?
Mae’r porth cynllunio yn siop-un-stop i gael gwybodaeth a gwasanaethau ar-lein, a luniwyd i gynorthwyo unrhyw un sydd am wybod mwy am y broses gynllunio yng Nghymru a Lloegr. Gan weithio ochr yn ochr â gwefan yr awdurdod lleol - ffynhonnell cyngor a chymorth ardderchog arall am faterion cynllunio, mae manteision e-gynllunio yn amlwg - rydych yn llawer mwy tebygol o gael caniatâd i’ch cais cynllunio ar y cais cyntaf, gan leihau oedi ac arbed arian i chi. Bwriedir y Porth Cynllunio ar gyfer deiliaid cartrefi a busnesau. Mae’n esbonio pam fo angen rheolaethau cynllunio a sut y gwneir penderfyniadau.
Mae’r Porth Cynllunio yn eich cynorthwyo i:
- Ddysgu am y system gynllunio
- Wneud cais am ganiatâd cynllunio
- Ganfod mwy am ddatblygiad yn eich ardal
- Apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio
- Ymwchwilio i bolisi diweddaraf y llywodraeth
Porth Cynllunio.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes gennych chi unrhyw nodiadau cyfarwyddyd cynllunio?
Mae gennym ystod o Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol sydd ar gael i'ch cynorthwyo chi gydag ymholiadau datblygu penodol a cheir rhestr ohonynt isod.
Ceir hefyd nodiadau cyfarwydd sy'n helpu gydag ystod eang o bynciau cynllunio a rheoli adeiladau gan gynnwys eich helpu i lenwi ffurflen gais, rhoi gwybod i chi sut i ddweud eich dweud am gynnig , esbonio am gynlluniau datblygu yn eich ardal neu wybodaeth am drawsnewid croglofft. Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i'n hafan:
-
Hysbysebion
-
Gwerthuso
Amaethyddol
-
Addasu Ysguboriau
-
Ardaloedd
Cadwraeth
-
Addasu Eiddo
Preswyl Yn Dai Amlbreswyl
-
Mynediad
i Adeiladau ar gyfer Pobl Anabl
-
Tirlunio
-
Cerbydau
Llogi Preifat
-
Bwytai,
Tafarnau, Bwytai Bwyd Parod Poeth
-
Lle Agored
Cyhoeddus ar gyfer Datblygiadau Tai Newydd
-
Tai Teras
Yn Wrecsam
-
Wynebau
Siopau
-
Tai Yng
Nghefn Gwlad
-
Ymestyn
Gerddi Yng Nghefn Gwlad
-
Beicio
-
Safonau
Parcio
-
Coed a Datblygiad
-
Diogelwch
Blaen Siop
-
Ardaloedd
Cymeriad Tref Wrecsam
-
Estyniadau
Tai
-
Lle o Gwmpas
Anheddau
-
Adeiladu Cynaliadwy
-
Datblygu Safleoedd ar Dir Llygredig
-
Cynllunio i Atal Trosedd
-
Lleoli Dysglau Teledu Lloeren
-
Y Dirwedd a Datblygiad Diwydiannol
-
Cyfraniadau Datblygwyr i Ysgolion
- Tai Fforddiadwy
Daflenni Gwybodaeth
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i’n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw'r wybodaeth cynllunio ar gael ar ffurfiau gwahanol?
Gellwch wneud cais am wybodaeth a gyhoeddir mewn print bras, Braille, Moon neu dâp sain drwy gysylltu â’r Adran Gynllunio. Gellwch hefyd gwblhau cais ar-lein ar y wefan hon.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’n llinell gymorth ar 01978 292016 neu ewch i’n hafan ar y we i weld ystod y gwasanaethau a gynigiwn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pam fo Rheoliadau Adeiladau'n bodoli?
Mae rheoliadau adeiladau yn darparu camau i ddiogelu iechyd, diogelwch ac iechyd pobl mewn ac o amgylch adeiladau. Maent yn sicrhau y darperir mynediad a chyfleusterau i bawb ac y caiff adeiladau eu hadeiladu i safon uchel sy'n arbed gwres ac egni.
Cysylltwch â'r adran Rheoli Adeiladau ar 01978 292050 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes angen cymeradwyaeth Rheoli Adeiladau ar fy ngwaith adeiladu?
Yn gyffredinol mae unrhyw waith, newid neu estyniad newydd i adeiladau presennol, newid defnydd neu drosi yn y groglofft i ddarparu ystafell ychwanegol angen Cytundeb Rheoliadau Adeiladu. Bydd angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladau ar gyfer unrhyw waith trydanol neu newidiadau i wifriad presennol oni bai y cwblheir y gwaith gan drydanwr cymwys sydd wedi ei gofrestru â chorff cydnabyddedig .
Cysylltwch â Rheoli Adeiladau ar 01978 292050 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes angen i mi gael cynlluniau ar gyfer cymderadwyaeth Rheoli Adeiladau?
Ar gyfer ceisiadau domestig, mae dwy broses, naill ai:
Cynlluniau Llawn – Dylid cyflwyno cynlluniau adeiladu i’w cymeradwyo, neu,
Hysbysiad Adeiladu – nid oes angen cynlluniau ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am yr hyn rydych am ei adeiladu. Dylech chi neu eich adeiladwr sicrhau bod y cynnig yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Byddwn yn archwilio’r gwaith ac yn eich cynghori’n rheolaidd. Ni roddir cymeradwyaeth ffurfiol.
Fe’ch cynghorir i ofyn am archwiliad cwblhau a thystysgrif er gwybodaeth i chi yn y dyfodol. Bydd angen cynlluniau ar gyfer pob cynnig arall.
Cysylltwch â Rheoli Adeiladau ar 01978 292050 neu ewch i’n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Allaf i gael grant i wella fy eiddo?
Nid yw darparu cymorth grant ar gyfer eiddo preifat yn gyfrifoldeb ar yr Adran Cynllunio ond mae grantiau ar gael gan yr Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd. Mae ganddynt gyllid ar gyfer atgyweiriadau a newidiadau i eiddo i'r rheiny sydd ag anableddau ac am resymau iechyd a diogelwch.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'r Is-Adran Grantiau ar 01978 292050 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth allaf ei wneud os nad ydw i'n fodlon â gwasanaeth yr wyf wedi ei dderbyn?
Mae gennym weithdrefn gwynion a ddefnyddiwn i wneud ein gorau i roi canlyniad boddhaol i'ch cwyn neu sylwadau.
Cysylltwch â'r staff sydd ynghlwm wrth eich cwyn neu eu rheolwr i weld a allant ddatrys eich pryderon neu ffoniwch ein llinell gymorth ar 01978 292516 am gopi o'r weithdrefn gwyno.
Gall y Prif Swyddog Cynllunio gymryd camau pellach a allai fod o gymorth ac yna Rheolwr Archwilio'r Cyngor os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniadau.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell cymorth 01978 292016 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth allaf ei wneud os nad ydw i'n fodlon â'r hyn mae fy nghymydog yn ei wneud?
Gall ein swyddogion wirio p'un ai yw eich pryderon yn dod i mewn i reoliadau cynllunio ac a dderbyniwyd caniatâd cynllunio. Ffoniwch Rheoli Cynllunio ar 01978 292017.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell gymorth 01978 292016 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth allaf ei wneud os nad ydw i'n fodlon â'r penderfyniad am fy nghais cynllunio?
Trafodwch eich pryderon gyda'r swyddog cynllunio a ddeliodd â'ch cais cynllunio, gan efallai y gellwch ei ddiwygio i ddatrys rhai problemau blaenorol. Efallai y bydd gennych hawl i gyflwyno ail gais heb unrhyw gost. Fel arall, gellwch apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn chwe mis i wneud y penderfyniad.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â'n llinell cymorth 01978 292016 neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth allaf ei wneud os nad yw fy nghwestiwn am gynllunio yn ymddangos yma?
Ffoniwch ein llinell gymorth ar 01978 292016 a gwnawn ein gorau i ateb eich ymholiad neu ewch i'n gwefan.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Mynegai Cynllunio
|