skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Gweinyddiaeth Cynllunio

 

Un o brif amcanion yr Is-Adran yw darparu cefnogaeth weinyddol effeithiol ac effeithlon i’r Adran Gynllunio a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n gyson ag ymrwymiad y Cyngor i ofalu am ei gwsmeriaid.

Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaeth derbynfa croesawgar ac effeithiol i aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â’r Adran drwy sicrhau eu bod yn derbyn yr holl wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Ymrwymiad

  • Cefnogi gwaith yr isadrannau eraill drwy ddarparu systemau gweinyddol effeithiol.

  • Sicrhau bod y swyddog achos yn derbyn ffeiliau cais cynllunio o fewn 2 ddiwrnod gwaith o dderbyn cais dilys a sicrhau y cyhoeddir hysbysiadau o benderfyniadau o fewn 24 awr o’r penderfyniad perthnasol.

  • Darparu gwybodaeth berthnasol am eiddo i Is-Adran Pridiannau Tir y Cyngor.

Prosesu Cais Cynllunio

  • Dilysu a mewnosod gwybodaeth gynllunio ar y system gyfrifiadurol (dydd 1af)

  • Cydnabod derbyn y wybodaeth a chynhyrchu’r holl hysbysiadau safle a llythyrau ymgynghori (2il ddiwrnod)

  • Anfon y ffeil at Swyddogion Rheoli Datblygiad i brosesu a phenderfynu (2il ddiwrnod)

  • Cyflawni unrhyw hysbysiadau neu ymgynghoriadau ychwanegol

  • Paratoi Adroddiadau Pwyllgor ar gyfer aelodau o Banel Cynllunio’r Cyngor

  • Anfon Tystysgrif o Benderfyniad at yr Ymgeisydd neu Asiant.

Cofrestr Statudol

Gall aelodau’r cyhoedd weld cofrestr o holl geisiadau cynllunio o fewn y Fwrdeistref Sirol. Ers Ebrill 1996, cedwir y gofrestr hon ar gyfrifiadur. Gellir hefyd cael mynediad i fanylion o geisiadau cynllunio blaenorol a phresennol y mae’n bosibl eu bod o ddiddordeb.

Yn ogystal â cheisiadau cynllunio, mae’r system gyfrifiadurol yn dangos gwybodaeth arall a all fod yn berthnasol i rywun sy’n ystyried datblygiad. Dangosir rhestr lawn isod:

Cyfleuster Chwilio am Geisiadau Cynllunio Ar Lein.

Taflenni Cyfarwyddyd

Mae cyfres o lyfrynnau a thaflenni sy’n cynnwys ystod eang o bynciau ar gael yn y dderbynfa ar gyfer y cyhoedd. Mae’r pynciau’n cynnwys Rheoli Adeiladau a Chynllunio.

Eu hamcan yw rhoi cyngor a chyfarwyddyd i’r cyhoedd am y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ceisiadau fel y gellir rhagweld unrhyw broblemau cyn i gyflwyniad ffurfiol am gymeradwyaeth gael ei dderbyn gan yr Adran Gynllunio.

Gellir gweld rhestr gyflawn isod.

  • Cynllunio - Canllaw i Gartrefi

  • Cyfeirlyfr i Fusnesau Bach a Chartrefi

  • Cynllunio - Safonau Siartr

  • Hysbysebion ac Arwyddion Tu Allan

  • Lle o Amgylch Adeiladau Preswyl

Ewch i Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol>>

Llun o application formsFfurflenni Cais

Mae ffurflenni dwyieithog ar gael ar gais ar gyfer pob math o geisiadau Cynllunio a Rheoli Adeiladau.

Ewch i Ffurfleni Cais >>

Mapiau Ordnans

Mae’r Adran Gynllunio’n cymryd rhan yn y Cynllun Cynllunio a Rheoli Adeiladau lle gellir cael copïau papur o ddarnau o fapiau i gyd-fynd â chyflwyniadau i’r Adran Gynllunio.

Mae’r Is-Adran yn gweinyddu’r Cynllun ar ran yr Arolwg Ordnans.

Ble alla'i gael map?>>

Cysylltwch â: Adran Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: (01978) 292016.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk


Rheoli Cynllunio

Mynegai Cynllunio

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint