|
Mae
adeiladau rhestredig yn werthfawr ac yn derfynedig. Maent yn cyfoethogi
cymeriad, golwg a hunaniaeth yr amgylchedd, ac maent yn atgoffâd
pwysig o'n hanes cymdeithasol.
Rhestrir adeiladau o bensaernïaeth arbennig neu ddiddordeb hanesyddol
gan CADW, trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae bron i 900 o adeiladau
rhestredig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Fe'i rhestrir am sawl rheswm,
megis oed, eu bod yn anghyffredin, rhinwedd pensaernïol, modd adeiladu,
cysylltiadau enwog a gwerth grwp.
Ffactor allweddol arall i benderfynu rhestru adeilad yw cyflawnrwydd pensaerniol.
Yr hynaf ydynt y mwyaf prin ydynt. Fel arfer, mae unrhyw adeilad cyn 1700
sy'n dal mewn cyflwr gwreiddiol yn rhestredig. Bydd y rhan fwyaf o adeiladau
sydd wedi cael eu hadeiladu rhwng 1700 a 1840 yn cael eu rhestru, yn dibynu
ar eu rhinweddau. Mae adeiladau rhestredig rhwng 1840 -1945 yn llawer
iawn mwy detholiadol a dim ond adeiladau pwysig iawn a adeiladwyd ar ôl
1945 fydd yn cael eu hystyried ar gyfer eu rhestru. Dosberthir adeiladau
rhestredig i dair gradd i ddangos eu pwysigrwydd - Gradd I, II* a II.
Ystyrir adeiladau Gradd I i fod o ddiddordeb, rhagorol, fel arfer yn genedlaethol.
Mae 17 adeilad rhestredig Gradd I ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Dim ond
2% o gyfanswm yr adeiladau rhestredig yw hyn, yn genedlaethol ac ym Mwrdeistref
Sirol Wrecsam. Cyn y gellir addasu, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig,
mae'n bron iawn yn sicr y bydd rhaid cael caniatâd adeilad rhestredig.
Mae'n drosedd i addasu, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig (neu
ran ohono).
Ardaloedd Cadwraeth
Mynegai Arddangosfeydd
|