skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Cynlluniau Datblygu Statudol

 

Pwrpas

Mae cynllunio datblygu yn broses barhaus o edrych ymlaen a phenderfynu ar ffordd o weithredu i wella ansawdd bywyd pobl a golwg ein hamgylchedd mewn ffordd gynaliadwy. Mae'n cynnwys diogelu'r gorau, gwella'r gwaethaf ac anelu'n gadarnhaol at sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb, nawr ac ar gyfer cenhedloedd i ddod.

Mae cynlluniau datblygu'n canolbwyntio ar ddatblygu a diogelu defnydd tir o fewn cyd-destun tueddiadau ac ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach. Yn adlewyrchu polisïau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol, mae cynlluniau datblygu'n gwneud darpariaeth strategol ar gyfer defnydd hirdymor o dir ac adeiladau, gan ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau'n lleol a chymodi buddiannau datblygu a chadw.

Maent yn ceisio sicrhau bod newidiadau i ddefnydd tir yn symud ymlaen yn glir, yn effeithiol ac â'r budd mwyaf i'r gymuned. Mae cynlluniau datblygu'n dangos yn glir sut gallai trigolion lleol, perchnogion tir ac eraill â buddiant gael eu heffeithio gan newid mewn defnydd tir. Maent yn destun cyfnodau cyson o ymgynghoriad cyhoeddus a thrafodaeth ddwys.

Gwneir penderfyniadau ar geisiadau cynllunio yn unol â'r Cynllun Datblygu mabwysiedig oni bai bod ystyriaethau sylweddol eraill, yn ymwneud â datblygiad defnydd tir, yn nodi fel arall.

Fframwaith Gwreiddiol

Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam. Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Unedol 1996 - 2011 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 14 Chwefror 2005.

Mae yn disodli cynlluniau datblygiad a fabwysiadwyd hyd yma, sef Cynllun Lleol Wrecsam Maelor: Ymlaen i 2001, Cynllun Lleol Dosbarth Glyndwr, a Chynllun Fframwaith Clwyd : Newid Cyntaf.

Fframwaith Lleol y Dyfodol

O fis Medi 2005 daeth system cynlluniau datblygu lleol (CDLl) newydd i gymryd lle cynlluniau datblygu unedol (CDU) yng Nghymru.

Yn eu hanfod, bydd pwrpas y cynlluniau newydd yr un peth ag o’r blaen. Fodd bynnag, bydd gofyn i awdurdodau cynllunio lleol gynnwys y cyhoedd mewn modd mwy eang ac ystyrlon fel rhan o broses paratoi’r cynllun.

Cynnwys y cyhoedd

Yr amcan yw sicrhau bod yr holl gymunedau yn gwbl gysylltiedig mewn modd ystyrlon yn y gwaith o baratoi’r cynllun o’r dechrau un. Caiff gweithgareddau eu rheoli trwy Gynllun Cynnwys Cymunedau a fydd yn nodi:

  • yr egwyddorion tu ôl i gynnwys cymunedau;
  • polisïau mewn perthynas â phwy, sut a phryd y mae’r Cyngor yn bwriadu cynnwys y gymuned ym mhob cam o’r gwaith o baratoi ei ddogfennau polisi cynllunio;
  • sut y bydd cyfraniadau yn bwydo penderfyniadau;
  • sut y bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn ymateb; a
  • sut y bydd yr ymatebion hyn yn sail i’r camau dilynol yn y gwaith o baratoi’r cynllun.

Camau allweddol wrth baratoi’r cynllun

Y camau allweddol yw:

  • Cyfranogiad cyd-adneuo i nodi materion allweddol ac opsiynau strategol eraill.
  • Ymgynghoriad cyhoeddus cyd-adneuo am yr opsiwn a chynigion strategaethol dewisedig yn ogystal â’u goblygiadau.
  • Adneuo’r Cynllun Datblygu Lleol, Arfarniad Cynaliadwyedd, yr adroddiad(au) ymgynghori dechreuol a dogfennau cefnogol perthnasol.
  • Ystyried cynrychioliadau dyrannu safleoedd (h.y. awgrymiadau sy’n ceisio ychwanegu, addasu neu ddileu safle ar gyfer defnydd penodol).
  • Cyflwyno’r Cynllun Datblygu Lleol (yn ogystal â’r Arfarniad Cynaliadwyedd, y Cynllun Ymglymiad Cymunedol, adroddiad am ‘gynrychioliadau’ ac ymatebion yn yr ymgynghoriad adneuo) i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Archwiliad annibynnol o “gadernid” y cynllun a derbyn adroddiad yr arolygydd.
  • Ei fabwysiadu cyn pen wyth wythnos ar ôl derbyn argymhellion yr arolygydd.
  • Monitro ac adolygu’r cynllun yn flynyddol cyn pen pedair blynedd ar ôl y dyddiad mabwysiadu.

Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam


Canllawiau Pris Cynlluniau Datblygu

Polisi Cynllunio

Canllawiau Cynllunio Atodol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint