Rydym wrthi’n paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a fydd yn cymryd lle'r Cynllun Datblygu Unedol mabwysiedig presennol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn strategaeth datblygu a defnydd tir hirdymor, yn canolbwyntio ar gyflawni datblygu cynaliadwy a bydd yn:

  •  arwain datblygiad ar gyfer tai, cyflogaeth, manwerthu a defnyddiau eraill
  • nodi polisïau a gaiff eu defnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio
  • diogelu ardaloedd o dir sydd angen eu gwarchod neu eu gwella

Ewch i Borthol Ymgynghoriadau’r CDLl i weld y wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam 2013 – 2028.