Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam Strategaeth Ddewisol (drafft ymgynghoriad 2007)
Mae'r Cyngor yn llunio fframwaith cynllunio newydd - Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam - i arwain twf a datblygiad y dyfodol yn y fwrdeistref sirol hyd 2021.
Y cam presennol yn y broses o baratoi'r Cynllun yw'r 'Strategaeth Ddewisol', sy'n ffurfio sail ar gyfer bodloni anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal. Ymgynghoriad ffurfiol rhwng 15 Hydref a 26 Tachwedd 2007. Mae'n gosod:
Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol?
- gweledigaeth ac amcanion allweddol y Cynllun Datblygu Lleol;
- faint o ddatblygiadau tai a gwaith sydd eu hangen;
- pa drefi a phentrefi fydd yn tyfu a pha rai fydd yn aros fel y maent;
- y polisïau strategol, sef y polisïau cynllunio pwysicaf i fynd i'r afael â'r materion allweddol; a'r
- diagram allweddol, sy'n dangos yr ardaloedd yn y fwrdeistref sirol a fydd yn cael eu heffeithio.
Nid yw ti-roedd penodol a neilltuwyd ar gyfer datblygu na pholisiau datblygu manwl yn y ddogfen hon ond byddant yn cael eu cyflwyno mewn Cynllun Adneuo yn y dyfodol.
Rhowch eich barn a chymerwch ran!
Gall cynllunio effeithio ar ansawdd eich bywyd gan y gallai newid yr ardal yr ydych yn byw ynddi, yn gweithio ynddi neu'n ymweld â hi. Rydym am glywed eich barn ynglyn a'r Strategaeth Ddewisol ac p'un a oes mae gan y pwyslais cywir, a ydym wedi ymdrin â phob mater strategol a p'un a oes angen atgyfnerthu unrhyw faterion.
Mae copi o'r Strategaeth Dedwisol ar gael yn swyddfeydd y Cyngor, llyfrgelloedd lleol ac ar wefan y Cyngor
Dylai sylwadau ar y Strategaeth Ddewisol gyrraedd y Cyngor cyn 5 yr hwyr ar 26 Tachwedd 2007.
Sesiynau Cyhoeddus
Os ydych angen siarad a swyddog cynllunio ynglyn a'r Strategaeth Ddewisol gallwch fynychu unrhyw un o'r sesiynau cyhoeddus canlynol:
- Dydd Llun 15 Hydref 2007: 2 y prynhawn tan 5 yr hwyr yn Y Stiwt, Rhos
- Dydd Mawrth 16 Hydref 2007: 12.30 y prynhawn tan 3.30 y hwyr ym Meithrinfa Canolfan Parc Adnoddau Llai
- Dydd Mercher 17 Hydref 2007: 3 y prynhawn tan 6 yr hwyr yn Llyfrgell Wrecsam
- Dydd Iau 18 Hydref 2007: 2 y prynhawn tan 5 yr hwyr yn Llyfrgell Y Waun
- Dydd Gwener 19 Hydref 2007: 3 y prynhawn tan 6 yr hwyr yn Llyfrgell Owrtyn
- Dydd Llun 22 Hydref 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yn Llyfrgell Coedpoeth
- Dydd Mawrth 23 Hydref 2007: 5 y prynhawn tan 8 yr hwyr yn Ystafell Gymunedol Canolfan Chwaraeon Darland, Yr Orsedd
- Dydd Mercher 24 Hydref 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yng Nghapel Ebenezer, Cefn Mawr
- Dydd Iau 25 Hydref 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yng Nghanolfan Gymunedol Cartrefle, Ffordd Cefn, Wrecsam
- Dydd Gwener 26 Hydref 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yn Ysgol Gynradd Bronington
- Dydd Llun 29 Hydref 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yng Nghanolfan Gymunedol New Broughton, Ffordd Bersham, New Broughton
- Dydd Mawrth 30 Hydref 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yng Nghanolfan Gymunedol Rhosddu, Wrecsam
- Dydd Mercher 31 Hydref 2007: 4 prynhawn tan 7 yr hwyr yn Neuadd Goffa Oliver Jones, Dolywern
- Dydd Iau 1 Tachwedd 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yng Nghanolfan Gymunedol Gwersyllt, Gwersllt
- Dydd Gwener 2 Tachwedd 2007: 4 y prynhawn tan 7 yr hwyr yng Nghanolfan Gymunedol Holt
Os ydych angen rhagor o wybodaeth cysylltwch a ni:
Ffôn: 01978 292013
Ffacs: 01978 292502
E-bost: planning_policy@wrexham.gov.uk
Post: Is-adran Polisi Cynllunio, Adran Gynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR
Yn bersonol: Ewch i'r Adran Gynllunio yn y cyfeiriad uchod a gofynnwch am gael siarad ag unrhyw aelod o'r tîm Polisi Cynllunio (oriau agor: 8.45am - 5.15pm o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.45am - 4.45pm ar ddydd Gwener).
Canllawiau Pris Cynlluniau Datblygu
Polisi Cynllunio
Canllawiau Cynllunio Atodol
|