skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam

 

Beth yw’r Cynllun Datblygu Lleol?

Bydd Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam (Y CDLl) yn strategaeth tymor hir ar gyfer defnyddio a datblygu tir ac yn canolbwyntio ar gyflawni datblygiad cynaliadwy. Caiff ei arwain gan yr egwyddorion a osodir yn y strategaeth gymunedol leol, “Adfywio Wrecsam”, a bydd yn:

  • arwain datblygiad tai, cyflogaeth, manwerthu a defnyddiau eraill;
  • gosod y polisïau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio wrth benderfynu p’un a chaniateir datblygiad;
  • diogelu ardaloedd ar gyfer amddiffyn ac ehangu amgylcheddau.

Mae’r Cyngor ar fin dechrau’n ffurfiol ar y CDLl, ac unwaith y bydd wedi’i fabwysiadu, yn y pen draw, bydd yn disodli’r Cynllun Datblygu Unedol presennol. Disgwylir iddo gwmpasu’r cyfnod 2006-2021.

Cynllunio'ch Cymuned, Llyfryn Cyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Cynllunio'ch Cymuned, Llyfryn Cyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol - Fersiwn PDF 3.5Mb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Cyfnodau allweddol yn y broses o baratoi’r cynllun:

Cam Disgrifiad Dyddiad targed
Sail Tystiolaeth ac Astudiaethau Cefndirol

Mae’r Cyngor yn cyflawni nifer o astudiaethau er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn rhai dilys ac yn llawn gwybodaeth.  Mae’r astudiaethau hyn yn cynnwys:

Yn barhaus

Cynllun Datblygu Lleol - Cytundeb Cyflenwi Mae Cytundeb Cyflenwi’r Cynllun Datblygu Lleol yn pennu amserlen ar gyfer paratoi’r CDLl ynghyd â Chynllun Cyfranogiad Cymunedol sy’n amlinellu polisi’r Cyngor mewn perthynas â phwy, sut a phryd y bydd yn ymgynghori yn ystod y broses o baratoi’r cynllun. Drafft ar gyfer ymgynghoriad. Hydref 2006
Mynegi Diddordeb - Cymrwch ran!

Hysbysu’r Cynllun a chael aelodau’r cyhoedd, cymunedau, grwpiau lleol a sefydliadau i gymryd rhan.

Cymrwch ran! - cyswllt i ffurflen i fynegi o ddiddordeb.

Yn barhaus

Ymrwymiad cynnar "Gosod y Llwyfan"

(Cyfranogiad Cyn Adneuo)

Cael sefydliadau a grwpiau allweddol i gymryd diddordeb er mwyn:

  • cael eu barn ar y tueddiadau allweddol a’r prif faterion;
  • penderfynu pa faterion yw’r rhai pwysicaf;
  • sicrhau cydnabod dyheadau lleol a
  • chynorthwyo i nodi beth ddylai’r ‘strategaeth ddewisol' fod

Datblygu'r Weledigaeth: Materion Allweddol ac Opsiynau Strategol Tachwedd 2006

Chwefror 2007

(ymgynghoriad anffurfiol yn gynnar yn 2007)

Y Strategaeth Ddewisol

(Ymgynghoriad Cyn-Adneuo)

Dyma’r cam allweddol i gymunedau helpu i ffurfio’r CDLl, ac yn y cyfnod hwn y bydd y gweithgarwch cymunedol yn digwydd yn bennaf. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau ymglymu amrywiol ledled y sir.  Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori ar:

  • a yw ffocws y cynllun yr un cywir;
  • pa ardaloedd ddylai dyfu a pha rai ddylai aros yr un fath;
  • ble i adeiladu tai newydd a swyddi newydd; a
  • sut y gall Wrecsam dyfu mewn modd cynaliadwy.

Y Strategaeth Ddewisol (Drafft ar gyfer Ymgynghoriad) a Crynodeb o'r Strategaeth Ddewisol

Chwefror 2008

Ymgynghoriad ffurfiol rhwng 15 Hydref a 26 Tachwedd 2007

Ymgynhoriad Rhowch eich barn a chymerwch ran Sesiynau cyhoeddus

Y Cynllun Drafft

(Cam Cynllun Adneuo)

Yn dilyn ymlaen o’r camau cynnar, bydd y Cyngor yn paratoi CDLl drafft a fydd mewn grym ‘ar adneuo’, yn ogystal â’r holl ddogfennau AAS ac AC.

Bydd hwn yn gyfnod ymgynghori ffurfiol fydd yn rhoi cyfle i bawb i wneud sylwadau ar y Cynllun Adneuo.

Ionawr 2009

(Cyfnod 6 wythnos o ymgynghori ffurfiol canol 2008)

Hysbysebu safleoedd eraill i’w datblygu Gall rhai pobl anghytuno â’r safleoedd yn y cynllun adneuo, a chyflwyno rhai eraill yn eu lle. Caiff y safleoedd eraill a gyflwynir eu cyhoeddi i sicrhau bod pawb yn ymwybodol ohonynt ac yn cael cyfle i wneud sylwadau.

Mehefin 2009

(Cyfnod 6 wythnos o ymgynghori ffurfiol yn gynnar yn 2009)

Cyflwyniad i Lywodraeth Cynulliad Cymru Yn dilyn y camau ymgynghori Cynllun Adneuo, cyflwynir y Cynllun i Lywodraeth Cynulliad Cymru cyn y gellir cynnal Archwiliad Annibynnol Cyhoeddus. Medi 2009
Archwiliad Annibynnol Cyhoeddus Bydd Arolygydd Cynllunio (swyddog diduedd a benodir gan yr Arolygaeth Gynllunio) yn ystyried y Cynllun Adneuo), ynghyd â’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn yr Archwiliad Cyhoeddus. Rôl yr Arolygydd yw archwilio’r Cynllun Adneuo a sicrhau ei fod yn deg a chadarn. Mae ganddo’r pŵer i wneud newidiadau terfynol i’r Cynllun.

Mawrth 2010 (dyddiad dros dro)

Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygwyr Cynllunio Cyn mabwysiadu’r Cynllun, cyhoeddir Adroddiad yr Arolygwyr a bydd ar gael i bawb ei ddarllen. Medi 2010 (dyddiad dros dro)
Mabwysiadu Bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor ac yn disodli’r CDU. Yna, bydd pob cais cynllunio’n cael ei ystyried yn ôl y CDLl. Tachwedd 2010 (dyddiad dros dro)
Adolygiad a Monitro Bydd Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB), yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol yn dilyn y mabwysiadu, ac fe adolygir y CDLl bob 4 mlynedd. Parhaus ar ôl ei Fabwysiadu

Beth ydym yn ei wneud nawr?

Gofyn am fynegiadau o ddiddordeb – Cymerwch ran!

Mae ein system gynllunio yn rhan bwysig o’n democratiaeth. Gall helpu i ymdrin â gwahanol safbwyntiau rhwng grwpiau dros ddatblygiad cynaliadwy a rhoi cyfleoedd i bobl ddweud eu dweud am ddyfodol eu cymdogaethau a’u cymunedau.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn effeithio ar yr holl gymunedau a sefydliadau lleol, ac er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cynrychioli dyheadau pawb sy’n byw ac yn gweithio yma, rydym am i bobl, grwpiau a sefydliadau lleol gymryd rhan yn y broses i’n helpu i greu Cynllun Datblygu Lleol da.

Gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a’ch cadw’n gysylltiedig â’r camau allweddol yn y broses o baratoi’r cynllun, a rhoi cyfle i chi benderfynu pa brif faterion y dylai’r cynllun fynd i’r afael â nhw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gysylltiedig â’r broses, llenwch y ffurflen ymateb atodedig.

cyswllt i ffurflen hysbysiad o ddiddordeb.

Astudiaethau cefndirol

Nodi safleoedd datblygu posibl a newidiadau posibl i derfynau aneddiadau

Er mwyn sicrhau bod dyheadau lleol yn cael eu cyflawni, efallai y bydd yn angenrheidiol clustnodi safleoedd newydd i’w datblygu (er enghraifft ar gyfer tai newydd, neu gyfleusterau cymunedol newydd), a gwneud newidiadau i derfynau presennol mewn pentrefi a threfi er mwyn gwneud lle i ofynion datblygiadau newydd.

Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio safleoedd datblygu posibl ac yn nodi newidiadau posibl i derfynau aneddiadau i’w hystyried yn y cynllun.

Cysylltwch â ni os ydych yn teimlo y dylid ystyried unrhyw safleoedd neu ardaloedd ar gyfer datblygiadau newydd.

Nodwch y byddai’n rhaid i unrhyw ddatblygiadau newydd neu newidiadau i derfynau aneddiadau gyfrannu at batrymau aneddiadau cynaliadwy a ffurfio estyniad rhesymegol i gymunedau presennol. Caiff safleoedd a ystyrir ar gyfer eu datblygu eu mesur yn erbyn ystod o feini prawf datblygiad cynaliadwy, tebyg i:

  • p’un a yw’n dir llwyd;
  • p’un a yw’n hygyrch i gludiant cyhoeddus ac amwynderau cymunedol presennol;
  • p’un a fyddai unrhyw effaith gwrthwynebus ar fioamrywiaeth, tirwedd ac ati.

Os hoffech gynnig tir i’w ystyried, llenwch y Ffurflen Gynrychioliadau Safleoedd Posibl i’w Datblygu y CDLl, ynghyd â map yn dangos lleoliad y safle posibl wedi’i amlinellu mewn coch. Dylech nodi’n eglur beth yw defnydd presennol y safle, y defnydd arfaethedig (tai, cyflogaeth, manwerthu ac ati), wedi’i gefnogi gan gymaint o wybodaeth ychwanegol ag y teimlwch sy’n briodol.

Cyswllt i ffurflen gynrychiolaeth safleoedd posibl i'w datblygu.

Astudiaeth Gallu Trefol

Mae’n debygol y bydd safleoedd ychwanegol ar gyfer tai yn rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mae astudiaeth gallu trefol yn rhoi syniad i ni o faint o dir ychwanegol sydd ar gael o fewn ardaloedd trefol presennol ar gyfer tai. Gall helpu i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac yn gynaliadwy, gan leihau’r pwysau i ryddhau safleoedd ‘tir glas’ sy’n amgylcheddol sensitif. Bydd yr astudiaeth yn archwilio’r lleoedd posibl ar gyfer tai ar:

  • dir gwag a oedd wedi’i ddatblygu’n flaenorol;
  • fflatiau uwchben siopau;
  • israniadau mewn tai presennol;
  • tai gwag;
  • datblygu meysydd parcio;
  • trosi adeiladau masnachol ac ati

Astudiaeth Potensial Tai Wrecsam (Mawrth 2007).

Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

Pwrpas yr Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) yw hyrwyddo datblygiad cynaliadwy trwy integreiddio ystyriaethau cynaliadwyedd yn well wrth baratoi a mabwysiadu’r cynlluniau.

O dan ddeddfwriaeth Ewrop, mae’n ofynnol hefyd cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol (ASS).

Mae’r gofyn i gynnal AC ac ASS yn benodol. Mae gofynion ASS yn canolbwyntio ar yr amgylchedd; mae gofynion AC hefyd yn ymgorffori materion cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn anelu at gyflawni a bodloni’r ddau trwy un broses arfarnu.

Bydd yr AC/ASS yn rhan hanfodol o’r broses o baratoi’r CDLl, a bydd yn broses barhaus tan y cam cynllun ernes.

Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol

Asesu’r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a mesurau cadwraeth

Mae gofyn i’r Cyngor gynnal asesiad i archwilio potensial pob adnodd ynni adnewyddadwy, technoleg ynni adnewyddadwy, ac effeithlonrwydd ynni a mesurau cadwraeth. Bydd yr asesiad hwn yn ffurfio’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer polisïau priodol yn y CDLl, gan edrych yn benodol ar:

  • gwneud argymhellion a fydd yn ffurfio sylfaen ar gyfer polisïau cynllunio defnydd tir o ran technoleg cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn datblygiadau newydd;
  • archwilio’r cyfraniad y gall datblygiad yn y Fwrdeistref Sirol ei wneud tuag at ddatblygu a hwyluso ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni a chadwraeth; ac
  • asesu cyfraniad posibl y Fwrdeistref Sirol tuag at leihau gollyngiadau carbon a thargedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy;

Asesiad o Fesurau Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Cadwraeth (Menefin 2007)

Astudiaeth Tir Cyflogaeth Wrecsam (Mehefin 2007)

Astudiaeth Tir Cyflogaeth Wrecsam (Mehefin 2007)

Manylion cyswllt

CDLl
Polisi Cynllunio
Adran Gynllunio
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

Ffôn: (01978) 292013
Ffacs: (01978) 292502
E-bost: planning_policy@wrexham.gov.uk

Fel arall, gellwch ymweld â’r Adran Gynllunio unrhyw adeg yn ystod oriau agor a gofyn am siarad â rhywun o’r tîm polisi cynllunio

Oriau agor:
Dydd Llun – ddydd Iau 8.45 - 5.15
Dydd Gwener 8.45 - 4.45

Gellir trefnu cyfarfod y tu allan i oriau arferol ar gais.

Grwpiau a sefydliadau lleol

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am gynllunio a’r Cynllun Datblygu Lleol, byddem yn falch o drefnu cyflwyniad neu drafodaeth anffurfiol gyda’ch grÿp am y broses a darparu gwybodaeth am sut y gellwch gymryd rhan. Cysylltwch â’r tîm Polisi Cynllunio am ragor o wybodaeth.

Dogfennau

Astudiaeth Cynhwysedd Trefol: Crynodeb Gweithredol

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Astudiaeth Cynhwysedd Trefol: Crynodeb Gweithredol - Fersiwn PDF 93Kb

Asesiad Amgylcheddol Strategol/ Arfarniad Cynaliadwyedd: Adroddiad Cwmpas: Rhagfyr 2006

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Asesiad Amgylcheddol Strategol/ Arfarniad Cynaliadwyedd: Adroddiad Cwmpas: Rhagfyr 2006 - Fersiwn PDF 1.5Mb

Asesiad Amgylcheddol Strategol / Arfarniad Cynaliadwyedd Cam B: Arfarniad Cynaliadwyedd Materion Allweddol ac Opsiynau Strategol, Rhagfyr 2006

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Asesiad Amgylcheddol Strategol / Arfarniad Cynaliadwyedd Cam B: Arfarniad Cynaliadwyedd Materion Allweddol ac Opsiynau Strategol, Rhagfyr 2006 - Fersiwn PDF 191Kb

Cytundeb Cyflenwi Cynllun Datblygu Lleol Hydref 2006

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Cytundeb Cyflenwi Cynllun Datblygu Lleol Hydref 2006 - Fersiwn PDF 391Kb

Datblygu'r Weledigaeth: Materion Allweddol ac Opsiynau Strategol Tachwedd 2006

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Datblygu'r Weledigaeth: Materion Allweddol ac Opsiynau Strategol Tachwedd 2006 - Fersiwn PDF 6.6Mb

Datblygu'r Weledigaeth: Materion Allweddol ac Opsiynau Strategol Tachwedd 2006 - Crynodeb

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Datblygu'r Weledigaeth: Materion Allweddol ac Opsiynau Strategol Tachwedd 2006 - Crynodeb - Fersiwn PDF 125Kb

Ffurflen Gynrychiolaeth Safleoedd Posibl i'w Datblygu

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Ffurflen Gynrychiolaeth Safleoedd Posibl i'w Datblygu - Fersiwn PDF 13Kb

Ffurflen Hysbysiad o Ddiddordeb - Cymerwch Ran!

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Ffurflen Hysbysiad o Ddiddordeb - Fersiwn PDF 21Kb

Y Strategaeth Ddewisol (Drfft ar gyfer Ymgynghoriad)

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Y Strategaeth Ddewisol (Drfft ar gyfer Ymgynghoriad) - Fersiwn PDF 580Kb

Crynodeb o'r Strategaeth Ddewisol

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Crynodeb o'r Strategaeth Ddewisol - Fersiwn PDF 566Kb

Astudiaeth Potensial Tai Wrecsam (Mawrth 2007)

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Astudiaeth Potensial Tai Wrecsam (Mawrth 2007) - Fersiwn PDF 138Mb

Asesiad o Fesurau Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Cadwraeth (Menefin 2007)

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Asesiad o Fesurau Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Cadwraeth (Menefin 2007) - Fersiwn PDF 38Mb

Astudiaeth Tir Cyflogaeth Wrecsam (Mehefin 2007)

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w llwytho i lawr yn y ffurf ganlynol:

Astudiaeth Tir Cyflogaeth Wrecsam - Fersiwn PDF 4.4Mb

Appendix A - Property and Economic Review - Fersiwn PDF 1.3Mb

Appendix B - Survey Analysis - Fersiwn PDF 196Kb


I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Canllawiau Pris Cynlluniau Datblygu

Polisi Cynllunio

Canllawiau Cynllunio Atodol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint