skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Am Polisi Cynllunio

 

Prif waith yr Is-Adran Polisi a Gweithredu yw cynhyrchu Cynllun Datblygu. Gydag amser, bydd Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam yn cymryd lle’r holl gyfarwyddyd presennol a datblygiadau uniongyrchol tan 2011.

Mae Cynllun Datblygu yn amlinellu polisïau penodol ar gyfer defnyddio tir ac adeiladau drwy ddarparu fframwaith i wneud penderfyniadau’n lleol a chysoni’r angen am ddatblygiad a chadwraeth sy’n darparu’r lles cymunedol mwyaf.

Cynllun Datblygu

Amcan y Cynllun Datblygu yw :

  • diogelu’r amgylchedd drwy gyfeirio datblygiadau at y trefi a’r pentrefi ac i ffwrdd o gefn gwlad agored,

  • sicrhau bod digon o dai a thir cyflogaeth i ddiwallu anghenion y dyfodol,

  • annog adfywiad trefol a diogelu treftadaeth y Fwrdeistref Sirol,

  • sicrhau llwyddiant parhaol tref Wrecsam fel canolfan siopa drwy gyfeirio datblygiadau adwerthu at y dref yn hytrach na “thu allan i’r
    dref”,

  • diogelu cyfleusterau cymunedol presennol ac annog y cyfleusterau o gyfleusterau newydd,

  • sicrhau cyfleusterau a rhwydweithiau cludiant digonol, yn benodol cludiant cynhaliadwy sy’n helpu i leihau’r defnydd o geir.

Rhaid i Gynlluniau Datblygu ystyried y polisïau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol.

Mae’r cynllun datblygu presennol yn cynnwys y dogfennau canlynol:

  • Cynllun Adeiledd Clwyd - Diwygiad 1af

  • Cynllun Lleol Wrecsam Maelor

  • Cynllun Lleol Ardal Glyndwr.

Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam

Bydd Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam yn disodli'r canllaw presennol ac yn cyfeirio datblygiadau hyd 2011. Gall y broses hon gymryd sawl blwyddyn, ond mae'n galluogi pawb sy'n dymuno gwneud sylwadau gael sylw a chael ystyriaeth deg a thrylwyr. Er enghraifft, o ganlyniad i'r ymgynghoriad diweddaraf a arddangoswyd i'r cyhoedd gwnaed sylwadau gan 412 o grwpiau a 1158 o unigolion, yna ystyriwyd pob un a rhoddwyd sylwadau arnynt gan yr adran Polisi Cynllunio.

Lawr lwytho dogfennau a chynllunio CDU

Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam

Canllawiau Cynllunio Atodol

Mae'r Cyngor wedi cymeradwyo cyfres o ddogfennau canllawiau cynllunio ychwanegol sy'n rhoi cyngor manwl ar y modd y gweithredir polisïau'r Cynllun Datblygu mewn rhai adrannau ac amgylchiadau arbennig. Lluniwyd y rhain mewn ymgynghoriad â chyfranogion ac fe'u hadolygir yn rheolaidd er mwyn sicrhau cysondeb â pholisïau lleol a chenedlaethol yn unol â dyheadau cymunedol. Mae canllawiau cynllunio atodol yn ystyriaeth berthnasol o ran penderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiad.

Canllawiau Cynllunio Atodol

Gwaith Prosiect

Mae’r Is-Adran wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau yn ddiweddar sy’n effeithio ar ein hamgylchedd ac ansawdd ein bywyd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Strategaeth Cludiant Integredig Wrecsam

  • Astudiaeth o Le Agored Cyhoeddus

  • Strategaeth Parcio

  • Astudiaeth o Le yn y Dref

  • Arolwg Anghenion Lletya

  • Cyfarwyddyd Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Gwasanaeth Ystadegol a Rhagolygol

Mae’r Ystadegydd yn cyflawni dadansoddiad ac ymchwil ystadegol ar gyfer amrywiaeth o strategaethau adrannol a chorfforedig ac yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd, busnesau a myfyrwyr. Mae’r strategaethau hyn yn cynnwys:

Cefnogaeth Dechnegol

Mae'r Tîm Cefnogaeth Dechnegol yn cynllunio a chynhyrchu cynlluniau a dogfennau ar gyfer yr Adran Gynllunio i safon dechnegol uchel ac yn sicrhau bod gan waith ddelwedd broffesiynol. Mae'n cynnwys:

Cysylltwch â: Pholisi Cynllunio, Adran Cynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292013.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk


Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam

Polisi Cynllunio

Mynegai Cynllunio

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint