|
Mae'r
ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Gorchmynion Cadwraeth Coed wedi ei
gynnwys yn y Ddeddf Gynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae'r nodiadau canlynol
yn gweithredu fel crynodeb o'r ddeddfwriaeth. Cysylltwch â Chynllunio
Amgylcheddol am wybodaeth bellach.
Beth yw GCC?
Mae Gorchymyn Cadwraeth Coed (GCC) yn orchymyn gan yr Awdurdod Cynllunio
Lleol (ACLl) yn ymwneud â choed. Mae'r gorchymyn yn ei gwneud hi'n
drosedd i dorri, codi o'r gwraidd, tocio, niweidio neu ddifa'r goeden
neu'r coed dan sylw. Gall GCC gyfeirio at goeden unigol, twr o goed neu
goetir. Gall GCC gyfeirio at goed yn unig nid llwyni, prysgwydd neu wrychoedd
(oni bai fod y gwrych wedi dychwelyd i linell o goed unigol). Gall y goeden
gyda'r gorchymyn arni fod o unrhyw oedran, maint neu rywogaeth.
Gall yr Adran Gynllunio osod GCC os yw'n ystyried bod y goeden â
gwerth hamdden i'r ardal o'i chwmpas, ac y byddai ei cholli yn effeithio'n
arwyddocaol ar yr amgylchedd a'i fwynhad gan y cyhoedd. I'r perwyl hwn,
fel rheol byddai'r goeden (coed) i'w gweld o fan cyhoeddus a byddai'n
cyfrannu at y dirwedd mewn rhyw fodd. Mae'n rhaid i'r Adran Gynllunio
gyfiawnhau gosod GCC a gall perchennog y goeden wrthwynebu i osodiad gorchymyn
o'r math.
Nid yw GCC yn golygu mai'r Cyngor sydd nawr yn berchen ar y goeden, ac
nid yw'n golygu ei fod yn gyfrifol am gost ei chynnal a'i chadw ychwaith!
Mae'n bwysig peidio â drysu coed sydd â GCC arnynt gyda choed
wedi'u lleoli o fewn Ardaloedd Cadwraeth;
mae'r ddeddfwriaeth yn gwbl wahanol.
Efallai hefyd y bydd angen caniatâd os am dorri coed o fewn coetiroedd
a choedwigoedd gan y Comisiwn
Coedwigaeth. Gellir cael gwybodaeth bellach o'r daflen "Torri
Coed - Derbyn Caniatâd', sydd ar gael o'r dderbynfa yn Stryt Lampint,
neu drwy gysylltu â Cynllunio
Amgylcheddol.
Eithriadau
Mae GCC yn bodoli er mwyn rhwystro unrhyw un rhag torri neu docio'r goeden
heb ganiatâd yr Adran Gynllunio. Nid yw hyn o angenrheidrwydd yn
golygu na chewch chi dorri neu docio y coed yn y pen draw, ond yn hytrach
bod yn rhaid i chi dderbyn ein caniatâd yn gyntaf.
Mae eithriadau i'r Ddeddf sy'n caniatáu i berchennog y goeden
gwblhau gwaith heb ganiatâd. Mae hyn yn ymwneud â thorri'r
coed marw neu beryglus neu rannau o goed. Enghraifft gyffredin fyddai
tynnu pren marw (canghennau marw). Byddai perchennog coeden yn ddoeth
yn rhoi 5 diwrnod o rybudd cyn torri coeden, y maent yn ei hystyried yn
beryglus, wedi marw, neu yn marw; oni bai fod angen cwblhau'r gwaith ar
frys. Cyfrifoldeb perchennog y goeden yw darparu tystiolaeth bod y goeden
yn farw neu'n beryglus os yw'r eithriad yn cael ei gwestiynu; gan hynny,
mae bob amser yn ddoeth gofyn am archwiliad gan Swyddog Coed Lleol cyn
torri'r goeden.
Mae eithriadau eraill yn cynnwys materion megis gwaith Cwmnïau Darparu
Gwasanaethau, coed ar Feysydd Awyr, Systemau Amddiffyniad, Caniatâd
Cynllunio.
Cosb
Mae'r llysoedd â grym dirwyo unrhyw un sy'n torri GCC. Mae uchafswm
y ddirwy am ddinistrio coeden yn £20,000 a hyd at £2,500 i
unrhywun sydd wedi gweithio ar goeden heb ganiatâd ond heb ei dinistrio'n
gyfan gwbl. Nid yw o amddiffyniad os yw'r diffynnydd yn pledio nad oedd
ymwybodol bod GCC yn bodoli ar y goden o dan sylw, oni bai mai'r Cyngor
a oedd achos yr anwybodaeth.
Gwaith, Gwrthwynebiad ac Apêl
Unwaith y bydd y Cyngor wedi cyflwyno'r rhybudd cyntaf, rhaid gwrthwynebu
i'r Gorchymyn Cadwraeth Coed yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod. Rhaid
i'r Cyngor gadarnhau'r GCC o fewn 6 mis er mwyn iddo fod yn barhaol, fel
arall bydd yn ddi-rym (gall y Cyngor ei gadarnhau'n ddiweddarach).
Rhaid i unrhywun sy'n dymuno cwblhau gwaith ar goeden wneud cais ysgrifenedig,
gan nodi'r rhesymau am wneud y cais, y gwaith sydd ei angen a'i gwneud
yn glir at ba goed y mae'r gwaith yn gyfeirio. Dylai'r Adran Gynllunio
ymateb i geisiadau o fewn cyfnod o 2 fis (8 wythnos). Os yw'r Cyngor yn
gwrthod caniatau'r gwaith gall yr ymgeisydd apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol;
fel arfer gwneir hyn o fewn 28 diwrnod.
Gellir apelio ynglyn â rhesymau eraill megis:
-
amodau a osodwyd gydag unrhyw ganiatâd,
-
tystysgrif Erthygl 5, neu
-
fethiant y Cyngor i ymateb i'r cais o fewn 2 fis.
Nodwch yma ar gyfer Ffurflen
Gais i weithio ar goed sydd wedi eu cynnwys o fewn Gorchymyn Cadwraeth
Coed, ar gael ar ffurf PDF a Word.
Unwaith y byddwch wedi argraffu a chwblhau'r ffurflen byddwch angen ei
hanfon at y cyfeiriad isod:
Cysylltwch â: Chynllunio Amgylchedd, Adran Cynllunio, Stryt
y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292019.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Bioamrywiaeth
Cynllunio Amgylchedd
|