Beth
yw Ardal Gadwraeth?
Diffinir Ardaloedd Cadwraeth dan y brif ddeddfwriaeth, Deddf Cynllunio
(Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel 'ardaloedd o ddiddordeb
pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y mae'n ddymunol i gadw neu
wella eu cymeriad neu eu gwedd'.
Yn ôl y gyfraith, Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddynodi Ardaloedd
Cadwraeth a llunio polisïau a chynigion ar gyfer eu diogelu a'u gwella.
Cynllunio Ardal Gadwraeth
Y ffactor pwysicaf wrth ddynodi ardal gadwraeth yw 'ansawdd lle' neu
hynodrwydd lleol'. Mae cyfoeth o hanes pensaernïol, cymeriad ac amrywiaeth
ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Ardaloedd Cadwraeth yn cynnwys canol
pentrefi, maestrefi canol tref, barics milwrol, adeiladwaith camlesi ac
adeiladau gwledig.
Er bod cymeriad pob ardal yn unigryw, mae ffactorau pwysig yn cynnwys:
-
adeiladau sengl neu grwpiau;
-
adeiladau a'u perthynas â lle;
-
manylion pensaernïol;
-
deunyddiau adeiladu;
-
golygfeydd;
-
lliwiau;
-
tirlunio;
-
afonydd;
-
celfi stryd,
-
cyflwr amgylcheddol lleol; a
- newidiadau hanesyddol.
Strategaeth y Cyngor
Mae'r Cyngor yn ymgymryd ag adolygiad o bob ardal gadwraeth ar hyn o
bryd, i sicrhau ffiniau amddiffynadwy ac i gadw eu cymeriad arbennig.
Pwrpas hyn yw i: -
-
Ddatblygu strategaeth ar gyfer cydbwyso diddordeb cadwriaethol a
datblygiadau newydd
-
Darparu cyfeirbwynt allweddol rhwng swyddogion, datblygwyr a deiliaid
tai i gynorthwyo dyfeisio cynlluniau sy'n cyd-fynd, neu sy'n gwella
cymeriad Ardal Gadwraeth.
-
Darparu Asesiadau Ardal Gadwraeth
a Chynlluniau Gwella, gyda pholisïau manwl ar ei chymeriad, ei
diogelu a'i gwella. Mae pob dogfen yn destun i ymgynghoriad cyhoeddus.
-
Targedu ffynonellau cyllido i wella ansawdd yr amgylchedd i ddenu
busnes a buddsoddiad ac atgyfnerthu hynodrwydd lleol a balchder dinesig.
Ardaloedd Cadwraeth Wrecsam
Mae 21 Ardal Gadwraeth yn y Fwrdeistref:
Beth alla'i wneud mewn Ardaloedd Cadwraeth?
Gellir dod o hyd i bolisïau Ardaloedd Cadwraeth yng nghynllun datblygu
lleol y Cyngor, sy'n nodi egwyddorion datblygu ac yn pwysleisio ar yr
angen i warchod cymeriad Ardaloedd Cadwraeth, sef:
Rheoliadau Cynllunio
Mae rhai rheoliadau'n bodoli sy'n ychwanegol i ganiatâd cynllunio
arferol ac fe'ch cynghorir i ofyn am gyngor gan yr adran gynllunio. Nid
bwriad y rheoliadau hyn yw bod yn negyddol, ond rheolaeth bositif ar newid
er mwyn gwarchod cymeriad arbennig pob ardal.
- Mae'n bosibl bydd angen caniatâd cynllunio arnoch os byddwch
am newid waliau a tho ty.
- Mae'n bosibl bydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth arnoch er mwyn
dymchwel. Nid yw hyn yn cynnwys Adeiladau Rhestredig, sy'n cael eu gwarchod
ar wahân (cyswllt i dudalen ARh).
- Mae'n bosibl bydd angen Caniatâd Gwaith ar Goeden ar gyfer torri
canghennau a chael gwared ar goed. Nid yw hyn yn cynnwys Coed sy'n cael
eu gwarchod dan Orchymyn Cadwraeth Coed (GCC)
Gweler Beth allaf ei wneud mewn ardal
gadwraeth? i wybodaeth eraill.
Dyfarnwyd rhai Ardaloedd Cadwraeth i fod yn arbennig iawn fel eu bod
angen rheoliadau pellach, sef Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2). Sef:-
- Y Waun
- Ffordd y Tylwyth Teg, Wrecsam
- Holt
- Parc Salisbury, Wrecsam.
Gweler Asesiadau Ardaloedd Cadwraeth
i wybodaeth bellach.
Mae hyn yn golygu bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw
newid neu ddatblygiad i flaen a thalar blaen tai os ydynt yn wynebu ffordd,
llwybr troed cyhoeddus, dyfrffordd neu lwybr ceffyl, fel eu bod yn cael
eu gwneud mewn modd sympathetig i gymeriad arbennig yr ardal.
Mae hyn yn cynnwys:
-
Estyniad ar dy
-
Adeiladu adeilad neu osod wyneb caled ar dalar
-
Newid deunyddiau adeiladu megis fframiau allanol, drysau, ffenestri,
cyfarpar dwr glaw, fframiau coed, rendrad ayb,
-
Peintio'r ty neu adeilad neu dir caeëdig o fewn talar ty (ond
ddim ailbeintio yn yr un lliw)
-
Unrhyw newidiadau eraill i ffenestri a drysau allanol
-
Unrhyw newidiadau i doeau gan gynnwys ffenestri to
-
Codi, newid neu dynnu simnai ar dy neu adeilad yn ei dalar
-
Gosod dysgl lloeren
-
Codi, dymchwel neu newid clwyd, ffens, wal neu unrhyw fodd arall
o gau mewn talar
Ni chodir ffi am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, Caniatâd Ardal
Gadwraeth, Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2), neu Ganiatâd Gwaith ar Goeden.
Ffurflenni Cais
yn ôl i'r brig
Canllaw ynghylch Cynllun a Deunyddiau
Wrth adeiladu eiddo newydd neu ychwanegu at eich eiddo mewn Ardal Gadwraeth,
mae cynllun a deunyddiau yn nodweddion hanfodol i gadw a gwella cymeriad
arbennig yr ardal.
Ystyriwch:
- Lleoliad a chrynswth
- Math o ddatblygiad- e.e. teras, unigol, unllawr neu aml-lawr
- Siâp y to a nwyddau dwr glaw
- Ffenestri, drysau a phyrth
- Deunyddiau adeiladu
- Cynllun blaen siop ac arwyddion hysbysebu.
Nid yw cynllun newydd o angenrheidrwydd yn golygu bod rhaid cael union
gopi o steil sy'n bodoli eisoes, neu adeilad math safonol, ond steil modern
sy'n cymryd ei le yn y stryd neu ardal trwy gyfrannu'n bositif at gymeriad
yr Ardal Gadwraeth. Mae'n bosibl bydd gofyn am ddatganiad cynllun fel
rhan o'r cais cynllunio.
Ffynonellau Cyllid
Rydym yn gysylltiedig â chynlluniau a all effeithio ar sawl ardal
gadwraeth, i sicrhau bod cyllid yn cael ei dargedu i wella eu cymeriad
gydag ystod o bartneriaid cyllido, gan gynnwys:
Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae'n bosibl bydd cyllid ar gael gan CADW ar gyfer gwella adeiladau heb
eu rhestru ac adeiladau rhestredig hyn yn yr Ardal Gadwraeth. Mae hyn
yn cyfrannu tuag at atgyweirio ac adnewyddu adeiladau 'pwysig' a chynlluniau
gwella yn yr Ardaloedd Cadwraeth.
Gall ffynonellau cyllid eraill fod ar gael gan Fwrdd Croeso Cymru ac
ystod o grantiau tai Cyngor megis y
Gweler Grantiau
Ar Gael am wybodaeth bellach.
Atgyweirio Adeiladau Hyn
Mae angen cynnal a chadw pob adeilad yn rheolaidd i rwystro difrod a
dadfeiliad. Mae diffyg cynnal a chadw yn creu llawer o anawsterau a cheir
pwysau i newid deunyddiau adeiladu i fathau modern megis PVC, sment neu
goncrit. Fodd bynnag, fel arfer nid yw deunyddiau fel hyn yn dderbyniol
mewn Ardaloedd Cadwraeth, gan nad ydynt fel arfer yn cyd-fynd â'r
steil, dyfnder, golwg a'r cymeriad gwreiddiol. Gellir cael mwy o gymorth
yn Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio
Lleol.
| Toeau |
-
Atgyweirio neu adfer gyda deunyddiau gwreiddiol ar sail tebyg
am debyg.
-
Awyriad anweladwy, megis awyriad dan y bondo, nid fent to.
-
Fel arfer tua ugain mlynedd yw bywyd toeau fflat ac nid ydynt
yn edrych yn dderbyniol yn aml iawn ar adeiladau hanesyddol,
heblaw am adeiladau modernaidd.
|
|
Simneiau |
-
Adfer os ydynt wedi'u tynnu.
|
| Cwteri |
- Adfer rhai Plwm a Haearn Bwrw.
|
| Rendrad |
- Gan ddefnyddio calch ar eiddo hyn, i alluogi'r adeilad i anadlu.
-
Gall rendrad sment achosi difrod parhaol i garreg, oherwydd
ei fod yn rhy galed ac wrth-ddwr i nifer o ddeunyddiau adeiladu
hanesyddol. Gall hyn greu lleithder yn y deunyddiau adeiladu
gwreiddiol ac o ganlyniad achosi tamprwydd posibl. Gall adeilad
sy'n ymddangos fel ei fod â rendrad gwreiddiol olygu bod
y brics neu waith carreg wedi'u gorchuddio o'r dechrau.
|
| Pwyntio |
-
Ni ddylai wthio allan heibio wyneb y garreg
-
Nid yw pwyntio strap neu rhuban yn dderbyniol, gan ei fod yn
tynnu sylw oddi wrth ddeunydd y prif wal.
-
Morterau hanesyddol, fel arfer yn defnyddio calch, i alluogi
symudiad naturiol ac anweddiad rhwng cymalau. Mae morter sment
yn achosi difrod mawr i garreg, fel arfer oherwydd ei fod yn
gryfach, gan achosi i leithder 'ollwng' allan o garreg sy'n
achosi asglod a fflawiau.
|
| Ffenestri a Drysau |
-
Nid yw staenio na uPVC yn dderbyniol mewn Adeiladau Rhestredig/Ardaloedd
Cadwraeth.
-
Mae steil a maint cyfartaledd yn effeithio ar gymeriad a golwg
adeilad.
-
Ystyriwch drwch a mowldin bariau ffenestri, maint a threfn
cwareli a manylion eraill megis paneli a phedimentau.
|
Cysylltwch â: Cynllunio Amgylchedd, Adran Cynllunio, Stryt
y Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292019.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Beth allaf ei wneud mewn ardal gadwraeth?
Caniatâd Adeiladau Rhestredig
Cynllunio Amgylchedd
Mynegai Cynllunio
|