|
Mae'r
ddogfen hon yn amlinellu'r 3 ddisgyblaeth sy'n rheoli datblygiad a defnydd
tir er budd y cyhoedd a'r amgylchedd.
Rheoli Datblygiad | Gorfodi | Mwynau
Rheoli Datblygiad
Prif ddyletswyddau'r tîm yw penderfynu amrywiaeth o geisiadau cynllunio
sy'n cynnwys preswylwyr tai, hysbysebion, newid defnydd, adeiladau rhestredig
ynghyd â chynlluniau datblygu preswyl, masnachol a diwydiannol ar
raddfa fawr.
Mae'r dyletswyddau eraill yn cynnwys:
-
Darparu system ymholiadau ffurfiol i benderfynu a oes angen caniatâd
cynllunio
-
Darparu cyngor i ymgeiswyr posibl cyn iddynt gyflwyno cais
-
Trafod cynigion ffurfiol gyda datblygwyr ac ymgeiswyr
-
Ymdrin â diwygiadau i gynlluniau cytunedig
- Paratoi a rhoi tystiolaeth ar ran y Cyngor ar gyfer Apeliadau
- Ymgynghori a chysylltu gydag adrannau eraill y Cyngor
- Cynrychioli'r Cyngor ar weithgorau a phwyllgorau allanol
Gorfodi
Mae'r Is-Adran Gorfodi Cynllunio yn ymchwilio i gwynion o bob ffynhonnell
ynghylch tor-reoliadau cynllunio.
Maent yn cynnwys:
- Gwaith adeiladu heb ganiatâd
-
Newid defnydd heb ganiatâd
-
Torri amodau rheoli hysbysebion neu amodau cynllunio
-
Gwaith heb ganiatâd ar adeiladau rhestredig ac adeiladau mewn
ardaloedd cadwraeth
-
Gwaith heb ganiatâd ar goed sydd naill ai'n destun Gorchymyn
Cadwraeth Coed neu'n agored i amodau cynllunio neu o fewn ardal
gadwraeth
- Safleoedd anniben sy'n rhoi golwg annerbyniol i'r safle.
Gwneir ymdrechion fel rheol i benderfynu achos drwy drafodaeth ond mae'n
bosibl y bydd raid dod â'r gyfraith iddi.
Mwynau
Mae cynllunio mwynau a gwastraff yn golygu rheoli datblygiadau sy'n cynnwys
tynnu a phrosesu mwynau a chael gwared ar wastraff. Mae safleoedd yn cael
eu monitro o'r adeg maent yn cychwyn a thrwy gydol eu cyfnod cynnal o
bum mlynedd.
-
Mae'r mwynau a reolwyd yn Wrecsam yn cynnwys tywod, gro, glo, clai,
lludw, mawn a cherrig calch.
-
Mae claddfeydd sbwriel o sawl maint ar gyfer gwastraff tai, masnachol,
diwydiannol yn ogystal â gwastraff dymchwel ac adeiladu.
Cyhoeddwyd dogfen o'r enw "Datganiad Dros Dro o'r Polisi Mwynau"
ym Mawrth 1997. Mae'n cynnwys ystod o bolisïau manwl mewn perthynas
â gwaith mwynau i gynnwys cyfnod paratoi'r Cynllun
Datblygu Unedol.
D
Cysylltwch â: Rheoli Cynllunio, Adran Cynllunio, Stryt y
Lampint, Wrecsam, LL11 1WL. Ffôn: 01978 292017.
Ffacs: 01978 292502. E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Rheoli Cynllunio
|