|
Mae'r nodyn hwn yn ymhelaethu ar bolisïau a gynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol y Cyngor mewn perthynas â diogelu coed pwysig. Mae'r nodyn yn amlinellu gofynion y Cyngor wrth ystyried ceisiadau a allai effeithio ar goed a bydd yn ffurfio ystyriaethau sylfaenol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio perthnasol.
Dylai datblygwyr sicrhau bod cynlluniau datblygu yn cynnwys mesurau i ddiogelu coed ac i wella coed yr ardal lle bo hynny'n briodol. Ni chaniateir datblygiad a fyddai'n arwain at dorri coed heb gyfiawnhad neu a fyddai'n arwain at ddifrodi coeden bwysig. Defnyddir amodau a Gorchmynion Cadwraeth Coed (GCC) i ddiogelu coed mewn achosion priodol.
Gofynion arolygu
Cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer tir sy'n agos i goed neu lle mae coed yn tyfu, dylai datblygwr gomisiynu arolygon coed a thir manwl. Amlinellir y gofynion ar gyfer y rhain isod. Arolygon Coed.
Arolygon Coed
- Lleoliad o fewn 1m o’r holl goed presennol sydd â thrawsfesur boncyff o fwy na 10mm, 1.5m uwchben lefel y tir ar neu’n agos i’r safle.
- Os oes coetir o fewn y safle, dylid amlinellu'r coetir yn gywir a dangos yr holl goed ar y ffin. Os cynigir datblygiad o fewn yr ardal coetir, bydd angen amlinellu'r holl goed.
- Os oes coetiroedd y tu allan i ffin y safle, dylid dangos ochr y coetir (gan gynnwys pedwar prif bwynt gwasgariad y corunau). Dylid hefyd amlinellu gwrychoedd yn fanwl. Mae'n bosibl y bydd rhai llwyni arbennig yn ddigon diddorol i'w hamlinellu e.e. grwpiau o rododendronau neu fathau bytholwyrdd a phlanhigion cynhenid / wedi'u cynefino sy'n darparu cynefin gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt.
- Dymunoldeb cadw pob coeden neu grwpiau o goed a benodwyd yn ôl gofynion manwl Safon Brydeinig BS5837 (2005) Adran 4.2 (Tabl 1)
- Dylai arolygon coed hefyd gynnwys rhywogaethau, iechyd, grym, ystod oed, cyflwr a chategori graddio SB y goeden fel y gwelir yn Atodiad D y Safon.
- Uchder y goeden, trawsfesur ar 1.5m uwchben lefel y tir a lled corun (Noder: dylid dangos pedwar prif bwynt lled y corun a lleoliad y boncyff er mwyn nodi unrhyw nodweddion twf anwastad e.e. boncyffion ar ogwydd, lled corun unochorg ac ati).
- Mewn achos cais cynllunio llawn argymhellir yn gryf bod yr holl safleoedd sydd â choed arnynt neu'n agos iddynt yn cael eu gwerthuso cyn nodi coed ar gyfer eu symud neu cyn penderfynu ar gynlluniau terfynol.
- Dylid cynhyrchu arolwg tir a choed cywir ynghyd ag arolwg topograffig sy'n caniatáu Astudiaeth Goblygiadau Coedyddiaeth. Dylid cynhyrchu'r ddogfen hon ar y cyd â chynigion datblygu ac ar ôl ymgynghori â'r Awdurdod Cynllunio Lleol (gan gynnwys ymweliad safle posibl).
Arolygon Tir
- Dylai gynnwys holl nodweddion tirlun meddal a chaled. Dylid dangos newidiadau yn lefel y tir a dylid cynnwys lefelau gorffenedig hysbys fel ffyrdd, slabiau llawr ac ati.
- Mae coed yn dueddol o ddioddef difrod gwreiddiau trwy gywasgu pridd a newidiadau yn lefelau'r pridd. Gall lleihau lefelau pridd wanhau gwreiddiau coed ac achosi disychiad. Mae codi lefelau pridd yn cael effaith debyg i gywasgiad, wrth i lefel yr ocsigen sydd ar gael i'r gwreiddiau leihau a lefel y d@r gynyddu. Mae hyn yn effeithio ar resbiradaeth y gwreiddiau ac mae'n achosi dirywiad. Gan fod unrhyw newidiadau mewn lefelau tir yn effeithio ar oroesiad hirdymor coed, mae'n hanfodol cael manylion lefelau tir presennol ac arfaethedig wedi'u dangos gan gyfuchlinau ac o leiaf un croestoriad. Dylid darparu'r wybodaeth hon wrth ddechrau'r broses ymgeisio.
- Dylid nodi unrhyw arwynebau caled neu wasanaethau arfaethedig dan y coed a'u hadleoli lle'n bosibl.
- Ar safleoedd cymhleth neu fawr, mae'n bosibl y bydd angen arolwg hydrolegol a /neu arolwg pridd, â chroestoriadau priodol, i ganiatáu asesiad llawn o'r effaith y bydd newidiadau'n cael ar goed a choetiroedd.
- Disgwylir i arolygon tir ddiwallu gofynion adran 4 y Safon Brydeinig BS5837 (2005) Coed mewn perthynas ag adeiladu - Argymhellion.
- Rhaid i'r Cyngor bwysleisio y dylai datblygwyr sicrhau bod gan arbenigwyr a gomisiynwyd i gynghori ar faterion cynnwys technegol o fewn ceisiadau cynllunio, y cymwysterau a'r profiad priodol o'r broses gynllunio i gynghori ar faterion manwl sy'n ymwneud â Rheoliadau Rheolaeth mewn perthynas â choed fel adeileddau o fewn neu'n gyfagos i'r safle a manylion manwl gywir ar ddiogelwch safle.
Cynigion Datblygu
Rhaid i gynigion datblygu ystyried :-
- Disgrifiad manwl o'r safle gan gynnwys: lloches coed, topograffeg, disgrifiad o'r pridd, lefelau arfaethedig ffyrdd, llwybrau, grisiau, ffensys, muriau cynhaliol, slabiau llawr, gwasanaethau ac unrhyw ardaloedd o gloddio angenrheidiol ar gyfer adeiladu nad ydynt wedi'u dangos fel rhan o'r cynllun datblygu.
- Dadansoddiad o'r coed gan gynnwys: cyfanswm y coed, cyfres rhifau, dadansoddiad o werth y tirlun / amwynderau, effaith cysgod ar amwynderau preswyl, coed i'w colli oherwydd y datblygiad, coed i'w colli am resymau eraill a chynigion ar gyfer plannu coed eraill yn eu lle.
- Dylid cyflwyno Cynllun Cyfyngiadau Coed yn unol ag adran 5 SB 5837 (2005) wrth wneud cais cynllunio. Dylai hwn gynnwys lleoli ac adeiladu ffensys amddiffynnol. Dylid hefyd cyflwyno rhaglen driniaeth adfer er mwyn cadw coed mewn cyflwr diogel ac iach.
- Cynllun sy'n dangos unrhyw ofynion gan y Cyngor am linellau golwg ac isadeileddau priffyrdd eraill a dodrefn.
- Bydd y Cyngor yn cael ei arwain yn benodol gan yr argymhellion a gynhwysir o fewn Safon Brydeinig 5837 2005: "Coed mewn perthynas ag adeiladu - Argymhellion". Mae'r Safon yn rhoi cyngor hanfodol mewn perthynas â'r holl faterion pwysig sy'n ymwneud â choed wrth ystyried adeiladu. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn ystyried cynigion ar gyfer dulliau neu ddefnyddiau newydd lle gellir dangos bod y rhain yn gwella'r tebygolrwydd o gadw coed ar y safle.
- Cynghorir datblygwyr yn benodol i ystyried Atodiad C y Safon, sy'n delio â sut gall datblygiad ddifrodi coed. Dylai cynlluniau safle geisio lleihau effeithiau niweidiol posibl y datblygiad cymaint ag sy'n bosibl.
- Cynghorir cynllunwyr yn benodol i ystyried Adran 6.3 y Safon sy'n ymwneud ag ystod y problemau y gall gwaith adeiladu gael mewn perthynas â lleoliad coed a/neu dyfiant coed.
- Ni chaniateir datblygiad sy'n rhy agos at orchudd coed(en) sefydledig neu lle byddai safle'r annedd yn golygu bod coed(en) yn cael effaith ormesol neu lethol gan darfu ar olygfeydd trwy ffenestri a rhoi lle i bryderon diogelwch. Ni chaniateir datblygiad a fyddai'n achosi i goed pwysig greu anghyfleustra afresymol neu niwsans i drigolion y dyfodol, neu lle byddai gorchudd y coed yn gwrthdaro â gofod amwynder personol heb fod angen.
- Cynghorir penseiri tirlun yn benodol i ystyried adran(au) 13, 14 a 15 y Safon. Mae'r adrannau hyn yn ymdrin â phlannu newydd, ei berthynas â'r datblygiad a gofynion ar gyfer tyfiant y dyfodol. Dylai tîm prosiect y datblygwyr gyflwyno'r ystod fwyaf o adroddiadau, arolygon, lluniau (gan gynnwys croestoriadau) i ganiatáu swyddogion y Cyngor i asesu cynigion yn llawn ac adrodd i'r pwyllgor cynllunio.

Penderfynu Ceisiadau Cynllunio
Wrth benderfynu ceisiadau, bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth sylfaenol i'r effaith ar goed a'r tirlun cyffredinol a bydd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i gynlluniau datblygu statudol a pherthnasol presennol, cyngor y Llywodraeth a'r Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol hwn. Bydd yr Astudiaeth Goblygiadau Coedyddiaeth a chyflwyniadau manwl eraill (Datganiadau Dull) hefyd yn agwedd bwysig i gynorthwyo'r Cyngor i werthuso'r cydbwysedd rhwng colledion coed/tirlun a manteision ac felly'n darparu sail ar gyfer penderfynu amodau cynllunio priodol.
Gorchmynion Cadwraeth Coed
Fel y nodwyd yn flaenorol, mae gan yr awdurdod lleol hawl i greu Gorchmynion Cadwraeth Coed (GCC) i gynnal dymunoldeb yr amgylchedd lleol.
Mewn perthynas â chynigion datblygu, bydd y Cyngor yn defnyddio ei bwerau GCC mewn modd hyblyg. Gall hyn gynnwys cyflwyno GCC :-
- cyn derbyn y cynigion datblygu;
- ar ôl derbyn y cynigion datblygu;
- yn ystod y cynigion datblygu;
- ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau; neu
- i beidio â chyflwyno GCC os yn briodol.
Bydd yr ystod uchod o ymatebion yn cael eu gweithredu ar sail pwysigrwydd y safle, pwysigrwydd mathau unigol, y cynigion datblygu a lefel y data a ddarperir i'r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â'r datblygiad.
Os penderfynir gweithredu GCC ar safle, mae'r Cyngor yn annog ymgynghoriad rhwng y datblygwyr a Swyddog Coedyddiaeth y Cyngor cyn cyflwyno unrhyw gynlluniau arfaethedig.
Rhwystr amddiffynnol

- Pyst sgaffaldiau safonol
- Gosodir pyst unionsyth yn y ddaear
- Paneli wedi'u gosod ar y pyst unionsyth gyda chlymau gwifrau a chlampiau sgaffaldiau safonol lle bo'r angen
- Rhwyllau weldio wedi'u gosod ar y pyst unionsyth a'r pren llorweddol â gwifrau
- Clampiau safonol
- Gwifrau wedi'u dirdroi a'u gosod ar wyneb mewnol y ffens i'w hatal rhag datgysylltu'n rhwydd
- Lefel y ddaear
- Wedi'i osod oddeutu 0.6m o dan y ddaear
Ffens byrddau pren 2.4m

Pyst: 100mmx100mmx3.5m wedi'u gosod 1m yn y ddaear a bylchau 2.5m.
Rheiliau Top a Gwaelod: Pren Meddal 50mmx75mm wedi'u hoelio ddwywaith i'r pyst unionsyth.
Pyst Cynnal : Pren meddal 75mmx50mm, wedi'u hoelio'n gadarn i'r pyst unionsyth bob yn dri phost, ac ar bob cornel neu pan yn newid cyfeiriad.
Ffens bwrdd haenog : 2.4m o uchder, bwrdd haenog o leiaf 20mm o drwch, wedi'i osod yn gadarn i ffrâm goed.
Gweithredu Ceisiadau Cynllunio
Mewn amgylchiadau priodol, bydd y Cyngor yn gofyn am ddefnyddio cymhorthion rheoli / rhaglenni sy'n sicrhau bod coed a nodweddion tirlun meddal eraill yn cael eu hintegreiddio'n ddiogel ac yn ddymunol i'r cyfnod adeiladu. Bydd y Cyngor hefyd yn gofyn i ddatblygwyr a'u cynghorwyr sy'n cynllunio'r prosiectau adeiladu i gael y cyngor proffesiynol priodol. Mewn perthynas â choed, coetiroedd a llystyfiant presennol eraill (gan gynnwys gwrychoedd), bydd hyn yn golygu swyddog coedyddiaeth y datblygwr yn goruchwylio'r cyfnod adeiladu.
Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â Swyddog Coedyddiaeth y Cyngor ar 01978 292529 am unrhyw wybodaeth bellach neu i drefnu cyfarfod ar y safle cyn gwneud cais.
Rhoddir caniatâd i atgynhyrchu Ffigwr 2 SB 5837: 2005 gan y Sefydliad Safonau Prydeinig. Gellir cael Safonau Prydeinig gan BSI Customer Services, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL. Ffôn: +44 (0)20 8996 9001. e-bost: cservices@bsi-global.com
Am ragor o wybodaeth cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam LL11 1WL.
E-bost: Planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292019
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Medi 2000; Diwygiwyd Ebrill 2006
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 17 - Coed a Datblygiad
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 17 - Coed a Datblygiad - fformat PDF 443kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Gorchmynion Cadwraeth Coed
7 - Tirlunio
10 - Lle Agoredd Cyhoeddus ar gyfer Datblygiadau Tai Newydd
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|