Mae
angen caniatâd cynllunio i ymestyn gardd ty ar dir a ddefnyddir
at ddiben arall. Mewn ardaloedd adeiledig, bydd cynigion i ymestyn gerddi
fel rheol yn cynnwys tir a ddatblygwyd eisoes, sydd yn segur neu'n wag.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cynigion hyn yn cydymffurfio â
pholisïau cynllun datblygiad
y Cyngor ac yn debygol o fod yn dderbyniol mewn egwyddor: yn wir, gallant
fod ag effaith gadarnhaol ar olwg y gymdogaeth.
Yng nghefn gwlad, fodd bynnag, rhaid ystyried cynigion i ymestyn gerddi
yng nghyd-destun rhychwant ehangach o bynciau cynllunio. Mae'r Cyngor
yn ymroddedig i gynnal cymeriad a golwg cefn gwlad a'i warchod rhag datblygiad
anaddas. Drwy ehangu cwrtilau preswyl, newid ffiniau lleiniau a dod â
defnydd domestig i dir oedd gynt yn dir amaeth, gall ymestyn gerddi fod
â chryn effaith weledol. Mewn amryw o achosion, mae'r fath estyniadau
yn arwain yn raddol at ddyfodiad nodweddion trefol (er enghraifft, cytiau,
modurdai, lloriau caled, ac ati) i gylchoedd lle rhoddir gwerth uchel
ar dirlun agored a deniadol.
Mae'r Cyngor yn cydnabod bod rhai deiliaid tai yng nghefn gwlad eisiau
gerddi mwy. Lle gellir creu'r rhain yn y fath fodd ag i beidio amharu
ar dirlun a chymeriad y cylch, gall estyniad i ardd fod yn dderbyniol.
Serch hynny, egwyddor arweiniol y Cyngor yw'r angen i warchod amgylchedd
cefn gwlad. Mae'r canllaw hwn, felly, yn trafod y materion y bydd y Cyngor
yn eu hystyried wrth benderfynu ceisiadau i ymestyn gerddi yng nghefn
gwlad.
Bydd maint y tir y bydd y Cyngor yn ei ystyried yn addas i'w gynnwys mewn ymestyniad i ardd yn amrywio gan ddibynnu ar faint y cwrtil preswyl presennol. Pan fo gan dy ardd sylweddol bresennol, mae estyniad yn debygol o gael ei wrthod: fodd bynnag, pan fo maint cwrtil presennol yn gyfyng iawn, gall estyniad fod yn dderbyniol ond iddo gael ei gyfyngu i'r darn lleiaf o dir sy'n addas i'r teulu allu ei fwynhau. Wrth ystyried os yw maint ymestyniad arfaethedig i ardd yn briodol, bydd y Cyngor yn ystyried yn arbennig :-
wynebwedd a lleoliad y safle;
presenoldeb nodweddion tirlun fel newid goleddf, gwrychoedd, cwrs dür neu goetir allai ffurfio terfyn newydd rhesymegol i'r cwrtil preswyl;
faint o dir amaeth o ansawdd uchel fyddai'n cael ei ddwyn o waith cynhyrchiol.
Mae ymestyn gerddi er mwyn cael lle i danciau tanwydd gwres canolog, tanciau carthion neu wasanaethau hanfodol eraill cartrefi yn debygol o fod yn dderbyniol lle nad oes digon o le ar gael i'r gwasanaethau hyn yn y cwrtil preswyl presennol. Fodd bynnag, rhaid cyfyngu'r estyniad i'r arwynebedd lleiaf sydd ei angen i gydymffurfio â gofynion y cyfarpar. Yn achos cyfarpar arwyneb, bydd angen i strwythurau ac offer fod wedi eu lliwio, eu cuddio neu eu gosod yn y fath fodd ag i leihau'r effaith ar y tirwedd.
Os yw'r ty heb fynediad i gerbydau, mynediad gyda gwelededd gwael neu heb le i barcio oddi ar y ffordd, gellir caniatau ymestyniad i ardd pe bai hynny yn diddymu perygl sylweddol i ddiogelwch ar y ffordd. O dan yr amgylchiadau hyn, cyfyngir yr estyniad fel rheol i'r arwynebedd lleiaf sydd ei angen i gydymffurfio â safonau ffyrdd a pharcio'r Cyngor.
Mewn rhai mannau, yr angen i amddiffyn yr amgylchedd a gwarchod amwynder gweledol fydd y prif ystyriaethau wrth benderfynu cynigion i ymestyn gerddi. Bydd y mannau hyn yn cynnwys safleoedd:-
Diffinnir rhwystrau gwyrdd yn y cynllun datblygu a'r rhain yw'r ardaloedd, agored gan mwyaf, sy'n gwahanu'r prif drefi a phentrefi. Bwriedir iddynt atal aneddiadau rhag cyfuno drwy gyfyngu datblygiad i ddefnyddiau a gweithgareddau na fyddai ddim yn effeithio ar eu cymeriad agored. Byddai ymestyn gerddi yn sylweddol o fewn y rhwystrau gwyrdd yn difa'r nodwedd hon ac, os nad yw cynnig yn fychan neu'n ddi- nod iawn, mae'n annhebygol felly y byddai caniatâd cynllunio yn cael ei roddi.
Y rhain yw'r tirluniau pwysicaf yn y Fwrdeistref Sirol. Dynodwyd hwy yn y cynllun datblygu oherwydd eu hansawdd weledol ac amgylcheddol a'r cyfraniad a wnânt i sefyllfa, amwynder a chymeriad yr aneddiadau. Gallai ymestyn gerddi newid golwg y cylchoedd hyn yn sylweddol ac maent yn debygol o gael eu gwrthod.
Os bydd yr estyniad arfaethedig yn cynnwys safle, neu ran o safle, sy'n cynnwys nodweddion o gryn ddiddordeb i gadwraeth natur, mae'r angen i warchod y nodweddion hyn yn debygol o ddwyn blaenoriaeth ar yr achos dros ymestyn gardd ty.
Mae'r cynllun datblygu yn diffinio terfynau aneddiad ac ni chaniateir datblygiad tu hwnt iddynt. Mae'r terfynau hyn, sydd fel rheol yn dilyn ffiniau adeiladau presennol neu dir a ddynodwyd ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, yn sefydlu gwahaniaeth amlwg rhwng tref, pentref a chefn gwlad. Byddai'r gwahaniaeth hwn yn cael ei wanhau'n sylweddol pe byddai gerddi tai yn cael eu hymestyn yn ddiwahân tu allan i'r terfynau cymeradwy hyn. Y canlyniad terfynol fyddai i ddatblygiad lechfeddiannu cefn gwlad bob yn dipyn. Felly, nid yw caniatâd cynllunio i ymestyn gerddi tu hwnt i derfynau aneddiad yn debygol o gael ei roddi ond mewn achosion eithriadol lle byddair cwrtil preswyl newydd yn cael ei gynnwys rhwng gerddi tai cyfagos.
Mae'r cynllun datblygu yn dangos y gellir caniatáu mewnlenwi preswyl lle bo bylchau bach rhwng tai ar ffordd yn dderbyniol ond bod dim niwed amgylcheddol yn digwydd: fe ellir caniatau ymestyn gerddi i'r fath fylchau felly hefyd. Fodd bynnag, mae cynigion fyddai'n ymestyn gerddi fel ag i gau bylchau sylweddol rhwng tai yn annhebygol o gael caniatâd. Mae'n hanfodol bod y bylchau hyn yn cael eu cadw os yw cymeriad agored cefn gwlad i'w gynnal.
Os rhoddwyd caniatâd eisoes i ymestyn gardd, mae'n annhebygol dros ben y gellid cyfiawnhau estyniad pellach oherwydd yr effaith ychwanegol ar dirlun ac amwynder.
Dylid cynnwys estyniadau i dai gwledig o fewn y cwrtil preswyl presennol (gweler Canllaw Cynllunio Lleol 13: Tai yng Nghefn Gwlad). Bwriad polisïau'r cynllun datblygiad yw lleihau datblygiadau adeiladu yng nghefn gwlad ac, o'r herwydd, mae'n annhebygol y rhoddir caniatâd cynllunio i ymestyn gerddi er mwyn creu lle i ehangu ty.
Fel rheol gosodir amodau ar ganiatâd cynllunio i ymestyn gerddi. Diben yr amodau hyn yw lliniaru effaith weledol estyniadau ar y tirlun a gallant gynnwys:
Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â'r polisïau cynllunio perthnasol sy'n trin datblygiad yng nghefn gwlad. Cynhwysir y rhain yn y cynllun datblygiad, gyda chopïau o hwnnw ar gael i'w harchwilio yn Adran Gynllunio'r Cyngor. Bydd swyddogion cynllunio yn falch o drafod cynigion yn anffurfiol cyn i gais am ganiatâd cynllunio gael ei gyflwyno.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam, LL11 1WL.
Ffôn: (01978) 292013
Ffacs: (01978) 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Mabwysiadwyd Ebrill 1998
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 14 - Ymestyn Gerddi Yng Nghefn Gwlad
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 14 - Ymestyn Gerddi Yng Nghefn Gwlad - fformat PDF 88kb ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Cynllun Datblygiad Unedol Wrecsam