Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt
Mae hwn yn un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd cynllunio lleol sy'n amlygu cynigion cynllunio lleol mewn ffordd glir a chyson gyda'r nod o wella safonau dylunio. Ni chynlluniwyd ein hamgylchedd trefol ag anghenion pawb mewn golwg a gall hyn fod yn anfantais i rai grwpiau o bobl e.e. yr henoed, pobl anabl, plant bach, mamau'n gwthio bygis, ayb. Ar gyfer llawer o adeiladau newydd, ceir gofynion a chanllawiau yn Nogfen Gymeradwyedig M Rheoliadau Adeiladu 2000, Safon Brydeinig 8300 a Symudedd Cynhwysol. Dylai'r rhai sy'n darparu gwasanaethau fod yn ymwybodol hefyd o ddyletswyddau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, gan gynnwys darpariaethau sy'n estyn tu hwnt i'r safle, ynghyd â darparu allanfeydd tân annibynnol neu lochesi tân (Comisiwn Hawliau Anabledd - datganiadau am fynediad ac adran 5.45 o gôd ymarfer y Ddeddf 2002) sy'n cwmpasu mwy na Dogfen Gymeradwyedig M.
Paratowyd a mabwysiadwyd y cyfarwyddyd sy'n dilyn gan y Cyngor i feithrin gwell safon o ddylunio ac annog dylunwyr a datblygwyr i ystyried anghenion pobl yn llawn yn ystod y cyfnodau dylunio cynnar.
Ni all y cyfarwyddyd hwn gwmpasu holl feysydd dylunio nac anghenion pawb ond anogir dylunwyr i drafod eu cynigion yn gynnar gyda swyddogion cynllunio neu reoli adeiladu'r Cyngor. Bydd y Cyngor yn ceisio hybu hygyrchedd a chyfleusterau i grwpiau hawdd eu niweidio. Rhaid cofio bod y cyfarwyddyd canlynol yn ymwneud â'r isafswm safonau sy'n dderbyniol dan y rheoliadau ond anogir chi i ystyried arfer gorau a allai gael dimensiynau mwy yn hytrach na'r isafswm gofynion fel y'u hadeiladwyd.
Datganiadau am Fynediad
I helpu awdurdodau i benderfynu a yw cynigion yn rhesymol neu beidio, argymhellir cynnwys datganiad am fynediad gydag unrhyw gais lle mae gan y cyhoedd fynediad neu lle mae 3 chartref neu fwy'n cael eu hadeiladu. Gallai'r datganiad fod yn gofnod yn dangos bwriad i gydymffurfio â'r holl safonau perthnasol ynghyd â nodyn yn esbonio pa egwyddorion a fabwysiadwyd. Rhaid darparu datganiadau am fynediad bob amser lle nad oes modd cydymffurfio â Dogfen Gymeradwyedig M, gan roi rhesymau a strategaeth i'r penderfyniadau.
Cyflawni'r Nod
Rhaid ystyried y nodweddion canlynol:
Parcio Ceir
Nifer: Dylid clustnodi 6% o'r lleoedd ar gyfer pobl ag anableddau. Dylid darparu lle ar gyfer pob gweithiwr anabl a thu hwnt i'r ddarpariaeth a grybwyllir. Os yw lleoliadau eraill neu'r defnydd a ddisgwylir yn awgrymu y dylid cynnwys canran uwch o leoedd parcio i bobl anabl, yna dylid eu darparu er mwyn cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (gofynnol dan y ddeddf).
Lleoliad: Dylid lleoli lleoedd parcio o fewn 50 metr o fynedfa y gellir mynd ati'n hawdd a dylent fod dan do, o ddewis.
Mannau parcio: Dylent fod yn ddigon llydan i ymdopi â chadeiriau olwyn i ac o'r car. Dylid amlygu lleoedd a glustnodwyd gan arwyddion clir ger y fynedfa a ger y lleoedd parcio.
Arwynebau
Dyluniad: Dylai arwynebau mewnol ac allanol fod yn gadarn, ni ddylent fod yn llithrig a dylent fod wedi eu gosod yn dda. Lle mae yna newidiadau mewn cyfeiriad neu lefel, dylid diffinio ymyl unrhyw lwybr â lliw gwahanol, arwyneb â chyffyrddiad gwahanol neu, lle'n briodol, canllaw isel.
Dodrefn stryd: Dylai fod yn hawdd gwahaniaethu rhwng y dodrefn a phob dim arall o gwmpas. Dylid osgoi gorchuddion sy'n gwthio allan, stepiau prin a rhwyllau agored mawr. Dylid darparu seddi priodol fwyafswm o 50m i ffwrdd o'i gilydd.
Llwybrau
Dimensiynau: Dylai llwybrau fod yn isafswm o 1.8 metr o led, o ddewis 2 fetr o led.
Dimensiynau: Dylid clirio rhwystrau o lwybrau; dylai ymylon fod yn glir a dylid gosod arwyddion a goleuadau ar lwybrau o ffyrdd, safleoedd bws a meysydd parcio. Rhaid gosod palmentydd cyffyrddol ac â gwyriad fertigol o 3mm neu lai (Rhan M1.13(d).
Ymylon palmant: Palmentydd is, ar yr un lefel â'r ffordd, uchafswm uchder o 6mm, ac sy'n cynnig uchafswm lethr o 1:10. Fe'ch cynghorir i ddefnyddio arwynebau nad oes modd llithro arnynt a chroesfannau i gerddwyr.
Mynd i mewn i adeilad
Dylid osgoi newidiadau mewn lefelau, yn enwedig ger mynedfeydd ac allanfeydd. Lle nad yw hyn yn bosibl, dylid darparu rampiau a grisiau.
Rampiau
Dimensiynau: Dylai rampiau fod yn 1.8 metr o led (isafswm o 1.5 metr) ag ymyl palmant o 100mm o liw gwahanol ac ar lethr o 1:20. Ar ddechrau a diwedd ramp, dylid darparu llwyfan lefel 1.8 metr o led. Ar rampiau hir, dylid darparu llwyfan o 1.8m x 1.8m i ganiatáu lle mynd heibio lle nad yw'n bosibl i ddefnyddwyr cadair olwyn weld o un pen i'r llall (1.5 metr fel arall). Ni ddylid rhoi arwyneb cyffyrddiol ar rampiau.
Nodweddion: Dylid darparu canllawiau ar ddwy ochr y rampiau. Dylid goleuo unrhyw fynedfa'n dda a dylai unrhyw rampiau fod dan do.
Grisiau
Dimensiynau: Dylai grisiau fod yn 1.8 metr o led (isafswm o 1.2 metr). Dylai lled camu grisiau fod yn isafswm o 280mm a dylai'r codiad fod rhwng 150 a 170mm. Ni ddylid defnyddio codiadau agored na gris unigol.
Nodweddion: Dylid diffinio ymylon stepiau neu risiau'n glir. Dylid rhoi arwydd ger grisiau hefyd a dylai'r defnydd a ddefnyddir fod yn gadarn ac ni ddylai fod yn bosibl llithro arno.
Canllawiau
Dimensiynau: Dylid gosod canllawiau fetr uwchben pen grisiau ac ni ddylent fod yn fwy na 900mm uwchben ymylon y grisiau. O ddewis, dylent gyrraedd unrhyw ddrysau neu fynd o leiaf 450mm tu hwnt i ddiwedd y grisiau.
Dylai canllawiau fod rhwng 40mm a 50mm o ran diamedr a 60mm o'r wal gyfagos. Dylai fod yn hawdd cydio ynddynt; dylent fod yn barhaus ond dod i ben mewn ffordd amlwg megis dychwelyd i'r wal. Dylent fod yn gyfforddus ac ni ddylai fod yn rhy oer cyffwrdd â nhw.
Drysau
Dimensiynau: Dylai mynedfeydd feddu ar isafswm lled agor o 1000mm. Dylai drysau mewnol feddu ar isafswm lled agor o 800mm. Lle ceir drysau dwbl, dylai o leiaf un drws fod yn isafswm o 800mm o led.
Mathau: Dylid osgoi drysau troi a thrwm. Mae drysau llithro awtomatig yn ddymunol. Lle mae angen drysau colfachog am resymau diogelwch, dylid bod yn arbennig o ofalus i sicrhau bod pobl anabl yn gallu eu defnyddio.
Defnyddiau: Dylai fod yn hawdd adnabod drysau gwydr. Rhaid estyn paneli gweld i lefel isel. Dylai drysau a dodrefn fod o liw gwahanol i bob dim arall o gwmpas.
Yn yr adeilad
Gellir lleddfu'r ymdrech o symud o gwmpas os ydych yn ystyried cylchrediad, arddangosiadau a chyfleusterau'n gynnar iawn.
Cynllun
-
Dylai'r prif gyfleusterau fod ger y prif fynedfa. Os bydd newidiadau bach o ran lefel, bydd modd ymdrin â'r rhain drwy ddyblygu grisiau a rampiau felly.
-
Dylai llwybrau o fynedfeydd i lifftiau, grisiau, desgiau ymholi a thoiledau fod yn glir a heb rwystrau.
-
Dylai fod digon o seddi, yn enwedig lle mae disgwyl i bobl aros. Dylent fod yn gadarn a dylent fod o uchderau gwahanol.
-
Dylai fod yn hawdd i bobl anabl ddefnyddio ffonau, cownteri a mannau talu.
-
Dylai canllawiau helpu pobl anabl sy'n gallu cerdded.
-
Dylid meddalu arwynebau caled sy'n adlewyrchu swn.
-
Dylai waliau, lloriau a nenfydau fod o liwiau gwahanol.
Coridorau
Dimensiynau: Dylai coridorau fod yn 1.8 metr o led a dylid sicrhau nad oes pethau'n ymwthio allan arnynt.
Nodweddion: Mae corneli crwn neu lydan yn ddymunol; dylid osgoi carpedi trwchus iawn ynghyd â lloriau teils llithrig. Bydd angen lliwiau gwahanol rhwng y drysau a'r waliau.
Lifftiau
Dimensiynau: Dylai lifftiau fod yn isafswm o 1.1 metr o led ac 1.4 metr mewn dyfnder y tu mewn a dylent fod yn ddigon mawr ar gyfer eu pwrpas. Dylai fod 1.5 metr o le heb rwystrau tu blaen i fynedfa'r lifft a dylai'r drysau agor 900mm (lleiafswm o 800mm). Ni ddylai'r botymau rheoli fod yn uwch nag 1.2 metr uwchben lefel y llawr a dylai'r botymau gario symbolau cyffyrddadwy.
Toiledau
Dylai lle toiled fod yn isafswm o 2.2 metr x 1.5 metr, ynghyd â drws sy'n agor allan 1 metr o led neu ddrws llithro a llawr nad yw'n llithrig. Mae amrywiaeth o gynlluniau'n addas.

Arwyddion
Dylai unrhyw wybodaeth fod yn glir a diamwys - wedi ei lleoli ar uchder cyfleus, hawdd ei ddarllen a dylai arwyddion fod yn hawdd eu hadnabod drwy ddefnyddio lliw gwahanol o'r wal sy'n gefndir iddynt. Peidiwch â defnyddio cymysgedd o goch a gwyrdd.
Dylid defnyddio symbolau safonol lle'n briodol a dylid defnyddio symbolau boglynnog/braille o fewn cyrraedd.
Rheolau Newydd ar gyfer Diogelwch Trydanol yn y Cartref
O 1 Ionawr 2005, bydd gofyn i bobl sy’n gwneud gwaith trydanol mewn cartrefi a gerddi yng Nghymru a Lloegr ddilyn y rheolau newydd yn y Rheoliadau Adeiladu.
Cwmpas a Gofynion
Mae Rhan P o’r Rheoliadau Adeiladu’n perthyn i osodiadau trydanol sefydlog sy’n rhan o’r prif gyflenwad a rhai foltedd isel, gan gynnwys:
- Gwifrau a chyfarpar y prif gyflenwad
- Goleuadau foltedd isel iawn
- Trydan gwres canolog
- Systemau electronig megis larymau lladron a thân
Mae Rhan P yn perthyn i osodiadau trydanol mewn anheddau a fflatiau (ond nid ystafelloedd at bwrpasau preswyl) ac i estyniadau i osodiadau trydanol yn y canlynol, sy’n cael eu heithrio o Atodiad 2 o’r Rheoliadau Adeiladu ond nid gofynion Rhan P:-
- Ystafelloedd gwydr
- Cynteddau
- Gerddi
- Modurdai
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'r:
Prif Swyddog Cynllunio,
Stryt y Lampint,
Wrecsam,
LL11 1AR.
Ffôn: (01978) 292050.
Ffacs: (01978) 292502.
Ebost: Planning@wrexham.gov.uk
Mabwysiadwyd Hydref 2002
Diweddarwyd Medi 2005
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 6 - Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 6 - Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt - fformat PDF 1.2Mb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau
Cynllunio Lleol
|