skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 5 - Addasu Eiddo Preswyl Yn Dai Amlbreswyl

 

Un o gyfres o ganllawiau cynllunio yw hwn sydd yn egluro cynigion cynllunio lleol ar ffurf eglur a chryno gyda’r amcan o wella safonau. Paratowyd a mabwysiadwyd y canllawiau a ganlyn gan y Cyngor i feithrin gwell safon o addasu.

O nodi’r cyngor syml sydd yn y daflen hon y gobaith yw y bydd datblygwyr yn deall gofynion addasu eiddo preswyl yn dai amlbreswyl ac yn cynnwys nodweddion angenrheidiol ar adeg y cais cynllunio.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae prisiau tai chwyddedig wedi cynyddu’r galw am unedau bychain o lety i logi gyda’r canlyniad fod amryw o dai preswyl yn cael eu defnyddio i greu fflatiau, ystafelloedd byw a chysgu, tai cyfrannol a llety. Wrth ystyried cynigion i addasu eiddo preswyl yn dai amlbreswyl, bydd y Cyngor yn sicrhau nad effeithir yn andwyol ar gymeriad ac amwynder y gymdogaeth.

Y Gofyn am Ganiatâd Cynllunio

Nid oes angen caniatâd cynllunio pan fydd uned annedd preswyl (e.e. ty, ty unllawr, fflat, fflat deulawr) yn parhau i weithredu fel ty preswyl.

I weithredu fel ty preswyl rhaid i un o’r canlynol fod yn gymwys:

  • Ei ddefnyddio gan berson neu deulu unigol (gan gynnwys person neu deulu sy’n cadw lletywyr).

  • Ei ddefnyddio gan ddim mwy na chwe pherson yn byw ar sail gymunol fel ty unigol (gan gynnwys pobl dan anfantais neu anabl yn cydfyw o dan gynllun “gofal a chefnogaeth yn y gymuned” a grwpiau bychain eraill sy’n dewis cydfyw ar sail gymunol, fel myfyrwyr).

Gall yr amodau canlynol fod yn arwyddol o dunigol yn aml:-

  • Bod y tenantiaid yn cyd fwyta yn rheolaidd.

  • Bod y rhent yn cael ei dalu’n gymunol.

  • Bod y gegin a’r ystafell ymolchi yn cael eu rhannu.

  • Bod oergelloedd a storfeydd bwyd heb eu cloi.

  • Bod tenantiaid unigol yn byw yno yn barhaol o fewn rheswm.

Os nad yw / na fyddai’r eiddo yn gweithredu fel cartref teulu neu dyaid unigol yna byddai hyn yn ddatblygiad a byddai angen caniatâd cynllunio at newid defnydd. Fe all y bydd angen caniatâd Rheoli Adeiladu neu Reolau Iechyd Amgylcheddol hefyd.

Safonau

Nid yw’r Cyngor yn gwrthwynebu addasu eiddo preswyl presennol mewn egwyddor ond bod y cynnig yn boddhau ystyriaethau parcio, amwynder ac amgylcheddol ac yn gyson â pholisïau cynllunio lleol eraill.

Fel rheol disgwylir i gynigion addasu ateb y gofynion canlynol:-

  1. Parcio

    1. Fflat un ystafell - 1 llecyn fesul dau le gwely

    2. Ty a rennir - 1 llecyn fesul dau le gwely

Os na ellir darparu hyn o fewn ffiniau’r safle gellir eu darparu un ai:-

  • ar ymyl y ffordd o flaen yr eiddo ond iddo beidio peri problemau traffig, neu

  • mewn ardal o barcio oddi ar y stryd cyfyngedig o fewn 100 metr i’r eiddo. Bydd gofyn i’r fath bacio fod wedi ei sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol gyda’r Cyngor cyn y caiff caniatâd cynllunio ei ddyfarnu.

Yn gyffredinol bydd llecynnau parcio ceir mewn gerddi bychain yn y tu blaen yn annerbyniol.

Wrth asesu cynigion bydd y Cyngor yn ystyried galw presennol a rhagdybiedig am barcio ar y stryd yn ystod y dydd a'r pwysau am barcio yn ystod y nos yng nghyffiniau'r datblygiad.

  1. Amwynderau

Pan fo gardd gefn ar gael dylid ei defnyddio ar gyfer mannau sychu, lle i hamddena a chadw biniau. Dylai’r cyfleusterau fod ar gael i’r holl drigolion.

Os na fydd gardd ar gael, dylid darparu lle yn yr eiddo at sychu dillad. Dylid darparu lle i un bin ar gyfer pob 3 uned a’i leoli yng nghefn yr eiddo, neu wedi ei guddio’n dda fel arall.

Gwybodaeth Bellach

Os byddwch eisiau gwybodaeth am addasiadau i’r strwythur, dulliau dianc ac ymladd tân, goleuadau argyfwng ac ynysu waliau, nenfydau a lloriau rhag swn, cysylltwch â’r

Prif Swyddog Cynllunio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11 1WL.

E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502

Os byddwch eisiau gwybodaeth ar fannau cadw a pharatoi bwyd, toiledau, baddonau, cawodydd a basnau, rhagofalon dianc a thân, ac addasrwydd cyffredinol yr eiddo cysylltwch â’r

Prif Swyddog Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Wrecsam LL11 1AY.

Mabwysiadwyd Ebrill 1993
Diwygiwyd Mehefin 2004

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 5 - Addasu Eiddo Preswyl Yn Dai Amlbreswyl

Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

Canllaw Rhif 5 - Addasu Eiddo Preswyl Yn Dai Amlbreswyl - fformat PDF 284kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Rheoli Adeiladu

Gwasanaethau Amgylcheddol

Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint