skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 4 - Ardaloedd Cadwraeth

 

Un o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol yw hwn sydd, ymysg pethau eraill, yn egluro cynigion cynllunio lleol gyda’r amcan o wella safonau dylunio.

Nid oes gobaith i’r canllawiau hyn ymdrin â phob agwedd a phwnc, a chynghorir ymgeiswyr ac asiantau, pryd bynnag y bydd yr amgylchiadau’n anarferol, i drafod eu cynigion gyda swyddog cynllunio cyn i ymgeisydd wneud cais ffurfiol.

Ers 1968 bu’r gallu gan Awdurdodau Lleol i ddynodi rhannau o’u hardaloedd gweinyddol yn Ardaloedd Cadwraeth. Dywed y ddeddfwriaeth y gellir dynodi ardal oherwydd ei 'diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, y dylid cadw neu wella ei chymeriad a’i golwg'. Nid oes unrhyw fanyleb safonol ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth. Gall diddordeb arbennig ardal ddeillio o gyfuniad o nodweddion, fel patrwm hanesyddol y strydoedd ac arddull draddodiadol neu nodedig yr adeiladau. Yr hyn sy’n bwysig i holl Ardaloedd Cadwraeth yw eu hansawdd gweledol. Daw’r agwedd hon yn bennaf o’r berthynas rhwng yr adeiladau a’r bylchau rhyngddynt, ynghyd ag ansawdd cynhenid yr adeiladau a strwythurau eraill. Mae ffiniau ardaloedd presennol yn cael eu hadolygu o dro i dro, ac ystyrir dynodi ardaloedd newydd.

Gyda gofal a sylw gellir cadw cymeriad ein Hardaloedd Cadwraeth, gan eu cynnal fel mannau hyfyw i weithio neu fyw ynddynt.

Ar hyn o bryd mae 21 o Ardaloedd Cadwraeth wedi eu dynodi yn y Fwrdeistref Sirol:-

Bangor- is-y-Coed, Y Bers, Y Waun, Erbistog, Gresffordd, Hanmer, Holt, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Marchwiel, Merffordd, Minera, Owrtyn, Penycae, Rhiwabon, Chei Trefor, Gwyrddymp, Canol Tref Wrecsam, Ffordd y Tylwryth Teg, Ffordd Grosvenor, Ffordd Sailsbury, Barics Hightown.

Rheolau Arbennig

Er mwyn amddiffyn eu hamgylchedd arbennig, mae rheolaeth fwy llym ar ddymchwel, datblygu a thrin coed yn weithredol mewn Ardaloedd Cadwraeth. Ni fwriedir y rheolau hyn fel rhwystr i newid, ond fel amddiffyniad o gymeriad yr ardal yn ei chyfanrwydd.

  • O ganlyniad mae grymoedd rheoli ychwanegol dros:- estyniadau, estyniadau i doeau, arwisg, modurdai, ac ati.

  • Mae’r rhan fwyaf o waith dymchwel angen Caniatâd Ardal Gadwraeth. Fel rheol, ni roddir caniatâd i ddymchwel hyd nes bydd ffurf yr ail ddatblygiad yn hysbys.

  • Mae angen rhoddi chwe wythnos o rybudd i’r Cyngor cyn unrhyw waith trin coed.

Mae angen mwy o ofal gyda holl gynigion datblygu ac arddangos hysbysebion mewn Ardaloedd Cadwraeth, i sicrhau bod cynlluniau yn gwella ac nid yn andwyo cymeriad arbennig yr ardal. Yn hyn o beth mae dyluniad a dewis deunydd yn arbennig o bwysig fel rheol.

Cyfarwyddyd Erthygl 4(2)

Mewn rhai Ardaloedd Cadwraeth, mae Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) wedi ei gyflwyno. Mae hwn yn sirchau y cyflawnir addasiadau i flaenau anheddau i i gydweddu cymeriad arbennig ardal.

Lle mae Cyfarwyddyd yn weithredol, mae angen caniatâd cynllunio fel arfer ar gyfer newid ffenestri, drysau, cynteddau, simneiau, toeau, waliau ffin, estyn ty, peintio, defnyddiau a lloriau caled lle effeithir tu blaen yr eiddo.

Gorchmynion Cadw Coed (GCC)

Yn aml mae coed yn gwneud cyfraniad sylweddol i amgylchedd Ardal Gadwraeth a gosodiad ei hadeiladau. Yn arbennig gellir diogelu coed sylweddol sydd â gwerth amwynderol gyda GCC. Rhaid i chi gael caniatâd y Cyngor cyn gwneud unrhyw waith.

Adeiladau Rhestredig

Oherwydd eu natur mae Ardaloedd Cadwraeth yn aml yn cynnwys crynhoad o adeiladau wedi eu ‘rhestru’ o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig cyn gwneud gwaith fydd yn effeithio ar gymeriad adeilad, neu’n golygu dymchwel yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

Nid oes tâl ymgeisio am Ganiatâd Ardal Gadwraeth, Caniatâd Adeilad Rhestredig na Chaniatâd am waith ar goed.

Gwella

Mae’r Cyngor wedi ymroddi i gadw a gwella Ardaloedd Cadwraeth drwy’r dulliau canlynol:-

  • gwelliannau drwy ei raglen gyfalaf ei hun,

  • gweithio mewn partneriaeth â chyrff ac asiantaethau eraill,

  • Polisiau Cynllun Datblygu cryf, Asesiadau Ardaloedd Cadwraeth a Chynlluniau Gwella,

  • sicrhau gwelliannau drwy ganiatâd cynllunio,

  • rhoddi cyngor a gwybodaeth,

  • grantiau cadwraeth.

Mae golwg allanol holl anheddau mewn ardal gadwraeth yn hanfodol bwysig. Dylai perchnogion gofio y gall addasiadau amhridol a symud manylion gwreiddiol amharu ar yr adeilad a’r ardal gadwraeth. Nid yw addasiadau fel hyn yn cynyddu gwerth yr eiddo fel arfer a gall wneud yr eiddo yn anoddach i’w werthu.

Grantiau

Mae nifer o ffynonellau grant ar gael a all eich helpu i wella Ardaloedd Cadwraeth.

CADW
Mae CADW yn asiantaeth weithredol y Swyddfa Gymreig a gall wneud grantiau a benthyciadau i gynorthwyo â chost gwaith atfyweirio ac adnewyddu a adeiladau allweddol mewn Ardaloedd Cadwraeth.

Bwrdd Croeso Cymru (BCC)
Mae'n bosibl y gall BCC ddarparu cymorth ariannol os gellir dangos y bydd ardaloedd sydd o ddiddordeb arbennig i ymwelwyr yn cael eu gwella. Mewn ardaloedd masnachol, fel canol y dref, gall cynllun arwyddion hysbysebu wneud cyfraniad gwerthfawr i gymeriad yr ardal. Mae BCC wedi cyflwyno cynllun grantiau i annog arwyddion dwyieithog ar gyfer busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth.

Cynlluniau Tref
Mae dau Gynllun Tref yn gweithredu o fewn y Fwrdeistref, yng nghanol Tref Wrecsam a Stryd y Parc, Rhiwabon. Maent yn ardaloedd sensitif sydd â threflun ardderchog. O fewn yr ardaloedd hyn, mae lefel uwch o grant (50% o'r costau cymwys fel arfer) ar gael ar gyfer prosiectau dethol o atgyweiriadau ac adnewyddu. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â CADW i gyrraedd y lefelau cymorth hyn.

HARPS
Mae’n bosible bod grantiau ar gyfer trosi fflatiau ar gael yng nghanol y dref. Gall atgyweiriadau i adeiladwaith adeilad fod yn waith cymwys.

Dynlunio a Deunyddiau

Dylid dylunio cynigion datblygu o fewn fframwaith cymeriad yr Ardal Gadwraeth drwyddi draw neu gymeriad arbennig y rhan o’r ardal lle saif y safle:-

  • Dylai adeiladau newydd fod o safon uchel o ddylunio ac yn cydymdeimlo â graddfa, deunyddiau, talyrnau a chymeriad yr ardal yn gyffredinol.

  • Dylai estyniadau neu addasiadau barchu graddfa, maint a deunyddiau yr adeilad presennol.

Drwy ddefnyddio pensaer pan yn ystyried unrhyw waith adeiladu neu addasu newydd dylid cael safon uchel o ddylunio a chynllun yn barod i roddi cyngor arbenigol ar atebion addas a derbyniol cyn i waith dylunio manwl ddechrau.

Dylai defnyddio pensaer wrth ystyried unrhyw adeilad newydd neu waith addasu arwain at safon uchel o ddylunio a chynllunio sy’n cadw a gwella cymeriad arbennig yr ardal. Mae swyddogion cynllunio yn croesawu’r cyfle i roi cyngor arbenigol ar atebion priodol a derbyniol gydag ymgeiswyr cyn y cyflwynir unrhyw gais manwl.

Mae’r canlynol yn rhestr wirio o ddeunuddiau a chydrannau manwl sy’n gofyn am ystyriaeth ofalus oherwydd eu heffaith debygol. Gall addasiadau
digydymdeimlad fod ag effaith andwyol anghyfartal:-

Safle

Lleoliad yr adeilad ar y safle, gosodiad a dyluniad adeiladau atodol(fel modurdai), triniaeth o’r terfynau, tirlunio (caled a meddal).

Waliau

Y math o frics / deunydd wynebu (garwedd a lliw), manylion gwaith brics.

To

Ffurf y to a’i orchudd (llechi, teils, gwellt), simneiau, manylion y bondo a’r grib, gwaith glaw (haearn bwrw yn well fel rheol), manylion yr ymylon.

Ffenestri

Ffenestriad (trefn y ffenestri), ffurf y ffenestri (gan gynnwys manylion y capan a’r sil).

Nodweddion eraill

Manylion y cyntedd, dyluniad a manylion wyneb y siop, arwyddion hysbysebu.

Am wybodaeth neu gyngor pellach, cysylltwch â’r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11 1WL

E-bost: Planning@wrexham.gov.uk

Ffôn: 01978 292019
Ffacs: 01978 292502

CADW: Henebion Cymru
Henebion Cymru Adeiladau’r Goron Parc Cathays Caerdydd CF1 3NQ
Ffôn: 02920 500200

Bwrdd Croeso Cymru
North Wales Regional Office, 77 Ffordd Conway, Bae Colwyn
Ffôn: 01492 531731

The Victorian Society
1 Priory Gardens, Parc Bedford, Llundain W4 1TT
Ffôn: 020 8994 1019

Grwp Georgian
6 Fitzroy Square, Llundain W1T 5DX
Ffôn: 020 7387 1720

Groundwork Wrecsam
Ffordd Parc Borras, Wrecsam LL13 9TR
Ffôn: 01978 757524

Cymdeithas Ddinesig Cylch Wrecsam
Ysgrifennydd
Ffôn: 01978 291161

Gweler hefyd Canllaw Rhif 11: Tai Teras yn Wrecsam.

Mabwysiadwyd Medi 1993; diweddarwyd Gorffennaf 1998

Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 4 - Ardaloedd Cadwraeth

Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.

Canllaw Rhif 4 - Ardaloedd Cadwraeth - fformat PDF 202kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Ardaloedd Cadwraeth

11 - Tai Teras yn Wrecsam

Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint