|
Un
o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol yw hwn yn ymhelaethu ar gynigion
y cynllun lleol ar ffurf eglur a chryno.
Maen rhoddi canllaw i wybodaeth atodol sydd ei angen gyda cheisiadau
am dai gweithwyr amaeth a choedwigaeth. Nid oes gobaith ir canllawiau
hyn ymdrin â phob agwedd a chynghorir ymgeiswyr ac asiantau, pryd
bynnag y bydd yr amgylchiadaun anarferol, i drafod eu cynigion gyda
swyddog cynllunio cyn gwneud cais ffurfiol. Pan ofynnir ir Cyngor
benderfynu ar gais am dy i weithiwr amaeth neu goedwigaeth, bydd raid
dangos, ym mhob achos, bod y ty yn hanfodol i weithrediad cyflawn y fenter
dan sylw. Ir perwyl hwn gofynnir i bob ymgeisydd roddi gwerthusiad
o weithrediad y busnes a dylid cyflwyno hwn fel rhan or cais.
Rhaid cynnwys y wybodaeth y gofynnir amdani ar y daflen hon yn y gwerthusiad
er mwyn gallu rhoddi ystyriaeth briodol ir cais. Maen bwysig
ateb pob cwestiwn. Maer gair uned yn cyfeirio at fenter
amaeth neu goedwigaeth.
Y Busnes Presennol
-
Rhowch ddisgrifiad byr o waith yr uned, gan roddi manylion or
arwynebedd, maint y stoc / diadell, manylion rheolaeth a staffio.
-
Rhowch nifer a math o weithwyr e.e. llawn amser, rhan amser, achlysurol,
gan gynnwys teulu.
-
Beth yw gwaith pob aelod or staff?
-
Lle mae pob aelod or staff yn byw?
Cyfiawnhad
Newidiadau yn y Dyfodol
-
Ydych chin debygol o wneud newidiadau i weithrediad yr uned
yn y dyfodol agos? Dylech gynnwys manylion unrhyw gynlluniau amrywiaeth
ffermio.
-
Fyddair gofyn am dy newydd yn ddibynnol ar y newidiadau arfaethedig
hyn?
-
Rhowch yr amserlen a ragwelwch ar gyfer y newidiadau hyn.
Y Daliad Tir
-
Dangoswch ar gynllun i raddfa yr holl dir syn rhan or
uned. (Dylai tir sydd ym meddiant yr ymgeisydd a / neu dir sydd mewn
tenantiaeth amaethyddol dros dro gael ei ddangos wedi ei amlinellu
mewn glas. Dylai unrhyw dir arall o dan reolaeth yr ymgeisydd gael
ei amlinellu neu ei groes linellu mewn brown. Rhowch yr arwynebedd
mewn erwau / hectarau).
-
Eglurwch ar ba sail y delir tir ar rent. (Seilir asesiad y Cyngor
or cais yn unig ar y tir ym meddiant yr ymgeisydd neu a ddelir
ar denantiaeth barhaol).
Tai Presennol
-
Ydyr ymgeisydd yn berchennog tai presennol?
-
Os bydd modd, dangoswch hwy ar y cynllun i raddfa. Os na ellir, rhoddwch
gyfeiriadaur tai hynny.
-
Ydyr bobl syn byw yn y tai hyn yn gweithio yn yr uned
sydd dan sylw ar hyn o bryd?
-
A ganiatawyd ty eisoes ar gyfer gweithiwr hanfodol mewn perthynas
âr uned hon? Os felly, dangoswch ei leoliad ar y cynllun.
-
A werthwyd unrhyw dai yn ddiweddar?
Eiddo Lleol Arall
Y Ty Sydd ei Angen
Lleoliad
Manylion Ariannol
Fel rheol ni fydd galw am gyfrifon a / neu ragamcanion busnes i gefnogi
ceisiadau lle maer uned eisoes wedi ei sefydlu. Bydd y Prif Swyddog
Cynllunio yn gofyn am wybodaeth benodol, os a phryd y bydd ei hangen.
Mentrau Newydd
Mewn achosion lle bor uned a gynigir yn un newydd neu newydd ei
sefydlu, bydd gofyn ir ymgeisydd ddangos iddi gael ei seilio ar
sail ariannol ddiogel. O dan yr amgylchiadau hyn bydd yn angenrheidiol
dangos pa fuddsoddiad fydd ei angen i sefydlu neu gwblhaur uned.
Yn y fath achosion, lle bor Cyngor yn ansicr o hyfywdra hir dymor
yr uned, bydd yn ystyried y posibilrwydd o ddyfarnu caniatâd cynllunio
dros dro am garafán neu breswylfa dros dro arall er mwyn ir
busnes sefydlu ei hun.
Paratoir Gwerthusiad
Fech cynghorir bod modd cyflwynor wybodaeth hon ar ffurf
atebion ir cwestiynau uchod, neu drwy werthusiad wedi ei baratoi
gan ADAS ar ran Adran Amaeth y Swyddfa Gymreig neu gan ymgynghorydd amaethyddol
cymeradwy.
Dylai ymgynghorwyr fod yn aelodau o Gymdeithas Brydeinig yr Ymgynghorwyr
Amaethyddol neun aelod o adran briodol o Sefydliad Brenhinol yr
Arolygwyr Siartredig.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11
1WL.
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Chwefror 1993, diwygiwyd 2000.
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 2 - Gwerthuso Amaethyddol
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 2 - Gwerthuso Amaethyddol - fformat PDF 193kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Rheoli Cynllunio
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|