|
Un
o gyfres o ganllawiau cynllunio lleol yw hwn syn ymhelaethu ar gynigion
cynllunio lleol ar ffurf eglur a chryno gydar amcan o wella safonau
dylunio.
Croesawir dylunio da ymhobman ac maer egwyddorion
yn y canllaw hwn yn gymwys drwyr Fwrdeistref Sirol. Paratowyd a
mabwysiadwyd y canllawiau a ganlyn gan y Cyngor i feithrin safon well
o ddylunio. O nodi'r cyngor syml sydd yn y daflen hon y gobaith yw y bydd
datblygwyr a pherchenogion siopau yn sylweddoli bod angen cynlluniau i
drwsio a gwella wyneb siopau au hysbysebion perthynol, gan gynnwys
nodweddion angenrheidiol pan wneir ceisiadau cynllunio. Nid ywn
dileur angen am gyngor pensaerniol medrus.
Nid oes gobaith ir canllawiau hyn ymdrin â phob agwedd a
chynghorir ymgeiswyr ac asiantau, pryd bynnag y bydd yr amgylchiadaun
anarferol, i drafod eu cynigion gyda swyddog cynllunio cyn gwneud cais
ffurfiol. Ystyrir y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd gyda golwg ar y
cynigion canlynol.
Maer daflen hon yn amlinellur canllawiau polisi bras sydd
iw defnyddio gan y Cyngor wrth ystyried cynigion am arwyddion hysbysebu
drwyr Fwrdeistref Sirol. Tra bo deddfau rheoli hysbysebion yn mynnu
bod ceisiadau yn cael eu barnu o ran amwynder a diogelwch ar y ffyrdd
y nod yw hybu cynlluniau arwyddion dychmygus ond teimladwy fydd yn gwella
yr adeiladau a golwg y stryd ac yn amddiffyn amgylcheddau bregus, yn arbennig
mewn ardaloedd cadwraeth dynodedig lle mae effaith andwyol arwyddion amhriodol
yn perir niwed mwyaf i amwynder gweledol. Maer Cyngor yn cydnabod
y gall hysbysebion priodol ychwanegu lliw a diddordeb gan fywiogi amgylcheddau
salw.
Mathau o Hysbysebion
Arwyddion Ffasgia
Ar adeiladau masnachol y man mwyaf cyffredin i ddangos hysbysebion ywr
ffasgia. Ni ddylair fath arwyddion fod yn swmpus nac yn ddwfn a
dylent adlewyrchu rhaniadau rhwng siopau os cyfunir unedau. Ni ddylai
arwyddion ddileu unrhyw nodweddion pensaerniol fel cornisiau, pilastrau,
a siliau ffenestrir llawr cyntaf. Ffafrir ffasgiâu traddodiadol
wedi eu peintio â llaw ond gall deunyddiau eraill fel persbecs pül
neu alwminiwm wedi ei chwyth-baentio fod yn dderbyniol pan yn addas. Hybir
defnyddio llythrennau unigol, un ai wedi eu peintio neu wedi eu gosod,
ar gefndir y ffasgia neur talwyneb gyda maint a math y llythrennaun
adlewyrchu cymeriad yr adeilad ac yn gymesur â maint y ffasgia.
Bydd y Cyngor yn gwrthwynebu goleuo ffasgia cyfan yn hytrach na goleuo
oddi allan gyda golau stribed angerdd isel cuddiedig, goleuadau sbot,
neu lythrennau ar wahân wedi eu goleuon fewnol.
Arwyddion Bargod
Gwrthwynebir arwyddion blwch bargod wedi eu goleuo oddi mewn, un ai ar
lefel y ffasgia neu uwchlaw. Lle bydd arwyddion bargod yn ychwanegu at
ddiddordeb gweledol, dylent fod o ddeunydd addas, o safon uchel o ddylunio,
yn berthynol i faint a graddfa wyneb yr adeilad ac wedi eu gosod fel ag
i beidio cuddio nodweddion pensaerniol yr adeilad. Dylid eu lleoli, os
bydd modd, ar neu yn union uwchlaw, lefel y ffasgia a heb fod yn uwch
na siliau ffenestrir llawr cyntaf lle byddent yn rhy ymwthiol. Os
bydd goleuo yn hanfodol dylai gwneud hyn gyda golau stribed cuddiedig
neu oleuadau sbot.
Llythreniad ar Ffenestri
Ni fydd y Cyngor fel rheol yn caniatau arwyddion uwchlaw lefel y ffasgia.
Serch hynny, mae llythreniad traddodiadol ar wydr ffenestri yn arbennig
o addas ar gyfer adeiladau llawr cyntaf ac ail lawr yn ogystal â
rhoddi golwg unigryw i wynebau siopau ar y stryd.
Palisau
Mae lleoliad palisau hysbysebu mawrion ar fin y ffordd neu balisau ar
adeiladau yn effeithion fawr ar y gymdogaeth a gwrthwynebir y fath
gynigion mewn ardaloedd cadwraeth, yng nghefn gwlad ac mewn cylchoedd
preswyl.
Arwyddion Blaen
Gwrthwynebir arwyddion cyfeirio ger priffyrdd, syn peryglu traffig
ac yn andwyo amwynder gweledol yr ardal. Rhaid i ddatblygiadau mawr (stadau
diwydiannol neu ganolfannau ymwelwyr) gael eu dangos gydag arwyddion ffordd
priodol, lle gall y traffig mawr a gynhyrchir beri problemau diogelwch
ar y ffordd.
Cyfnewid Arwyddion
Wrth drin ceisiadau am arwyddion newydd bydd y Cyngor yn disgwyl i ymgeiswyr
gytuno i leihau neu resymoli arwyddion presennol i osgoi annibendod o
hysbysebion.
Arwyddion yng Nghefn Gwlad a Chylchoedd Preswyl
Maer Cyngor yn disgwyl i arwyddion ar adeiladau busnes ar wahân,
neu gyfres o unedau mewn ardal sydd yn breswyl gan mwyaf, neu yng nghefn
gwlad, ddod o fewn darpariaethau deddfau caniatâd tybiedig.
Mewn achosion eithriadol, lle bo angen ceisiadau, dylid rhoddi gofal arbennig
i ddiogelu amwynder preswyl ac, yn arbennig, dylid cadw unrhyw olau ir
lleiaf posibl.
Arwyddion mewn Ardaloedd Diwydiannol
Mewn ardaloedd syn ddiwydiannol gan mwyaf, maen debygol y
bydd mwy o ryddid parthed arddangos arwyddion, er y byddair Cyngor
yn parhau i ddisgwyl bod maint a lleoliad y darpar arwyddion yn berthynol
i faint, golwg a chymeriad yr adeilad / eiddo lle gosodir hwy. Gwrthwynebir
arwyddion uchel lle byddent iw gweld yn amlwg oddi allan ir
gymdogaeth leol. Fel rheol, caniateir hysbysebion baner, yn amodol ar
uchder a lleoliad boddhaol, i sicrhau na fydd unrhyw niwsans yn cael ei
achosi i ddeiliaid cyfagos.
Arwyddion Diateg
Gall modylau hysbysebion diateg mewn parthau cerddwyr fod yn addas drwy
iddynt ychwanegu diddordeb gweledol ir stryd.
Arwyddion Diateg Dros Dro
Mae arwyddion dros dro fel byrddau-A, wedi eu gosod ar y ffordd tu allan
i adeilad busnes yn ystod oriau agor, yn creu perygl ir anabl ac
yn aml yn creu annibendod gweledol ac feu gwrthwynebir or
herwydd.
Diweddglo
Maer canllawiau uchod yn esbonio polisir Cyngor tuag at hysbysebion
gan helpu darpar ymgeiswyr i baratoi ceisiadau. Os bydd unrhyw amheuaeth
a oes angen caniatâd hysbysebu, dylid gofyn am gyngor eto. Mae cyngor
ar gael hefyd yn llyfryn Adran yr Amgylchedd / Y Swyddfa Gymreig "Hysbysebion
ac Arwyddion Awyr Agored, Canllaw i Hysbysebwyr".
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch âr:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch Post 1290, Wrecsam LL11
1WL.
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292017
Ffacs: 01978 292502
Mabwysiadwyd Hydref 1993.
Canllaw Cynllunio Lleol Rhif 1 - Hysbysebion
Cliciwch ar y cyswllt isod i ddadlwytho copi or dogfen mewn fformat PDF.
Canllaw Rhif 1 - Hysbysebion - fformat PDF 126kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Ffurflen Cais am Ganiatad i Arddangos Hysbyseb
Rheoli Cynllunio
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
|