skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Cwynion yr Adran Gynllunio - Sut i gwyno

 

ILlun o swyddfa Stryt y LampintGweithdrefn Gwyno'r Adran Gynllunio

Mae'r weithdrefn gwyno yn ymdrin â chwynion a chanmoliaeth.

Canmoliaeth yw unrhyw glod neu foddhad a fynegir gan gwsmer am y gwasanaeth neu'r ffordd y cawsant eu trin gan aelod o staff, y mae'r cwsmer yn teimlo y dylid ei gofnodi. Fel rheol, bydd hyn yn cynnwys mwy na'r cwsmer yn cydnabod y gwasanaeth a dderbyniwyd trwy ddweud diolch yn unig.

Cwyn yw unrhyw fath o anfodlonrwydd a fynegir gan gwsmer, am y gwasanaeth neu'r ffordd y cawsant eu trin gan aelod o staff. Dylid cofnodi pob math o gwyn.

Nid oes rhaid derbyn canmoliaeth na chwyn yn ysgrifenedig i'w gofnodi.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i ofal cwsmeriaid. Fel rhan o'n hymdrechion i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol, mae angen i ni wybod os oes gennych broblem.

Hoffem glywed gennych hefyd:

  • os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella ein gwasanaethau
  • os ydych yn ei chael hi'n anodd defnyddio unrhyw rai o'n gwasanaethau
  • os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am sut y gallwn eich helpu.

Sut allaf gwyno i'r Adran Gynllunio?

Cam 1

Cysylltwch â'r staff sy'n gysylltiedig â'ch cwyn yn uniongyrchol. Gallai hyn fod yr unigolyn sydd wedi'i (h)enwi ar unrhyw ohebiaeth neu ei r(h)eolwr.

Bydd y rheolwr perthnasol yn cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Dylech dderbyn ymateb ysgrifenedig llawn i'ch cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl i'r Adran Gynllunio ei dderbyn. Os na ellir rhoi ymateb llawn, anfonir ymateb ysgrifenedig dros dro o fewn y terfyn amser, ac anfonir yr ymateb ysgrifenedig llawn ar ôl hynny.

IOs nad ydych yn fodlon â'r ymateb ysgrifenedig, neu os nad ydych yn derbyn ymateb ysgrifenedig, gellwch symud ymlaen i Gam 2 y weithdrefn gwyno

Cam 2

Cysylltwch â'r Prif Swyddog Cynllunio:

Prif Swyddog Cynllunio
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR

Ffôn: 01978 292500
Ffacs: 01978 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Cydnabyddir eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Dylech dderbyn ymateb ysgrifenedig llawn o fewn 20 diwrnod ar ôl i'r Adran dderbyn eich cwyn Cam 2.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon â'r ymateb ysgrifenedig, neu os nad ydych yn derbyn ymateb ysgrifenedig, gellwch symud ymlaen i Gam 3 o'r weithdrefn gwyno (gweler drosodd).

Cam 3

Cysylltwch â Rheolwyr Archwilio'r Cyngor:

Swyddog Cwynion Corfforedig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1WS

Ffôn: 01978 292201

Cydnabyddir eich cwyn ac fe'ch cynghorir y bydd Swyddog Cwynion Corfforedig Cyngor yn ymchwilio ymhellach i'r gwyn. Dylech dderbyn ymateb ysgrifenedig llawn gan y Swyddog Cwynion Corfforedig o fewn 10 diwrnod ar ôl iddo/iddi dderbyn eich cwyn.

Ymdrechwn i roi canlyniad boddhaol i'ch cwynion neu'ch sylwadau, fodd bynnag os byddwch yn parhau'n anfodlon ar ôl dilyn y weithdrefn gwyno, gellwch gwyno'n uniongyrchol i'r:

Ombwdsmon Llywodraeth Leol
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed CF35 5LJ

Ffôn: 01656 641150
Ffacs: 01656 641199

 Gweithdrefn Gwyno'r Adran Gynllunio

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Gweithdrefn Gwyno'r Adran Gynllunio - Fersiwn PDF 528Kb  

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint