|
Bwriad
y Siartr hon yw rhoi dealltwriaeth glir i chi o lefel y gwasanaeth
y gallwch ei ddisgwyl gan yr Is-Adran Polisi Cynllunio.
Cefndir
Gosodir allan polisïau a chynigion y Cyngor ar gyfer defnyddio
tir yn y Fwrdeistref Sirol yn y Cynllun Datblygu. Mae'r Cynllun
yn dyrannu tir ar gyfer datblygiadau newydd ac yn sefydlu fframwaith
polisi i benderfynu ceisiadau am ganiatâd cynllunio. Ar hyn
o bryd, mae'r Cynllun Datblygu'n cynnwys Cynlluniau Lleol Wrecsam
Maelor a Glyndwr, ynghyd â Diwygiad Cyntaf Cynllun Strwythur
Clwyd. Fodd bynnag, bydd y rhain yn cael eu hamnewid gan ddogfen
unigol newydd - Cynllun Datblygiad
Unedol Wrecsam - a fydd yn cwmpasu'r cyfnod hyd at 2011.
Mae'r Cyngor hefyd yn cyhoeddi Lleol
Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio anffurfiol sy'n esbonio sut bydd
y polisïau yn y Cynllun Datblygu'n cael eu gweithredu. Bwriad
y nodiadau hyn yw helpu darpar ddatblygwyr drwy esbonio'r ymagwedd
bydd y Cyngor yn ei chymryd tuag at ddelio â chynigion penodol.
Amcanion
Rydym yn anelu at sicrhau:-
-
Bod yna Gynllun Datblygu diweddaredig mewn grym ar gyfer holl
ardaloedd y Fwrdeistref Sirol.
-
Pryd bynnag yr arolygir y Cynllun, gall unigolion a sefydliadau
sydd â diddordeb mewn datblygu tir gyfrannu'n effeithiol
at y broses baratoi.
-
Cynhyrchir y Cynllun Datblygu, Lleol Nodiadau Cyfarwyddyd
a dogfennau cysylltiedig eraill mewn ffordd glir, cyson a hawdd
eu defnyddio ac maent yn cael eu diweddaru'n rheolaidd.
-
Mae copïau cyfeiriol o'r Cynllun Datblygu a dogfennau
cysylltiedig ar gael i'w harchwilio mewn lleoliadau cyfleus
ledled y Fwrdeistref Sirol.
- Gellir cael gwybodaeth ynghylch y Cynllun Datblygu'n hawdd
ac ymdrinnir ag ymholiadau'n gyflym ac effeithiol.
Cynnwys Chi wrth Baratoi'r Cynllun Datblygu
Mae gweithdrefnau statudol penodol y mae'n rhaid i'r Cyngor eu
dilyn wrth baratoi neu arolygu'r Cynllun Datblygu. Mae'r rhain yn
cynnwys hysbysebu prif gyfnodau'r broses yn y papurau newydd lleol
a sicrhau lleiafswm cyfnod o chwech wythnos ar gyfer cyflwyno sylwadau
a gwrthwynebiadau.
Fodd bynnag, er mwyn cynnwys cymaint o bobl a sefydliadau â
phosibl a sicrhau eu bod yn cyfrannu'n effeithiol at baratoi'r Cynllun,
byddwn yn:-
-
Cadw rhestr bostio er mwyn hysbysu pawb sy'n mynegi diddordeb
yn y broses o baratoi'r Cynllun o gynnydd.
-
Cyhoeddi a dosbarthu gwybodaeth os yw unrhyw gyfnodau rhwng
paratoi'r Cynllun yn fwy na chwe mis.
-
Cydnabod llythyrau o fewn 10 diwrnod gwaith a dilyn i fyny
unrhyw bwyntiau sydd angen esboniad cyn gwneud unrhyw argymhellion.
-
Sicrhau bod pob drafft o'r Cynllun ac unrhyw ddogfennau ar
gael i'w harchwilio mewn ystod o leoliadau.
-
Cyhoeddi adroddiadau ym mhob cyfnod o'r broses baratoi gan
grynhoi'r holl farnau a dderbynnir a gosod allan ymateb y Cyngor.
-
Cynnwys gwybodaeth am y broses baratoi ar wefan y Cyngor -
gweler Dogfen a Chynllunio Cynllun Datblygiad
Unedol Wrecsam.
Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol
-
Byddwn yn cyhoeddi fersiynau drafft o unrhyw Lleol Nodiadau
Cyfarwyddyd newydd neu ddiwygiedig a rhoi chwech wythnos ar
gyfer sylwadau.
-
Bydd yr holl sylwadau a dderbyniwn yn cael eu hystyried yn
ofalus a, lle'n briodol, bydd y Nodiadau'n cael eu diwygio cyn
cyhoeddi'r fersiynau terfynol.
Cymorth a Chyngor
-
Gwnawn ein gorau i roi'r wybodaeth rydych ei hangen mewn ymateb
i'ch ymholiad ffôn. Fodd bynnag, bydd angen i ni ymchwilio
ymhellach ar adegau cyn rhoi ateb cyflawn. Ar yr adegau hyn,
byddwn yn dychwelyd eich galwad o fewn 1 diwrnod gwaith neu,
os bydd angen ymateb ysgrifenedig, byddwn yn anfon llythyr atoch
o fewn 10 diwrnod gwaith.
-
Mae'r staff ar ddyletswydd yn Nerbynfa'r Adran Gynllunio yn
gallu delio â mwyafrif yr ymholiadau cyffredinol ynghylch
y Cynllun Datblygu a materion cysylltiedig eraill. Fodd bynnag,
os bydd angen trafod rhywbeth yn fwy manwl, mae'n well gwneud
apwyntiad. Byddwn yn ceisio diwallu unrhyw geisiadau am
gyfarfod o fewn wythnos.

Cwynion
Os ydych yn anfodlon â'n gwasanaeth, mae gennym weithdrefn
tri cham y gallwch ei defnyddio i wneud cwyn.
Cam 1
Cysylltwch â'n staff yn uniongyrchol i weld a allant ddatrys
eich pryderon.
Cam 2
Cysylltwch â Wendy Drendel - y Swyddog Cyswllt Cwsmer
ar gyfer Cynllunio 01978 292415
Cam 3
Cysylltwch â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforedig y Cyngor
01978 292201

Sut i Gysylltu â Ni
Ffôn: 01978 292013 (llinell uniongyrchol i'r Gwasanaeth
Cynllun Datblygu)
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Llythyr: Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch
SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL
Ffacs: 01978 292502
Yn bersonol: Mae'r Adran Gynllunio ar ail lawr swyddfeydd
y Cyngor ar Stryt y Lampint. Mae ramp/lifft ar gael. Mae system
cyswllt clyw ar gael.
Ein horiau agor yw:
Dydd Llun i ddydd Iau: 8.45 am i 5.15 pm
Dydd Gwener: 8.45 am i 4.45 pm
Dydd Sadwrn a ddydd Sul: AR GAU
Gellir gwneud trefniadau arbennig i gyfarfod â swyddogion
unigol tu allan i'r oriau hyn.
Adran Cynllunio, Ebrill 2002
Polisi Cynllunio
Mynegai Siartri Cwsmeriaid
Dogfennau Cynllunio Allweddol
|