skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Siarteri Cwsmeriaid ar gyfer y Gwasanaethau Rheoli Cynllunio a Gorfodaeth

 

Bwriad y Siarteri hon yw rhoi dealltwriaeth glir i chi o lefel y gwasanaeth y dylech ei ddisgwyl gan yr Is-Adran Rheoli Cynllunio a Gorfodaeth.

Siartr Cwsmeriaid ar gyfer y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio

Siartr Cwsmeriaid ar gyfer y Gwasanaeth Gorfodaeth


Siartr Cwsmeriaid ar gyfer y Gwasanaeth Rheoli Cynllunio

Bwriad y Siartr hon yw rhoi dealltwriaeth glir i chi o lefel y gwasanaeth y dylech ei ddisgwyl gan yr Is-Adran Rheoli Cynllunio.

Mae'r Cyngor yn delio â chynigion cynllunio ar gyfer pob datblygiad yn ardal y Fwrdeistref Sirol. Mae'n ceisio cael y cydbwysedd cywir rhwng annog datblygiadau sy'n darparu cartrefi, swyddi a gwasanaethau i'r gymuned a diogelu nodweddion arbennig trefi, pentrefi a chefn gwlad.

Fel Adran Cynllunio, ceisiwn annog datblygiad sy'n unol â pholisïau'r Cyngor sydd yn ei Gynllun Datblygu. Cymeradwyir mwyafrif y ceisiadau.

Cyngor Anffurfiol

Gan y dymunwn i gymaint o geisiadau â phosibl lwyddo, rydym yn cynnig gwasanaeth cyngor anffurfiol cyn i chi gyflwyno eich cais. Anelwn at ateb o fewn 15 diwrnod gwaith.

Ymgymerwn y bydd unrhyw gyngor a roddir i chi yn cael ei ystyried yn ystod y cais ffurfiol.

Ceisiadau Cynllunio

Byddwn yn cofrestru a chydnabod holl geisiadau cynllunio dilys o fewn 3 diwrnod gwaith o'u derbyn. Os yw eich cais yn annilys neu'n anghyflawn, byddwn yn dweud wrthych o fewn 2 ddiwrnod gwaith ac yn rhoi cyfarwyddyd clir i chi ar y newidiadau sydd eu hangen.

Byddwn yn cyhoeddi'r holl geisiadau cynllunio drwy hysbysiad (lliw pinc) wedi ei bostio ger y safle a byddwn yn ysgrifennu at unrhyw eiddo cyfagos a allent gael eu heffeithio'n uniongyrchol. Bydd yr hysbysiad safle a'r llythyr yn rhoi enw a rhif ffôn y swyddog achos a dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau (21 diwrnod fel arfer). Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i'r Cynghorydd lleol ac yn anfon copi o'r cais i'r Cyngor Cymunedol.

Mae'r holl geisiadau cynllunio a chynlluniau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn y Swyddfa Gynllunio. Rydym yn gwarantu y bydd Swyddog Dyletswydd ar gael yn ystod ein horiau swyddfa i gynghori cwsmeriaid. Os na fydd y swyddog achos ar gael, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu.

Ymgymerwn i ddelio â cheisiadau cyn gynted ag y gallwn ac rydym wedi gosod targedau ar gyfer delio â 95% o geisiadau cartref a 70% o geisiadau'n gyffredinol o fewn 8 wythnos.

Bydd unrhyw lythyrau o wrthwynebiad neu gefnogaeth yn cael eu cydnabod a'u hystyried yn ofalus cyn gwneud penderfyniad ar gais. Byddwn yn derbyn sylwadau drwy e-bost hefyd. Os nad ydym yn cytuno â'r pwyntiau a godir ac na allwn ddod i gytundeb, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor am benderfyniad.

Bydd Hysbysiadau Penderfyniad yn cael eu cyhoeddi o fewn 2 ddiwrnod gwaith o'r penderfyniad a byddant yn datgan unrhyw amodau (a rhesymau) neu byddant yn rhoi rhesymau clir dros wrthod y cais. Mae manylion o unrhyw hawl apelio'n cael eu cynnwys hefyd.

Rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth cyfeillgar ac agored a gwnawn ein gorau i ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallwn.

Cwynion:-

Os ydych yn anfodlon â'n gwasanaeth, mae gennym weithdrefn tri cham y gallwch ei defnyddio i wneud cwyn.

Cam 1
Cysylltwch â'n staff yn uniongyrchol i weld a allant ddatrys eich pryderon.

Cam 2
Cysylltwch â Wendy Drendel - y Swyddog Cyswllt Cwsmer ar gyfer Cynllunio 01978 292415

Cam 3
Cysylltwch â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforedig y Cyngor 01978 292201

yn ôl i'r brig

Sut i Gysylltu â Ni

Ffôn: 01978 292017 (llinell uniongyrchol i'r Gwasanaeth Rheoli Cynllunio)

E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Llythyr: Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL

Ffacs: 01978 292502

Yn bersonol: Mae'r Adran Gynllunio ar ail lawr swyddfeydd y Cyngor ar Stryt y Lampint. Mae ramp/lifft ar gael. Mae system cyswllt clyw ar gael.

Ein horiau agor yw:

Mae ein swyddfeydd ar agor i ymwelwyr rhwng 8.45 a 5.15 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.45 i 4.45 ar ddydd Gwener.  Neu gallwch ein ffonio rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gellir gwneud trefniadau arbennig i gyfarfod â swyddogion unigol tu allan i'r oriau hyn.

Adran Cynllunio, Ebrill 2002


Rheoli Cynllunio

Mynegai Siartri Cwsmeriaid

yn ôl i'r brig


Siartr Cwsmeriaid ar gyfer y Gwasanaeth Gorfodaeth

Bwriad y Siartr hon yw rhoi dealltwriaeth glir i chi o lefel y gwasanaeth y dylech ei ddisgwyl gan yr Is-Adran Gorfodaeth.

Mae'r Adran Gynllunio'n cynnal 500 ymchwiliad y flwyddyn ac, ym mhob achos, rydym yn anelu at gael y cydbwysedd iawn rhwng hawliau pobl i fwynhau eu heiddo gyda hawliau eu cymdogion a'r gymuned er mwyn iddynt gael lle gweddus i fyw ynddo.

Mae oddeutu 68% o achosion angen ymweliad safle; ein targed yw ymweld ag 80% o'r rhain o fewn 5 diwrnod gwaith. Mewn bron i hanner yr achosion, gwelwn nad oes unrhyw dor-reolaeth cynllunio ac, yn y dyfodol, dymunwn roi mwy o wybodaeth i bobl ynghylch yr hyn gall y gwasanaeth ddelio ag ef a'r hyn na all ddelio ag ef. Dymunwn ddweud wrth bobl am y lefel o wasanaeth ddylent ei ddisgwyl a'r hawliau sydd ganddynt hwy ac eraill i fwynhau eu tir heb angen caniatâd cynllunio.

Anelwn at weithredu er budd y cyhoedd ac ni allwn ymyrryd mewn dadleuon preifat rhwng unigolion. Ceisiwn gael ateb i weithgareddau a datblygiadau anawdurdodedig yn hytrach na gorfodi Hysbysiadau Cyfreithiol. Dymunwn sicrhau bod y datblygiad neu'r defnydd yn cydymffurfio â pholisïau'r Cyngor.

Gorfodi Rheolaeth Gynllunio

Rheolir y system gorfodaeth gan fframwaith cyfreithiol cymhleth. Yn aml iawn, ni allwn reoli'r amser mae'n cymryd i ddatrys achosion. Lle mae terfynau amser o fewn ein rheolaeth, rydym yn ymroddedig i gwrdd â hwy'n effeithiol.

Bydd pob cwyn yn cael ei chofrestru a bydd y wybodaeth yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac ni fydd y cyhoedd yn cael ei gweld. Ni fydd hunaniaeth yr achwynydd yn cael ei datgelu. Os derbynnir cwyn ddienw, bydd ein hymchwiliadau'n cael eu cyfyngu. Oni bai bod ymweliad yn datgelu tystiolaeth amlwg o dorri rheolaeth gynllunio, bydd yr ymchwiliad yn dod i ben bryd hynny.

Os bydd ein hymchwiliadau'n awgrymu tor-reolaeth, byddwn yn ysgrifennu at berchennog/ breswylydd y tir o fewn 10 diwrnod gwaith. Bydd y llythyr yn esbonio'r hyn sydd i weld o'i le a'r camau gweithredu y bwriadwn eu cymryd. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch ffeithiau'r achos, gallwn anfon hysbysiad sy'n gofyn am wybodaeth bellach. Bydd yn nodi'r wybodaeth sydd ei hangen a'r amser ar gyfer ymateb. Heblaw am achos o bryder o'r pwys mwyaf, bydd y perchennog/ preswylydd yn cael 28 diwrnod i ymateb. Gallai hyn olygu cywiro'r hyn sydd o'i le neu ymgeisio am ganiatâd cynllunio. Byddwn yn anfon un nodyn atgoffa yn caniatáu 7 diwrnod pellach i ymateb a byddwn yn gweithredu mewn ffordd sy'n gymesur â'r gweithgaredd neu'r datblygiad anawdurdodedig.

Rydym yn anelu at ddatrys 75% o ymchwiliadau o fewn 12 wythnos. Bydd hyn yn caniatáu trafodaethau manwl, sy'n ofynnol dan y cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn materion syml, rydym yn anelu at ddatrys 40% o fewn pythefnos o'r honiadau. Rydym yn anelu at ddiweddaru achwynwyr o'n hymchwiliadau.

Ein prif amcan yn cywiro materion. Ceir achos cyfreithiol dim ond os daw hi i'r pen. Fodd bynnag, os yw tor-reolaeth yn achosi pryder ac nad oes tystiolaeth bod materion yn cael eu datrys drwy drafodaeth, ni fyddwn yn oedi cyn cyhoeddi hysbysiad neu, mewn achosion difrifol, cael gorchymyn llys. Tra bod gwasanaeth effeithiol yn bwysig, mae'n rhaid i ni wybod a ydym yn gwneud y penderfyniad cywir. Felly, rydym yn chwilio am ffyrdd o fesur ansawdd ein penderfyniadau. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i wella ein gwasanaeth ymhellach.

Cwynion:-

Os ydych yn anfodlon â'n gwasanaeth, mae gennym weithdrefn tri cham y gallwch ei defnyddio i wneud cwyn.

Cam 1
Cysylltwch â'n staff yn uniongyrchol i weld a allant ddatrys eich pryderon.

Cam 2
Cysylltwch â Wendy Drendel - y Swyddog Cyswllt Cwsmer ar gyfer Cynllunio 01978 292415

Cam 3
Cysylltwch â Chyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforedig y Cyngor 01978 292201

yn ôl i'r brig

Sut i Gysylltu â Ni

Ffôn: 01978 292017 (llinell uniongyrchol i'r Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio)

E-bost: planning@wrexham.gov.uk

Llythyr: Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL

Ffacs: 01978 292502

Yn bersonol: Mae'r Adran Gynllunio ar ail lawr swyddfeydd y Cyngor ar Stryt y Lampint. Mae ramp/lifft ar gael. Mae system cyswllt clyw ar gael.

Ein horiau agor yw:
Dydd Llun i ddydd Iau: 8.45 am i 5.15 pm
Dydd Gwener: 8.45 am i 4.45 pm
Dydd Sadwrn a ddydd Sul: AR GAU

Gellir gwneud trefniadau arbennig i gyfarfod â swyddogion unigol tu allan i'r oriau hyn.

Adran Cynllunio, Ebrill 2002


Rheoli Cynllunio

Mynegai Siartri Cwsmeriaid

Dogfennau Cynllunio Allweddol

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint