|
Dyma
un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio
gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.
Canllaw i Drosi Llofftydd
Ydych chi'n ystyried trosi'r lle hwnnw nad ydych yn ei ddefnyddio
yn y llofft i estyn eich cartref?
Os ydych, gallai'r nodyn hwn helpu i ateb rhai o'ch cwestiynau.
- Ar gyfer beth fydd yr ystafell yn cael ei defnyddio?
- A fydd angen llawr newydd arnaf?
- Sut byddaf yn cyrraedd yr ystafell newydd?
- A wyf am gael goleuadau a ffenestri yn y to ?
Mae pobl yn trosi llofftydd fel arfer er mwyn cael:-
- ystafell wely ychwanegol (ac ystafell ymolchi ynghlwm efallai)
- ystafell chwarae
- ystafell waith/swyddfa
Os bwriadwch ddefnyddio'r lle i gadw eitemau ysgafn fel cesys dillad
ac addurniadau Nadolig, bydd byrddau rhydd yn bodloni fel arfer. Rhaid
i chi gofio mai bwriad y distiau nenfwd yw dal y nenfwd islaw ac na'u
cynlluniwyd ar gyfer llwythi trwm. I atal unrhyw gor-lwytho'r distiau,
argymhellir nad yw'r byrddau rhydd yn gorchuddio mwy na 50% o'r lle y
gellir ei ddefnyddio.
Y lle y gellir ei ddefnyddio yw'r rhan hwnnw o'r to â lle uwch
ben sy'n fwy na 1.5m (oddeutu 4'6"). Byddech yn cyrraedd y man storio
hwn drwy ddefnyddio ysgol godadwy fel arfer.
Ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, bydd raid i chi ddweud wrth Is-Adran
Rheoli Adeiladu eich Awdurdod Lleol a fydd yn eich cynghori ynghylch gweithdrefnau.
Pam fydd raid i mi ddweud wrth yr Awdurdod Lleol?
- Maent yn gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau Adeiladu, a wnaed i sicrhau
bod adeiladau'n cael eu hadeiladu neu eu newid yn ôl safonau rhesymol.
Yn achos trosi llofftydd, mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r materion
hynny y dylech chi a/neu eich adeiladwr eu hystyried.
- Os yw'r lle ar gyfer defnydd heblaw am storio eitemau ysgafn, bydd raid gosod llawr newydd. Bydd angen gosod distiau newydd a dylai'r rhain gael eu cynnal a bod yn glir o'r nenfwd presennol; ni chaniateir iddynt orffwys ar y distiau nenfwd presennol.
- Mae'n bosibl y bydd angen edrych ar y sylfeini a'r capanau drysau presennol i sicrhau y gallant gario llwyth ychwanegol. Gallai fod angen gosod trawstiau a gwaith dur yn y llawr a'r strwythur cynhaliol er mwyn cynnal y trosiad. Gallai fod angen cyfrifiadau strwythurol i gyfiawnhau bod yr elfennau hyn yn ddigonol.
- Os oes llawr newydd yn cael ei ychwanegu trwy drosi croglofft bresennol, yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu mae angen ystyried darparu allanfa trwy raddau llawn llwybr yr allanfa. Er enghraifft, bydd trosi croglofft mewn t~ deulawr yn golygu bod angen amddiffyn cyfres o risiau trwy ddarparu drysau, rhaniadau a lloriau sy'n gwrthsefyll tân lle nad oedd unrhyw amddiffyniad yn bodoli’n flaenorol. Gwaith 30 munud yw hwn fel arfer a bydd adeiladwaith cywir yn eich amddiffyn chi a'ch teulu.
- Er mwyn atal amodau byw annymunol, rhaid awyru ystafelloedd y gellir
byw ynddynt, ystafelloedd ymolchi a cheginau. Mae'r rheoliadau'n gofyn
am awyru cefndir neu gyflym neu'r ddau, mewn rhai amgylchiadau.
- Gall anwedd effeithio ar fannau na ellir eu gweld, megis toeau. Os
yw'n ormodol ac os nad yw'n cael ei ddatgelu, gall achosi problemau.
Mae'n rhaid darparu awyru felly i leoedd yn y to ac yn achos trosiadau
llofft, mae hyn yn arbennig o bwysig.
- Er mwyn cyrraedd eich ystafell newydd, bydd raid i chi ystyried y
math o risiau y byddech yn eu dymuno. Yn ddelfrydol, dylech gael math
traddodiadol a fydd yn rhoi mynediad diogel a hawdd. Yn achos tân,
mae'n bwysig eich bod yn gallu dianc yn gyflym.
- Bydd raid i waliau a tho'r trosiad gadw'r tywydd allan a'r gwres i
mewn. Bydd raid eu hadeiladu o ddefnyddiau sy'n helpu i leihau colled
gwres a all helpu i gadw costau gwresogi i lawr. Gallai fod angen caniatâd
cynllunio arnoch, felly cysylltwch â'r Is-Adran Rheoli Cynllunio,
rhif ffôn (01978) 292050.
Gwybodaeth Gyffredinol
Mae Deddf Mur Cyd 1996 yn gymwys hefyd os bwriadwch gyflawni gwaith sy'n
cynnwys:-
- gwaith ar wal bresennol a rennir gydag eiddo arall.
- adeiladu ar ffin eiddo arall.
- cloddio'n agos i adeilad cyfagos.
Rhaid i chi benderfynu a yw'r gwaith yn dod dan rychwant y Ddeddf a,
lle mae hyn yn wir, rhaid i chi drefnu i hysbysu pawb a ddiffiniwyd gan
y Ddeddf fel perchnogion cyfagos. Mae'n bosibl y dymunwch gael esboniad
pellach ar hyn a chael cyngor proffesiynol.
Gweler hefyd Nodyn Cyfawyddyd Rheoli Adeiladu
Rhif 9 - Eich Prosiect Adeiladu a Deddf Mur Cyd 1996.
- Gwnewch gynllun o'r hyn a ddymunwch. Peidiwch â chael eich perswadio
i wneud gwaith diangen neu na allwch ei fforddio. Ar gyfer gwaith mawr
neu gymhleth, mae'n bosibl y bydd angen cyngor proffesiynol arnoch.
Gofynnwch am y caniatâd neu gytundebau perthnasol gan eich awdurdod
lleol a chwmni yswiriant. Trafodwch eich cynlluniau gyda'r cymdogion,
yn enwedig os oes muriau cyd.
- Lluniwch restr fer o gwmnïau sydd i weld yn ddibynadwy, gwiriwch
brofiadau cyn gleientiaid a gofynnwch am eirda gan fanciau, os yn briodol.
- Gofynnwch a oes gwarant ar gael sy'n yswirio yn erbyn contractwr
yn darfod gweithio. Gallai cynlluniau a gefnogir gan yswiriant fod yn
arbennig o briodol.
- Mae gwarantau ar gael mewn partneriaeth ag Adran Rheoli Adeiladu'r
Awdurdod Lleol.
- Byddwch cyn gliried â phosibl am y ffordd byddwch yn delio
ag unrhyw anghytundebau.
Mae'r Building Employees Confederation (BEC) yn cynnig cyngor i'ch helpu
chi yn 'Get the best from your builder'. Darllenwch hefyd ein Nodyn
Cyfawyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 2 - Dewis Eich Adeiladwr.
Diogelwch trydanol mewn aneddiadau
O 1 Ionawr 2005, mae Diogelwch Trydanol yn dod dan reolaeth Rheoliadau Adeiladu. Fe'ch cynghorir i sicrhau bod yr holl offer yn cael eu gosod gan drydanwr cymwys sydd wedi asesu yn unol â 'Rhan P' gan gorff cymeradwy. Bydd angen rhoi Tystysgrif Cydymffurfiad u i'r Awdurdod sy'n rhoi eu Tystysgrif Cwblhau. Fel arall, yr Is-adran Rheoli Adeiladau'r Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith gosod yn cydymffurfio â'r gofynion. Caiff cost ychwanegol o £150.00+ TAW ei godi ar ben costau arferol y prosiect.
Sut a phryd wyf yn dweud wrth yr Awdurdod Lleol?
Cofiwch fod yr Awdurdod Lleol yno i roi cyngor. Bydd y Syrfëwr Rheoli Adeiladu sy'n gyfrifol am eich ardal yn falch o'ch cynghori ar y gweithdrefnau i'w dilyn:-
- Os penderfynwch drosi croglofft (neu unrhyw fath arall o waith adeiladu), rhaid i chi ddweud wrth yr Awdurdod Lleol trwy roi a) cais cynlluniau llawn neu b) hysbysiad adeiladu iddynt. Os dewiswch i ddarparu Hysbysiad Adeiladu, mae'n bosibl y gofynnir i chi roi gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag elfennau penodol o'r gwaith, lle mae natur y gwaith yn gymhleth neu'n anarferol (e.e. yn achos trosi croglofft, mae gofyn am gyfrifiadau peirianwyr strwythurol yn aml ar gyfer y to dormer a'r llawr).
Gall oedi mewn darparu'r wybodaeth gefnogol darfu ar gynnydd y gwaith. Argymhellwn eich bod yn cytuno ar atebion cynllunio cyn dechrau gwaith ar y safle.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:
Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint,Wrecsam, LL11
1AR.
Ebost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502
Diwygiwyd Mehefin 2007.
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:
Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 134Kb 
Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu
Mynegai Rheoli Adeiladu
|