skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
Adran Cynllunio

Nodyn Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu Rhif 2 - Dewis Eich Adeiladwr

 

Dyma un o gyfres o nodiadau cyfarwyddyd rheoli adeiladu sy'n anelu at esbonio gweithdrefnau'r rheoliadau adeiladu.

Dewis eich Adeiladwr

Os ydych chi'n ystyried unrhyw waith ar eich eiddo ac mae angen adeiladwr arnoch, dylech ystyried y dewis yma'n ofalus iawn. Am mai dyma un o'r buddsoddiadau mwyaf yr ydych yn debygol o'u gwneud, dylech wirio unrhyw adeiladwyr yn drwyadl cyn eu cyflogi nhw i wneud y gwaith.

Isod mae rhestr o rai o'r pethau y dylech ystyried eu gwneud:-

Ar gyfer projectau mawr, ystyriwch gyflogi rhywun proffesiynol i roi cyngor i chi

Mae cyfeiriadau a rhifau ffôn mudiadau proffesiynol yn isod.

Trafodwch eich trefniadau gyda'r unigolyn proffesiynol yma

  • Ydi'r trefniadau'n gofyn am baratoi cynlluniau yn unig neu ydynt yn cynnwys gwneud arolygiad o'r safle fel rhan o'r pecyn cyfan?
  • Os ydych chi'n teimlo bod y gwaith sydd gennych yn rhy fach ac nad oes angen cyngor proffesiynol arnoch, gofynnwch am gyngor gan rywun yn y diwydiant yr ydych yn eu hadnabod ac y gallwch ymddiried yn eu barn.
  • Gofynnwch am ddyfynbrisiau bob amser (tri o leiaf) a gwiriwch nhw.
  • Peidiwch â dewis y dyfynbris isaf yn syth.

Gofynnwch gwestiynau i'r adeiladwr

Dyma rai esiamplau:-

  • Ymhle maen nhw wedi gweithio o'r blaen?
  • Ydyn nhw'n hapus i chi weld rhywfaint o'u gwaith blaenorol?
  • Pa mor brofiadol ydyn nhw yn y math o broject rydych chi'n bwriadu ei wneud?
  • Sut fyddan nhw eisiau derbyn eu tâl, bob yn gam neu'r cyfan ar y diwedd?
  • Allan nhw roi tystlythyrau i chi gan gwsmeriaid bodlon?
  • Ydyn nhw'n hapus i dderbyn cymal cynhaliaeth?
  • Ydyn nhw'n barod i roi dyddiad cyflawni terfynol i chi?
  • Wnan nhw dderbyn cymal cosb os byddan nhw'n methu â gorffen y gwaith erbyn yr amser gofynnol?
  • Ydyn nhw'n barod i gytuno i gymodiad annibynnol os byddwch chi'n dadlau am rywbeth?

Yn olaf, byddwch yn teimlo'n well os edrychwch ar waith blaenorol yr adeiladwr, ei dystlythyrau ac agweddau eraill megis canfod gan gleientiaid blaenorol sut arferion oedd ganddo wrth weithio. Mae'n well i chi ofyn y cwestiynau'n awr. Peidiwch ag aros nes ei bod hi'n rhy hwyr!

Dewis Eich Adeiladwr

Cyfeiriadau a Rhifau Ffôn Defnyddiol

Y Ganolfan Cyngor ar Bopeth
Gaynor Roberts
Rheolwr
35 Ffordd Grosvenor,
Wrecsam. LL11 1BT
Ffôn: 01978 364639
Ffacs: 01978 363332

Ffederasiwn y Meistr-Adeiladwyr
72 King Street
Southport
Glannau Merswy
Ffôn: 01704530201/ 01704537078
Ffacs: 01704532945

Y Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol
5ed Llawr
Longcross Court
47 Newport Road
Caerdydd, CF24 0WL
Ffôn: 02920255454
Ffacs: 02920255464

Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Siartredig (RICS)
12 Parliament Square
Llundain SW1 3AD
Ffôn: 0207 222 7000
Ffacs: 0207 222 9430

Cyngor i'r Defnyddiwr ar Safonau Masnachu
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam. LL13 8ZE
Ffôn: 01978 292045
Ffacs: 01978 297098

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'r:

Prif Swyddog Cynllunio, Stryt y Lampint, Blwch SP 1290, Wrecsam, LL11 1WL.

EBost: planning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292050
Ffacs: 01978 292502

Mabwysiadwyd Hydref 2002.


Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol:

Mae copi o ddaflen hon ar gael i'w lawr lwytho yn y ffurf ganlynol - Fersiwn PDF 799Kb 


Mynegai Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoli Adeiladu

Mynegai Rheoli Adeiladu

 
English
 

Cyswllt i

Rheoli Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Grantiau Adeiladu
Cynllunio Amgylchedd
Polisi Cynllunio
Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?
Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam
Nodiadau Cyfarwyddiadau Cynllunio Lleol
Daflenni Gwybodaeth
Ffurflenni Cais Cynllunio
Cysylltwch â Cynllunio
Dychwelyd i Mynegai Cynllunio
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint