Nodiadau cyffredinol 

1.1 Cyn i chi gychwyn ar unrhyw waith, mae’n rhaid i chi, neu eich asiant h.y. adeiladwr neu bensaer, roi gwybod i ni (yr awdurdod lleol) un ai trwy gyflwyno cynlluniau llawn i’w cymeradwyo neu trwy hysbysiad adeiladu. Rhaid i unigolyn gyflwyno cynlluniau llawn ac ni all ddefnyddio’r hysbysiad adeiladu pan mae’r gwaith yn ymwneud ag adeilad sy’n cael neu y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddefnydd dynodedig dan Ddeddf Rhagofalon Tân 1971. 

Eiddo sydd wedi’i ddynodi ar hyn o bryd yw:

  • eiddo o fewn Gorchymyn Rhagofalon Tân 1972 (Gwestai a Lletyau)
  • eiddo o fewn Gorchymyn Rhagofalon Tân 1989 (Ffatrïoedd, Swyddfeydd, Siopau a Safleoedd Rheilffordd)
  • eiddo annomestig a ddiffiniwyd fel 'gweithle' yn Rheoliadau Rhagofalon Tân (gweithle) 1997

1.2 Yr ymgeisydd yw'r person y mae'r gwaith yn cael ei wneud ar ei ran er enghraifft perchennog yr adeilad.

1.3 Dylai un copi yn unig o'r hysbysiad hwn gael ei gwblhau a'i gyflwyno. 

1.4 Mae'n rhaid i rai sy'n cyflawni gwaith adeiladu roi rhybudd ysgrifenedig o ddechrau'r gwaith o leiaf 48 awr ymlaen llaw. 

1.5 Lle bwriedir codi’r adeilad neu estyniad dros garthffos neu ddraen sydd ar y map o garthffosydd cyhoeddus, ymgynghorir â Dŵr Cymru ac efallai y byddant yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth. 

1.6 Atgoffir rhai sy’n bwriadu gwneud gwaith adeiladu neu wneud newid sylweddol neu newid defnydd adeilad y gallai hefyd fod angen caniatâd dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref. 

1.7 Gallwch ofyn am ragor o wybodaeth a chyngor am reoliadau adeiladu a materion cynllunio gan ein hadran gynllunio trwy anfon e-bost at bc_admin@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 298870, neu wyneb yn wyneb yn Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

1.8 Arweiniad cyffredinol yn unig yw’r nodiadau hyn. Mae manylion ynghylch cyflwyno hysbysiad adeiladu neu gais cynlluniau llawn wedi eu cynnwys yn Rheoliadau 12 a 13 yn Rheoliadau Adeiladu 2000 (fel y'i diwygiwyd) ac, o ran taliadau, y Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 1998, ac o fewn cynllun taliadau Rheoliadau Adeiladu’r Cyngor sydd ar gael i'w harchwilio yn y dderbynfa gynllunio yn Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

1.9 Diogelwch trydanol: Person cymwys yw unigolyn sydd wedi'i gofrestru gyda chorff cymeradwy at ddibenion cyflawni gwaith trydanol o fewn anheddau. Ni all y person cymwys ond ardystio bod ei waith ei hun wedi cael ei wneud yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu ac nid gwaith pobl eraill, p’un a ydynt wedi’u cofrestru ai peidio. Bydd yn rhaid i ni (fel yr awdurdod lleol) wirio a phrofi unrhyw systemau heb eu gosod gan unigolion cymwys fel y'u diffinnir, a bydd cais pellach a ffi yn daladwy am hynny.

Cynlluniau llawn 

2.1 Pan mae’r hysbysiad hwn yn cael ei gyflwyno, trwy’r post neu wyneb yn wyneb, mae’n rhaid i ddau gopi o gynlluniau a manylion gael eu cyflwyno gydag o. Yn amodol ar rai eithriadau lle mae Rhan B (Diogelwch Tân) yn gosod gofyniad mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig, dylai dau gopi pellach o gynlluniau sy'n dangos cydymffurfiad â'r gofynion hynny gael eu cyflwyno. Gweler Nodyn 4 isod (cyflwyno a thalu) ar gyfer gofynion cyflwyno’n electronig.

2.2 Bydd llofnodi’r ffurflen hon yn cael ei ystyried fel eich cytundeb ysgrifenedig chi fel sy’n ofynnol dan Adran 16 Deddf Adeiladu 1984 sy’n darparu ar gyfer pasio cynlluniau gydag amodau. Gall yr amodau nodi addasiadau i'r cynlluniau a gyflwynwyd neu bod cynlluniau, manylion neu gyfrifiadau eraill yn cael eu cyflwyno. 

2.3 Bydd tystysgrif gwblhau yn cael ei hanfon yn awtomatig atoch yn rhad ac am ddim yn dilyn archwiliad cwblhau boddhaol gan ein syrfëwr o’r gwaith adeiladu.

Hysbysiad adeiladu

 
3.1 Lle mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys codi adeilad newydd neu estyniad, bydd cynllun blociau heb fod ar raddfa lai nag 1:1250 yn cael ei gyflwyno gyda’r hysbysiad hwn, yn dangos y canlynol: 

  • maint a lleoliad yr adeilad, neu'r adeilad gyda'r estyniad, a'i berthynas â ffiniau cyfagos
  • ffiniau cwrtil yr adeilad, neu'r adeilad gyda'r estyniad, a maint, lleoliad a defnydd o bob adeilad arall neu adeilad arfaethedig o fewn y cwrtil
  • lled a lleoliad unrhyw stryd ar neu o fewn ffiniau cwrtil yr adeilad, neu'r adeilad gyda'r estyniad
  • y ddarpariaeth i'w gwneud ar gyfer draenio ynghlwm â'r adeilad neu'r estyniad

3.2 Lle bwriedir codi’r adeilad neu estyniad dros garthffos neu ddraen a ddangosir ar y map o garthffosydd cyhoeddus, ymgynghorir â Dŵr Cymru ac efallai y byddant yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth.

3.3 O dan y weithdrefn hysbysiadau adeiladu, bydd tystysgrif gwblhau’n cael ei rhoi ar ôl i’r holl hysbysiadau o'r camau perthnasol o'r gwaith gael eu rhoi yn unig. Mae camau gwaith perthnasol yn cynnwys: 

  • Dechrau’r gwaith
  • Draeniau cyn gorchuddio
  • Cloddio ar gyfer sylfeini
  • Draeniau ar ôl gorchuddio
  • Sylfeini
  • Adeiladwaith cyn plastro neu osod byrddau
  • Cwrs atal lleithder
  • Anheddu adeilad
  • Deunyddiau wedi’u gosod dros y safle
  • Cwblhau'r gwaith

3.4 Ni fydd yr hysbysiad adeiladu hwn yn effeithiol ar ôl tair blynedd ers ei roi i ni (yr awdurdod lleol) oni bai fod y gwaith wedi dechrau cyn pen y cyfnod hwnnw.

Cyflwyno a thalu

4.1 Gall yr hysbysiad hwn gael ei gyflwyno’n electronig fel atodiad i e-bost ynghyd ag unrhyw gynlluniau perthnasol. Rhaid talu ar yr un diwrnod neu’r diwrnod gwaith canlynol i ddilysu'r cais. Gallwch dalu ar-lein trwy ein e-siop civica.

4.2 Fel arall, gallwch dalu dros y ffôn gyda cherdyn debyd trwy ffonio 01978 298870. 

4.3 Os ydych yn cyflwyno’r ffurflen wyneb yn wyneb yn ein swyddfa neu’n postio i’n cyfeiriad, dim ond un copi o gynlluniau/darluniau sy’n ofynnol a rhaid darparu’r taliad cywir.