Pwysigrwydd
gwrychoedd a choed mewn gwrychoedd
Mae coed a gwrychoedd yn nodwedd draddodiadol a gweledol bwysig o gefn
gwlad Wrecsam. Maent yn rhan o'n treftadaeth wledig ac maent yn gallu
bod yn gannoedd o flynyddoedd oed. Maent yn aml yn nodi hen derfynau.
Mae coed a gwrychoedd yn ddarnau o hanes byw ac maent yn hynod o werthfawr
ar gyfer bioamrywiaeth, gan gynnal amrediad eang o blanhigion ac anifeiliaid
y coetir.
Y broblem
Mae coed a gwrychoedd wedi dioddef yn arw oherwydd ffactorau fel tynnu
gwrychoedd cyfan, clefyd llwyfen yr Isalmaen, ynn yn gwywo a gordorri
gwiail. Mae goraeddfedrwydd a dirywio, torri a diffyg recriwtio yn ychwanegu
at y golled hon.
Gyda dyfodiad torri gwiail gwrychoedd, nid yw marchwiail wedi eu cenhedlu'n
naturiol yn cymryd lle coed gwrych. Bydd dirywiad fel hyn yn parhau ac
yn cyflymu oni ellir adfer parhad trwy raglen o blannu a/neu ddethol a
labelu gwiail sy'n bodoli eisoes.
Pa amodau fydd mewn grym?
Gwahoddir ceisiadau ond maent dan reolaeth yr amodau canlynol:
-
Mae'n rhaid i'r cais ymwneud â gwrych sydd eisoes yn bodoli
neu sy'n seiliedig ar linell hen wrych. Ni ellir derbyn ceisiadau
am wrychoedd gyfangwbl newydd neu lle bo gwrych yn ffurfio rhan o
derfyn gardd.
-
Mae'n rhaid cynnwys coed cynhenid, yn enwedig derw ac ynn, wrth
blannu coed. Wrth blannu gwrych, mae'n rhaid cynnwys rhywogaethau
sy'n ffurfio rhan ohono eisoes, e.e. draenen wen, cyll, celyn a'r
fasarnen fach.
-
Lle mae'r gwrych ar glawdd, yna, dylai adfer y gorglawdd (lle bo'n
briodol) ffurfio rhan o'r cynllun cyfan.
-
Mae'n rhaid gwneud gwrychoedd sydd wedi eu hadfer a phlannu coed
newydd fel eu bod yn rhwystro gwartheg ar y naill ochr a'r llall.
Os yw cwningod yn niferus, efallai y bydd angen gardiau cwningod neu
netin hefyd.
-
Ni ddylai'r ymgeisydd fod wedi gwneud cais am gymhorthdal na derbyn
unrhyw gymhorthdal ar gyfer y prosiect.
-
Mae'n rhaid i ymgeiswyr gynnal gwaith a dderbyniodd grant i safon
uchel am gyfnod o 10 mlynedd o ddyddiad talu'r grant. Bydd y grant
yn cael ei adennill gyda llog os digwydd esgeuluso neu ddifrodi bwriadol.
-
Mae'n rhaid gwneud pob gwaith dan y cynllun rhwng misoedd Tachwedd
a Mawrth a'i gwblhau cyn dechrau'r tymor nythu adar.
-
Mae'n rhaid plannu coed ar hyd gwrychoedd neu mewn caeau a chorneli
caeau, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau heb fod dim mwy na phum
coeden.
Amcanion a Nodau
Pa ganran o grant sydd ar gael?
Bydd y grant ar raddfa o hyd at 50%, yn amodol ar uchafswm grant o £1,000
yr ymgeisydd y flwyddyn. Mae angen cymeradwyaeth ymlaen llaw ac ni ystyrir
unrhyw waith a wneir cyn derbyn cynnig ffurfiol ysgrifenedig.
Sut gallaf wneud cais am grant?
I gael ffurflen gais a chanllawiau gwneud cais am grant cysylltwch ag:
Alistair Henderson neu Amanda Davies,
Yr Adran Gynllunio (Is-adran Amgylchedd),
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Stryt y Lampint, Blwch SP 1290,
Wrecsam, LL11 1WL
Ffôn: 01978 292019
Ffacs: 01978 292502
E-bost: planning@wrexham.gov.uk
Noddwyd gan: Manweb Rural Care mewn partneriaeth â Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Coed Cymru.
Gorchmynion Cadwraeth Coed
Bioamrywiaeth
Cynllunio Amgylchedd
|