|
Fel rhan o'r broses barhaus i wella'r
wefan hon, rydym yn adolygu'r cynnwys, y cyfleusterau a'r gwasanaethau
a gynigir ar y wefan i sicrhau ein bod yn cyflwyno safle sy'n hygyrch,
hwylus a defnyddiol.
Rydym yn gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
Gwaith Cynlluniedig ar y Wefan – Dydd Mercher 5 Tachwedd 2008
Sylwer: Dydd Mercher 5 Tachwedd 2008 bydd y wefan i lawr am rywfaint o amser. Mae hyn er mwyn gwella cyflymder ein gwasanaeth yn ystod cyfnodau o brysurdeb. Ni fydd y safle ar gael o gwbl am gyfnod. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi a bydd y gwasanaeth arferol ar gael cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi’i orffen.
Rydym yn arolygu amrywiaeth eang o ystadegau defnyddio,
gan gynnwys nifer ymwelwyr, tudalennau a ddarllennwyd, adrannau mwyaf
poblogaidd, ymadroddion chwilio a ddefnyddir yn aml a thudalennau gwall,
er mwyn ein helpu i wella'r wybodaeth, dulliau symud o gwmpas y safle,
a hwylustod y wefan.
Darperir y geiriau chwilio allweddol a ddefnyddir amlaf
mewn dewislen cysylltiad cyflym ar y dudalen
chwilio, ac mae'r cwestiynau a
ofynnir yn aml mwyaf cyffredin mewn dewislen cysylltiad cyflym hefyd.
Rydym yn defnyddio'r holl adborth a geir ar y wefan i'n
helpu i wella'r cynnwys a'r cyfleusterau, ac yn ymateb i awgrymiadau a
sylwadau defnyddwyr lle bo modd.
Grwp Ffocws y Wefan
Rydym yn gweithio gyda grwp ffocws y wefan i brofi datblygiadau
newydd, trafod pa mor hwylus ydyw i ddefnyddio'r wefan, a chael adborth
cyffredinol ar y safle.
Eich Adborth Chi
Os hoffech wneud sylwadau neu anfon adborth ar wrexham.gov.uk
yna cwblhewch y ffurflen
ymateb ar-lein, ffurflen
ymholiadau cyffredinol ar-lein neu cysylltwch gyda ni yn webmaster@wrexham.gov.uk.
|