|
Hawdd iawn yw credu ein bod yn ddiogel o fewn ein cartrefi ein hunain, ond gartref, rydym yn aml yn llai gofalus nag ydym y tu allan. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am sut i leihau'r perygl o gael damwain yn eich cartref.
Y damweiniau mwyaf cyffredin sy'n digwydd yn y cartref yw:
- Llithro, baglu a disgyn
- Llosgi a sgaldio
- Gwenwyno damweiniol
Ewch i Brofi eich Llygaid
Caiff pobl dros 60 profion llygaid am ddim bob 2 flynedd. Cysylltwch ag optegydd am fanylion pellach.
Esgidiau a Sliperi
Rydych yn fwy tebygol o lithro, baglu neu ddisgyn os ydych yn gwisgo:
- Sliperi rhyd neu rai sydd heb gefn
- Sandalau
- Esgidiau sydd â sodlau uchel
Gwisgwch esgidiau fflt neu rai sydd â gwadnau tenau neu sawdl annatod.
Y Cartref
Y Lolfa
- Symudwch unrhyw lanastr er mwyn ei wneud yn haws symud o gwmpas.
- Ceisiwch osgoi cadeiriau ag olwynion fel na allent symud wrth i chi sefyll neu eistedd.
Pan fyddwch yn codi o'r gwely neu o gadair ar ôl eistedd am gyfnod hir, mae'n syniad da gwneud hyn mewn camau araf.
Mae gostyngiad sydyn mewn pwysedd gwaed yn aml yn achosi i chi deimlo'n benysgafn wrth sefyll yn gyflym.
Ceisiwch dynhau eich breichiau a'ch coesau sawl gwaith cyn i chi sefyll gan fod hyn yn aml yn helpu.
Grisiau
- Goleuwch eich grisiau. Cynnwch oleuadau ar dop ac ar waelod y grisiau.
- Defnyddiwch y ganllaw. Gall canllawiau y ddwy ochr i'r grisiau ei wneud yn haws i'w dringo.
- Peidiwch â rhuthro.
- Gwnewch yn siwr nad oes llanastr ar y grisiau a'r pen grisiau.
Cymerwch Ofal yn y Baddon a'r Gawod
- Peidiwch â sgaldio - rhedwch ddwr poeth ac oer gyda'i gilydd.
- Defnyddiwch fat gwrth-lithro yn y baddon ac yn y gawod.
- Gosodwch ganllawiau i'ch helpu i gadw'ch cydbwysedd wrth fynd i mewn a dod allan o'r baddon a'r gawod.
Coginio
- Peidiwch byth â llenwi padell sglodion fwy na thraean yn llawn.
- Defnyddiwch amserydd i'ch atgoffa pan fo'ch bwyd yn barod.
- Gwnewch yn siwr y caiff pob offeryn coginio ei ddiffodd ar ôl i chi orffen coginio.
- Cadwch bob dim sydd ei angen arnoch wrth law neu mewn lle y gellwch ei gyrraedd yn hawdd.
Alcohol
Mae damweiniau'n fwy tebygol ar ôl yfed alcohol. Mae hyn oherwydd ei fod yn arafu ein gallu i ymateb i sefyllfaoedd sy'n codi.
Ffisig
- Cymerwch ffisig yn unol â chyfarwyddyd eich Meddyg neu fferyllydd.
- Peidiwch byth â chymryd ffisig a ragnodwyd ar gyfer rhywun arall.
- Cadwch ffisigau yn eu pecynnau gwreiddiol.
- Storiwch ffisigau gyda'i gilydd.
- Cadwch ffisig allan o gyrraedd plant.
- Siaradwch â'ch Meddyg os ydych yn credu bod eich ffisig yn gwneud i chi deimlo'n flinedig neu'n benysgafn.
- Gofynnwch wrth eich fferyllydd os oes rhywbeth am eich ffisig nad ydych yn siwr ohono.
Diet
Rydych yn fwy tebygol o ddisgyn os ydych wedi methu prydau bwyd neu os oes gennych ddiet gwael. Ceisiwch beidio â methu prydau bwyd.
Os ydych yn ei chael hi'n anodd coginio:
Pryd ar Glud - darperir prydau bwyd i'r cartref yn ddibynnol ar feini prawf cymhwyster 01978 264987
Gall Wiltshire Farmfoods ddarparu prydau bwyd parod wedi'u rhewi yn uniongyrchol i'ch drws . I gael llyfryn lliw am ddim ffoniwch RHADFFÔN 0800 773 773.
Mae'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd hefyd yn gwerthu prydau bwyd parod.
Mae sawl cwmni lleol yn cynnig bwydlen amser cinio â phris penodol ar gyfer pobl dros 60.
Diogelwch Tân yn y Cartref
Sicrhewch fod larwm dân sy'n gweithio yn eich cartref - nid yw larymau tân yn atal tanau ond maent yn rhoi rhybudd cynnar.
I drefnu gwiriad diogelwch tân yn y cartref ffoniwch: 0800 169 1234
Cadwch yn Heini
Rydych yn fwy tebygol o ddisgyn os oes gennych gyhyrau gwan a chydbwysedd gwael.
Ffordd dda o gryfhau'ch cyhyrau a gwella'ch cydbwysedd yw cadw'n heini.
- Ceisiwch wneud o leiaf 30 munud o weithgarwch corfforol bob dydd.
- Gall ymarfer corff fod yn hwyl - peidiwch â gadael i'ch oedran eich rhwystro!
- Rhowch gynnig ar rywbeth newydd a dewch o hyd i rywbeth rydych yn ei fwynhau.
Mae EXTEND yn ddosbarth symud i gerddoriaeth a luniwyd yn arbennig ar gyfer pobl hyn.
Mae ar gael ar hyn o bryd yn Springfield (llety ymddeol yn Rhosddu) dydd Llun 2.30pm
Cerdded o Gwmpas Wrecsam
Arweinir y teithiau cerdded gan arweinwyr cerdded gwirfoddol sy'n wedi'u hyfforddi, ac maent yn addas i bobl o bob oedran a gallu. Mae'n gyfle da i gwrdd â phobl newydd, cael peth awyr iach a gwella eich ffitrwydd.
Am fwy o wybodaeth am deithiau cerdded lleol cysylltwch ag Anna Pollard neu Alison Puddle ar 01978 757524.
- Cyn dechrau gwneud gweithgarwch corfforol, siaradwch â'ch meddyg
- Dechreuwch yn araf
- Gweithiwch i fyny'n araf
- Peidiwch â cheisio gwneud mwy na'r hyn sy'n gyffyrddus
Gweithgareddau Atal Damweiniau
Fideo
Mae fideo'n cael ei gynhyrchu i amlygu'r peryglon sydd yng nghartrefi pobl hyn, a sut y gellir gwneud newidiadau bychain i leihau'r peryglon hyn.
Rhestr wirio diogelwch yn y cartref
Caiff hon ei dosbarthu gyda'r fideo a gellir ei defnyddio fel nodyn i'ch atgoffa sut i wneud eich cartref yn fwy diogel.
Neges mewn Potel
Cynllun sy'n rhoi manylion hanfodol bwysig i'r gwasanaethau brys gan gynnwys perthnasau agosaf, afiechydon, alergeddau ac ati.
Cedwir y wybodaeth hon mewn potel blastig yn yr oergell.
Gellir cael Neges mewn Potel mewn fferyllfeydd, llyfrgelloedd, gan nyrsys ardal, meddygfeydd a mannau addoli.
Gwybodaeth Bellach
Cysylltwch â'r Tîm Atal Damweiniau:
Linda Mullock neu Michelle Stanley
Ffôn: 01978 297018 neu 01978 297068.
|