Materion Cyfreithiol
Os nad ydych yn priodi yn Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru trwy
gyhoeddi Gostegion neu Drwydded Gyffredin, mae'n rhaid i'r ddau ohonoch
roi rhybudd o briodas yn bersonol i'ch Cofrestrydd/wyr Arolygu lleol.
Mae'n rhaid i'r ddau ohonoch fod wedi byw mewn dosbarth cofrestru yng
Nghymru neu Loegr am o leiaf saith diwrnod yn union cyn rhoi rhybudd yn
y Swyddfa Cofrestru. Os yw'r ddau ohonoch yn byw yn yr un dosbarth, bydd
y ddau ohonoch yn rhoi eich rhybudd yn yr un swyddfa. Os ydych yn byw
mewn dosbarthiadau cofrestru gwahanol, byddwch yn rhoi eich rhybuddion
ar wahân yn eich ardal eich hun.
Mae rhybudd o briodas yn ddilys am ddeuddeng mis. Felly, ni allwch roi
rhybudd o briodas i'r Cofrestrydd Arolygu fwy na deuddeng mis cyn dyddiad
eich priodas.
Dim ond ar gyfer y lleoliad a enwir ar y rhybudd, mae'r rhybudd yn ddilys
ar ei gyfer. Mae'n bosibl y gellir newid dyddiad eich priodas (cyn belled
y'i rhoddir cyn y dyddiad terfynol), ond byddai angen rhybudd newydd a
thâl ar gyfer newid lleoliad.
Ar ôl rhoi rhybudd, mae'n rhaid ichi aros am bymtheg diwrnod clir
cyn i'r briodas gael ei chynnal.
Mae'n rhaid i'r ddau awdurdod fod wedi cyhoeddi ar neu cyn diwrnod y
briodas.
Tystysgrifau Priodas
Awdurdodir y briodas gan Dystysgrif y Cofrestrydd Arolygu.
Dogfennau sydd eu Hangen yn ôl y Gyfraith
Pan fyddwch yn ymweld â Chofrestrydd Arolygu i wneud trefniadau
ffurfiol, bydd angen ichi ddarparu dogfennau penodol i gadarnhau eich
enw, oed, statws priodasol a chenedligrwydd.
Y dogfennau ffafriedig yw:
neu
a
Os ydych yn weddw, tystysgrif marwolaeth eich cyn briod.
Os ydych wedi cael ysgariad, archddyfarniad diamod yn dangos stamp gwreiddiol
y llys.
Dogfennau Gweithred Newid Enw os ydych wedi newid eich enw.
Ffurflen caniatâd rhieni wedi'i chwblhau os ydych o dan 18 oed.
Costau
Codir £30.00 yr un arnoch pan fyddwch yn rhoi eich rhybudd.
Hefyd:
Bydd priodas yn y Swyddfa Cofrestru yn £40.00 i'w dalu ar y diwrnod + £3.50.
Bydd priodas mewn lleoliad cymeradwyol yn golygu tâl i berchnogion
yr eiddo, hefyd tâl am bresenoldeb Swyddog Cofrestru o
- £210.00* Dydd Llun - Dydd Gwener
- £230.00* Dydd Sul
- £300.00* Dydd Sul a gwyliau banc
Bydd priodas mewn addoldy yn golygu tâl i weinidog/offeiriad yr
adeilad (amrywiol).
Nid yw priodas mewn Eglwys Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru yn cynnwys
y Swyddfa Gofrestru fel arfer; dylid cyfeirio unrhyw ymholiad ynghylch
taliadau at Weinidog yr Eglwys.
Mae'n rhaid ichi gofio newid eich enw a/neu'ch cyfeiriad pan fyddwch
yn priodi. Gall ein rhestr wirio
eich cynorthwyo.
|