Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newidiadau i Lwfans Gofal Anabledd

 

O 28ain Hydref 2002 ymlaen, bydd rheolau hawlio Lwfans Gofal Anabledd (ICA) yn newid.

Y prif newidiadau yw:

  • Gall Gofalwyr dros 65 oed hawlio ICA am y tro cyntaf;

  • Bydd ICA yn cael ei dalu am yr 8 wythnos gyntaf ar ôl marwolaeth y person yn eich gofal.

Ar hyn o bryd ni all pobl wneud cais newydd am ICA os ydynt yn 65 oed neu drosodd. Bydd hyn yn newid o 28ain Hydref pan fydd gofalwyr 65 oed neu drosodd yn gallu hawlio ICA.

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl dros 65 yn derbyn ICA gan na chaiff ei dalu os byddwch yn cael pensiwn ymddeol y wladwriaeth ar y gyfradd wythnosol uwch. Os yw eich pensiwn ymddeol yn llai nag ICA, caiff eich pensiwn ei 'atodi' i gyrraedd cyfradd wythnosol ICA. Cyfradd safonol ICA ar hyn o bryd yw £42.45 yr wythnos. Weithiau gall derbyn ICA ostwng faint o fudd-dal gaiff y person yn eich gofal. Gofynnwch am gyngor os byddwch yn amheus.

Gall fod yn werth gwneud cais hyd yn oed os nad oes modd talu ICA. Os byddwch yn methu cael ICA oherwydd eich pensiwn ymddeol, mae gennych hawl sylfaenol i ICA. Gall hyn eich gwneud yn gymwys i gael neu gael mwy o Fudd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor a Chymhorthdal Incwm (hefyd yn cael ei alw'n Warant Lleiafswm Incwm). Mae hyn oherwydd bod swm ychwanegol, premiwm y gofalwr, yn cael ei gynnwys pan yn cyfrif y budd-daliadau hyn a gall fod yn werth hyd at £24.80 ychwanegol yr wythnos.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gyngor am Lwfans Gofal Anabledd a'r newidiadau hyn, cofiwch gysylltu â'r Swyddogion Gofalwyr yn yr Uned Hawliau Lles ar 01978 267345. Fel arall, cysylltwch â llinell gymorth ar gyfer yr anabl a gofalwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 882200 i ofyn am ffurflen hawlio.

 
English
 

Cyswllt i

Am Bod yn Ofalwr
Pecyn Gwybodaeth Gofalwyr
Hyfforddiant
Cefnogi
Newidiadau i LGA
Grantiau Cyfleusterau Anabl
Bod yn Ofalwr - Cysylltiadau
Bod yn Ofalwr
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint