Amrywiol Fathau O Ofal Maeth Y Gellwch Eu Darparu
Bydd gwahanol bobl yn gallu cynnig amser amrywiol i faethu ac mae nifer o fathau o faethu y gellwch eu darparu.
Mae nifer o blant a phobl ifanc angen gofal maeth am gyfnodau byr. Enghraifft o hyn yw os yw rhiant neu berthynas yn wael, neu yn y ddalfa neu oherwydd marwolaeth yn y teulu. Yn yr achosion hyn gofynnir i'r gwasanaethau cymdeithasol i gynorthwyo'r teulu am gyfnod byr. Fel Gofalwr Maeth byrdymor byddwch yn darparu cartref diogel a sicr i'r plentyn ac yn cydweithio'n agos â'r teuluoedd genedigol a'r Gwasanaethau Plant i sicrhau eu dyfodol, yn ôl yn eu cartref yn ddelfrydol.
Yn anffodus, nid yw rhai rhieni yn gallu newid eu ffordd o fyw i'w galluogi i ofalu'n briodol am eu plant eu hunain. Os digwydd hyn, bydd y plentyn yn parhau yng ngofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am gyfnod hir dymor. Fel Gofalwr Maeth hir dymor byddwch yn darparu cartref sicr a diogel i'w magu ynddo, a chynorthwyo'r plentyn i baratoi i fod yn oedolyn ac wedi hyn.
Os oes gennych le, a'r amser ar gyfer mwy nag un plentyn, yn aml mae angen Gofalwyr Maeth sy'n gallu darparu cartref i frodyr a chwiorydd. Pan fydd plant a phobl ifanc yn cael anawsterau a phroblemau yn eu bywydau gall brodyr neu chwiorydd roi cysur, cariad a sefydlogrwydd. Os ydych yn gallu maethu brodyr a chwiorydd, byddwch yn ein helpu drwy roi'r cynnig cadarnhaol o gadw'r plant gyda'i gilydd.
Mae angen gofal arbennig, cariad a sylw ar blant ag anableddau gan eu Gofalwyr Maeth er mwyn i'w helpu i ddysgu i gael y gorau allan o fywyd. Mae rhai gofalwyr yn arbenigo mewn gofalu am y plant hyn a bydd plant heb anableddau yn aros am gyfnodau byr, penodol. Yn y mwyafrif o achosion gall hyn fod yn un neu ddau benwythnos y mis neu fwy os yw hi'n well genych chi. Gelwir y math hwn o faethu yn 'seibiant' a gall fod yn gymorth mawr i sawl teulu; i'w helpu i aros gyda'i gilydd.
Mae angen mwy o ofalwr ar gyfer plant a phobl ifanc dros 10 oed. Mae rhai o'r bobl ifanc hyn angen gofal seibiant, rhai gofal tymor byr a rhai gofal hir dymor. Os ydych yn teimlo y gallech gynnig cartref i blentyn hyn beth am roi galwad i ni i ganfod mwy. Neu, os oes gennych ffrindiau, teulu neu gydweithwyr a fyddai â diddordeb mewn gofalu am blant hyn beth am ddangos y pecyn gwybodaeth hwn iddynt a gofyn iddynt gysylltu â ni os ydynt am wybod mwy.
|