Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Maethu

 

Sut Fyddwn Ni Yn Eich Cefnogi...

Fel Gofalwr Maeth rydych yn chwarae rhan hanfodol. Rydych yn rhan o'r Tîm Gwasanaethau Plant ac felly yn derbyn yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Amlinellir pecyn cefnogi Wrecsam isod.

Cyfleoedd Hyfforddi

Fel Gofalwr Maeth posibl byddwch yn derbyn hyfforddiant cyn-cymeradwyaeth yn ystod eich cyfnod cais ac asesu. Mae'r hyfforddiant cyn-cymeradwyaeth yn gwrs o chwe sesiwn dwy awr ac fe'i cynlluniwyd i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol i gael darlun realistig o'r hyn sydd ynghlwm wrth ddarparu gofal ar gyfer plant sy'n agored i niweid. Bydd cyfle i chi gyfarfod â Gofalwyr Maeth eraill, Gweithwyr Cymdeithasol a staff o'r Tîm Lleoliad Teulu gan gynnwys gweithwyr cefnogi a'n swyddog ariannu. Unwaith y cewch eich cymeradwyo, fe'ch gwahoddir i fynychu amrywiol gyrsiau gwahanol i ddysgu am yr amrywiol agweddau ar ofalu am blant.

Anogir yr holl ofalwyr maeth i astudio am y CGC lefel 3 mewn Gofal Plant a Phobl Ifanc. Darperir gofal plant i'ch caniatáu chi i fynychu'r cyrsiau hyfforddi bob amser.

Cefnogaeth Bersonol

Bydd gennych Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol fel prif gyswllt o fewn y tîm a bydd yn eich cynorthwyo drwy gydol eich gyrfa maethu. Bydd gweithwyr cefnogi hefyd o fewn y tîm, i chi eu cyfarfod; byddant yn eich cefnogi ar ddechrau pob lleoliad newydd ac ar unrhyw amser arall pan ofynnir am gefnogaeth. Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol yn cadw mewn cysylltiad â chi yn rheolaidd, drwy ffonio neu ymweld â chi i'ch helpu gydag unrhyw broblemau.

Os bydd angen cyngor arnoch y tu allan i'r oriau gweithio arferol, mae llinell gymorth 24 awr ar gyfer cefnogaeth y gofalwyr gan Ofalwyr Maeth eraill ar gael, yn ychwanegol i'r gefnogaeth a dderbynnir gan eich Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol. Os oes angen egwyl arnoch oddi wrth ofalu am blant o dro i dro, un ai am ychydig oriau, penwythnos neu wythnos, gwnawn bob ymdrech i ddarparu lleoliad seibiant i'r plentyn.

Rydym hefyd yn cadw mewn cysylltiad â'n holl ofalwyr drwy gylchlythyr rheolaidd, lle y gallwn eich diweddaru gydag unrhyw ddatblygiadau o fewn y Gwasanaethau Plant.

Cymorth Ariannol

Byddwch yn derbyn tâl am faethu, telir llai o dâl wrth gofrestru am eich CGC, a mwy o dâl pan fyddwch wedi cwblhau hyn. Byddwch hefyd yn derbyn lwfans am bob plentyn y byddwch yn gofalu amdanynt. Mae taliadau ychwanegol ar gyfer pen-blwyddi, gwyliau a'r Nadolig. Rydym hefyd yn helpu os oes angen offer arbennig ar gyfer lleoliad, megis, gwely, cist ddillad, cadair uchel neu sedd car ayb.

Ystyrir unrhyw hyfforddiant ychwanegol y byddwch yn ei fynychu, neu sgiliau a ddatblygwch ar gyfer eich CGC 3 Gofal Plant a Phobl Ifanc a phan fyddwch wedi lwyddo i ennill y cymhwyster hwn byddwch yn derbyn mwy o dâl.

Cymeithas Maethu Wrecsam

Wrth dderbyn cymeradwyaeth byddwch yn aelod o Gymdeithas Gofal Maeth Wrecsam a weithredir gan Ofalwyr Maeth eraill yn yr ardal fel mater o drefn. Byddwch hefyd yn dod yn aelod o'r rhwydwaith maethu, mudiad cenedlaethol ar gyfer gofalwyr maeth. Mae'r ddau yn gallu darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i chi.

 
English
 

Cyswllt i

A yw Maethu i chi?
Beth mae Maethu yn ei olygu?
Amrywiol fathau o ofal maeth y gellwch eu darparu
Sut fyddwn ni yn eich cefnogi
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyswlltwch â ni
Cyfnodau Bywyd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint