Beth Mae Maethu Yn Ei Olygu?
Fel Gofalwr Maeth byddwch yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r Gwasanaethau Plant a theulu'r plentyn, a byddwch yn helpu'r plant a'r bobl ifanc yn eich gofal i gael y mwyaf allan o fywyd, bob dydd.
Byddwch yn darparu gofal bob dydd i unrhyw blentyn sydd angen gofalu amdano. Byddwch yn helpu ac ynghlwm wrth weithredu cynllun gofal ar gyfer plant unigol, a fydd efallai yn cynnwys cyfrifoldebau penodol e.e. sicrhau bod y plentyn yn gallu ymweld â'i deulu a'i ffrindiau.
Wrth ofalu am unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc byddwch yn annog ac yn hyrwyddo tyfiant iach a datblygiad personol gan roi sylw arbennig i'w hiechyd a'u haddysg. Byddwch yn cynorthwyo ac yn annog unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc a osodir â chi i ddysgu, byddwch yn eu helpu i deimlo'n bositif am eu cefndir, eu diwylliant ac unrhyw ffydd grefyddol sydd ganddynt. Yn bersonol, byddwch yn adeiladu perthynas â'r plant ac yn annog perthynas bositif â'r rheini sy'n bwysig i'r plant.
Tra fo unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc yn eich gofal mae'n hynod o bwysig eu bod yn ddiogel rhag niwed a/neu gamdriniaeth.
Gan weithio fel rhan o Dîm Lleoliad Teulu byddwch yn gweithio o fewn canllawiau a pholisïau i sicrhau bod bob plentyn yn gwireddu ei botensial. Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfarfodydd ynghylch y plentyn neu'r unigolyn ifanc yn eich gofal, cadw cofnodion ysgrifenedig amdanynt a chyfrannu at adroddiadau ynghylch y plentyn, ac ymdrin yn gyfrifol â gwybodaeth gyfrinachol.

Y manteision o fod yn Ofalwr Maeth...
Fel Gofalwr Maeth byddwch yn ymgymryd ag un o'r tasgau pwysicaf sydd o fewn y gymdeithas sef gofalu am blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed. Fel gofalwr byddwch yn rhan o dîm sy'n cynnwys gofalwyr maeth eraill a gweithwyr cymdeithasol sydd hefyd yn ymroddedig ac yn canolbwyntio ar y gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant Wrecsam.
Ond, yn fwyaf pwysig, fel Gofalwr Maeth, byddwch yn gwybod bod plant a phobl ifanc y byddwch yn gofalu amdanynt yn derbyn y dechrau gorau posibl i weddill eu bywydau diolch i chi.
|