Beth Sy'n Digwydd Nesaf?
-
Os oes gennych fwy o gwestiynau i'w gofyn ar ôl darllen y pecyn hwn gellwch gysylltu â ni am ddim ar 0800 7830618. Fe'ch gwahoddir i'n noson wybodaeth nesaf fel mater o drefn gan roi cyfle i chi siarad â gofalwyr presennol ynghylch yr hyn y byddant yn ei wneud a chanfod mwy am yr hyn mae maethu yn ei olygu.
-
Os ydych yn barod i fynd ymlaen gyda'ch ymholiad cwblhewch eich ffurflen gais (sy'n amgaeëdig â'r pecyn hwn) a'i dychwelyd yn yr amlen a ddarperir. Yna bydd ein swyddog recriwtio yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad cartref, er mwyn i ni ddod i'ch adnabod yn eich amgylchedd eich hun a thrafod am y gwahanol fathau o faethu yn fwy manwl.
-
Yna, rhoddir eich gwybodaeth i reolwr y tîm i'w dyrannu ar gyfer un o'n Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol a fydd yn cwblhau eich asesiad. Bydd y cyngor yn gwneud gwiriadau SCT er mwyn sicrhau nad ydych wedi troseddu a fyddai'n eich gwahardd rhag maethu fel mater o drefn. Bydd y gwiriad iechyd yn dangos nad oes gennych broblemau iechyd difrifol.
-
Fe'ch gwahoddir i'r grwp hyfforddi cyn-cymeradwyaeth nesaf. Bydd hyn yn cynnwys chwe sesiwn hyfforddi o ddwy awr yr un dros gyfnod o chwe wythnos. Yr hyfforddiant yw eich cyfle i ddarganfod mwy am her a manteision maethu. Mae hefyd yn gyfle i gyfarfod â phobl eraill sy'n mynd trwy'r un broses; sgwrsio â gofalwyr maeth profiadol a chyfarfod â phobl o'r adran.
-
Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol a fydd yn gwneud eich asesiad cartref yn cysylltu â chi. Byddant am drefnu apwyntiadau rheolaidd i ddod i'ch gweld gartref. Byddant yn siarad â phawb sy'n byw gyda chi. Mae'n bwysig iawn rhoi cyfle i'ch plant drafod sut y teimlant am rannu eu bywydau gyda phlant eraill, a sicrhau eu bod yn deall beth mae maethu yn ei olygu. Byddant am siarad â chi a'ch partner (os yn berthnasol) ar wahân ynghylch cefndir eich teuluoedd, eich perthynas ac unrhyw berthnasau arwyddocaol blaenorol. Efallai i hyn ymddangos yn fusneslyd, ond mae'n help i ni sicrhau bod gennych rwydwaith cefnogaeth cadarn. Byddant am ddod i wybod am eich cryfderau. Gofynnir i chi drafod neu ysgrifennu am enghreifftiau ymarferol o'r sgiliau a ddefnyddiwch yn ddyddiol, a byddwn ni yn eich helpu i ddatblygu priodoleddau eraill y bydd eu hangen arnoch fel Gofalwr Maeth. Yn ystod y cyfarfodydd hyn mae'n rhaid i chi benderfynu gyda ni ar nifer/oedran y plant y gallech faethu.
-
Byddwn yn defnyddio eich canolwyr er mwyn derbyn geirda personol ac o'ch gwaith.
-
Ysgrifennir adroddiad manwl yn cynnwys yr holl wybodaeth yr ydych wedi ei rannu, yn amlinellu eich galluoedd a'ch priodoleddau gan wneud argymhellion am hyfforddiant yn y dyfodol. Byddwch yn gweld yr adroddiad hwn, a gellwch ychwanegu eich sylwadau eich hun yn ysgrifenedig.
-
Yna, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cyflwyno'r adroddiad i'r panel maethu, a fe'ch gwahoddir i fynychu. Y panel yw'r corff sy'n argymell eich cymeradwyaeth fel Gofalwr Maeth.
-
Os cewch eich cymeradwyo byddwch yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig, yna bydd y gweithiwr cymdeithasol a wnaeth eich asesiad yn parhau fel eich gweithiwr cymdeithasol chi o fewn yr adran. Os na dderbyniwch gymeradwyaeth bydd y gweithiwr cymdeithasol yn trafod y rhesymau â chi a bydd cadeirydd y panel yn ysgrifennu atoch. Weithiau mae'n bosibl ail ymgeisio yn y dyfodol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i chi a'ch teulu, ac fe wyddom y byddwch yn eiddgar i ddechrau maethu cyn gynted â phosibl. Gwnawn ein gorau i gwblhau'r broses o fewn chwe mis, fodd bynnag, o dro i dro mae'n cymryd mwy o amser, er enghraifft os ydym yn derbyn llawer o geisiadau ar yr un pryd. Beth bynnag, rydym yn addo y cewch wybod popeth ac y derbyniwch gefnogaeth ar hyd y ffordd.
|