Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

 

Maethu

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i'r Maethu


Pwy sy'n penderfynu ar ryw ac oedran y plant rwy'n eu maethu?

Trafodir hyn â chi o'r dechrau un. Yn y pen draw y chi sy'n penderfynu. Byddwch yn derbyn cyngor ac yn ystod y broses gymeradwyo bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn trafod oed a rhyw y plant yr ydych yn dymuno eu maethu â chi. Os oes gennych blant eich hun, ystyrir eu rhyw a'u hoedran hwythau hefyd.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i'r Maethu


Mae gennyf blant fy hun - sut fydd y maethu yn effeithio arnynt?

Wrth gwblhau'r hyfforddiant cyn-cymeradwyo gwahoddir eich plant i sesiwn hyfforddi paratoaol hefyd. Gwnaed hyn i roi mewnwelediad sylfaenol i'ch plentyn/plant i'r hyn y gall maethu ei olygu iddynt hwy.

Rydym yn argymell eich bod yn trafod y penderfyniad i faethu fel teulu, a chadw eich plentyn neu blant yn ymwybodol o ddatblygiadau'r cais. Gall gymryd hyd at chwe mis rhwng cyflwyno'r cais a'i gymeradwyo sy'n amser hir i rai plant, yn arbennig y rheini sy'n disgwyl i'r plant ymddangos o fewn wythnos!!

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i'r Maethu


Nid wyf yn berchen ar fy nhy fy hun - a yw hyn o bwys?

Nid oes raid i chi fod yn berchen ar eich ty eich hun i fod yn Ofalwr Maeth. Efallai i chi fyw mewn ty cyngor neu dy wedi ei rentu'n breifat. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod gennych lofft sbâr ar gyfer defnydd y plentyn maeth. Mae rhannu ystafelloedd gwely yn bosibl ond mae'n dibynnu ar oed ac anghenion y plentyn.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i'r Maethu


Pa fath o wiriadau fydd raid i mi eu cael?

Gofynnwn i chi gael gwiriadau SCT (heddlu), gwiriadau meddygol, gwiriadau'r awdurdod lleol ayb. Gwneir yr holl wiriadau i'n cynorthwyo ni i sicrhau bod plant mewn gofal yn ddiogel rhag niwed neu gamdriniaeth tra eu bod yn cael eu maethu. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y gwiriadau, cysylltwch â ni a gallwn drafod hyn â chi.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i'r Maethu


Beth os oes gennyf gofnod troseddol - fedra i barhau i faethu?

Os y dyfarnwyd chi'n euog o unrhyw drosedd yn erbyn plant neu bobl ifanc, neu unrhyw droseddau treisgar yna ni fyddwch yn gallu maethu. Dylid trafod unrhyw mân droseddau â'r gweithiwr cymdeithasol sy'n cwblhau eich asesiad. Argymhellir eich bod yn datgelu'r holl droseddau yn eich erbyn ar ddechrau eich asesiad.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i'r Maethu


Faint o amser mae'r broses cymeradwyo yn ei gymryd?

Oddeutu 6 mis o dderbyn eich ffurflen gais wedi ei chwblhau.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i'r Maethu


Oes angen cymwysterau mewn gofal plant arnaf?

Nac oes, nid oes angen cymwysterau arbennig i fod yn Ofalwr Maeth. Fodd bynnag, mae profiad o fywyd ac aeddfedrwydd yn ffactorau pwysig iawn ar gyfer gofalu am blant sy'n agored i niwed.

yn ôl i'r Maethu

 
English
 

Cyswllt i

A yw Maethu i chi?
Beth mae Maethu yn ei olygu?
Amrywiol fathau o ofal maeth y gellwch eu darparu
Sut fyddwn ni yn eich cefnogi
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyswlltwch â ni
Cyfnodau Bywyd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint