Beth sy'n Digwydd Pan Fyddwch yn Cysylltu ag Asiantaeth Fabwysiadu Wrecsam?
Cam Un
I ddechrau bydd gweithiwr cymdeithasol yn trafod eich diddordeb mewn mabwysiadu ac yn rhannu gwybodaeth â chi dros y ffôn. Gall y gweithiwr cymdeithasol ddweud wrthych os ydym yn recriwtio ar y pryd am rieni mabwysiadol newydd ar gyfer oedran y plentyn yr ydych yn ei ystyried.
Cam Dau
Bydd gweithiwr cymdeithasol yn gwneud trefniadau â chi i gyfarfod yn eich cartref, i drafod mabwysiadu yn fwy manwl.
Mae sawl ymholwr yn penderfynu o'r dechrau un eu bod yn dymuno 'siopa o gwmpas' o amgylch sawl asiantaeth fabwysiadu er mwyn canfod yr asiantaeth y maent yn dewis i fynd ymlaen â hi. Fodd bynnag, un cynnig ffurfiol um unig y gellir ei wneud ar unwaith i un asiantaeth.
Prif gyfrifoldeb yr Asiantaethau Mabwysiadu yw bodloni anghenion y plant sydd angen lleoliadau teulu parhaol. Felly ni allant bob amser ddarparu gwasanaeth ar gyfer parau di-blant. Gall hyn arwain at rai ymholwyr yn teimlo y dwedwyd wrthynt eu bod yn anaddas i fod yn rhiant i blentyn. Nid yw hyn yn wir.
Sut y Paratoir Pobl i Fod yn Rhieni Mabwysiol?
(i) Cyrsiau Paratoadol
Gwahoddir darpar fabwysiadwyr i gymryd rhan mewn cwrs paratoadol i ddysgu mwy am fabwysiadu. Gweithwyr mabwysiadu sy'n arwain y cwrs. Mae digon o gyfle yn ystod y cyfarfodydd hyn fel rheol i sgwrsio â rhieni sydd wedi mabwysiadu a dysgu am eu profiadau o fywyd teuluol, a sut mae bywyd wedi newid ers i'r plentyn gyrraedd. Mae siaradwyr gwadd eraill hefyd yn cymryd rhan yn y cwrs.
(ii) Astudiaeth Cartref
Yn dilyn y cwrs paratoadol bydd yr Astudiaeth Gartref yn dechrau. Mae hwn yn gyfle pellach i chi a'ch gweithiwr cymdeithasol archwilio os mai mabwysiadu yw'r llwybr i'w gymryd ar yr adeg hon. Bydd y berthynas y byddwch yn ei ddatblygu gyda'ch gweithiwr cymdeithasol yn eich galluogi i ddarganfod beth sy'n debygol o fod y dewis gorau i chi.
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau portffolio o dystiolaeth cymhwysedd o ran rhai o'r tasgau ynghylch mabwysiadu. Bydd eich aseswr yn eich helpu, eich tywys a'ch cefnogi drwy gydol y broses.
I gwblhau'r Astudiaeth Gartref, bydd y gweithiwr yn llunio adroddiad a rennir â chi. Byddant hefyd yn cyfweld â'r unigolion yr eisioes wedi eu cynnig fel canolwyr. Bydd yr asiantaeth yn gwneud gwiriadau i'r heddlu a chyfres o wiriadau statudol eraill a bydd angen archwiliad meddygol llawn hefyd. Cyflwynir eich adroddiad gerbron y panel mabwysiadu ar gyfer cymeradwyaeth. Mae cyfle i chi fynychu'r panel hwn.
|