|
Bob blwyddyn, caiff tua 2,000 o blant mewn gofal eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bob amser yn chwilio am deuluoedd sydd am fabwysiadu.
Beth yw Mabwysiadu?
Mabwysiadu yw'r broses gyfreithiol y gall plant na allant gael eu magu gan eu rhieni eu hunain, fod yn aelod llawn a pharhaol o deulu newydd. Trosglwyddir cyfrifoldeb rhieiniol i'r teulu newydd drwy ganiatáu Gorchymyn Mabwysiadu gan y llysoedd.
Y Plant sy'n aros am Leoliadau Mabwysiadu
Ychydig iawn o fabanod sydd angen lleoliadau mabwysiadu heddiw. Mae mwyafrif y plant sy'n aros am gael eu mabwysiadu dros 4 oed. Gall effaith eu hanes cynnar effeithio ar eu datblygiad, eu hiechyd a'u haddysg. Mae angen lleoli rhai plant gyda brodyr a chwiorydd ac felly croesawir ymgeiswyr sy'n gallu cymryd grwp teulu bychan.
Mae angen teuluoedd ar gyfer plant gydag amrywiol anghenion arbennig hefyd.
Mae plant o wahanol gefndiroedd diwylliannol, ethnig neu grefyddol hefyd angen teuluoedd sy'n gallu ymateb i'r anghenion penodol hyn.
Bydd gan y mwyafrif o blant sydd angen eu mabwysiadu atgofion o'u teulu blaenorol. Mae'n rhaid i fabwysiadwyr fod yn gallu derbyn hyn a helpu'r plentyn i ddeall hanes eu teulu naturiol.
Gofalwyr Blaenorol y Plant
Ystyrir aelodau o'r teulu naturiol i ddechrau wrth gynllunio ar gyfer gosod plant yn barhaol. Mae angen i rai plant a fabwysiadir gael cysylltiad uniongyrchol neu gysylltiad dros y ffôn neu drwy lythyr gyda'u teulu naturiol.
Mae angen i blant ddatblygu dealltwriaeth o'u hanes cynnar a theulu naturiol. Mae'n rhaid i fabwysiadwyr allu gwneud hyn gyda'u plant, a pheidio â theimlo bygythiad oherwydd agweddau o orffennol eu plentyn. Mae gan bob unigolyn a fabwysiadir yr hawl i gael mynediad i'w d/thystysgrif eni wreiddiol a'u hanes teuluol pan fyddant yn oedolion. Bydd rhai asiantaethau mabwysiadu hefyd yn helpu oedolion a fabwysiadwyd i ganfod mwy am hanes eu teulu naturiol, ac os yn briodol, eu cynorthwyo i olrhain aelodau o'u teulu naturiol.
Pwy all fabwysiadu?
Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i bobl sydd am fabwysiadu fod o leiaf 21 mlwydd oed. Fodd bynnag, mae'n well gennym ystyried pobl sydd dros 25 oed, credwn fod aeddfedrwydd a phrofiad o fywyd yn hanfodol i ymdopi â gofynion bod yn rhiant drwy fabwysiadu. Gall mabwysiadu ychwanegu dimensiwn ychwanegol at fod yn rhiant.
Gall parau priod fabwysiadu. Bydd yr asesiad yn ystyried sefydlogrwydd perthynas y pâr priod.
Gall bobl sengl fabwysiadu yn ôl y gyfraith fabwysiadu bresennol. Mae gan amryw o bobl sengl sgiliau arbennig a phrofiad y gallant ei gynnig.
Gall teuluoedd sydd eisoes â phlant fabwysiadu. Fodd bynnag, dylai 2 flynedd o wahaniaeth fodoli rhwng oed y plentyn naturiol ac oedran y plentyn a fabwysiadir.
O ran triniaeth ffrwythlonder, mae'n well gan AGC Wrecsam ymgeiswyr sydd wedi cwblhau'r holl archwiliadau a'r triniaethau cyn gwneud cais i fabwysiadu. Mae angen i barau sy'n aflwyddiannus gyda'r driniaeth hon gael cyfnod iaddasu eu bywydau cyn ystyried mabwysiadu. Ni chynghorir ceisio ymdopi ag emosiynau'r ddwy broses ar unwaith.
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?
|