Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

 

Mabwysiadu


Nid wyf yn gweithio - ydw i'n gallu mabwysiadu?

Gellwch. Nid oes raid i chi fod yn gweithio i fabwysiadu. Gellwch hefyd fabwysiadu os ydych yn gweithio rhan-amser, neu'n llawn amser. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn gallu darparu'r amser a'r lle angenrheidiol i fodloni anghenion y plentyn.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i Mabwysiadu


Rydw i'n rhentu'r ty yr ydw i'n byw ynddo - ydw i'n parhau i allu mabwysiadu?

Gellwch. Gellwch fabwysiadu os ydych yn byw mewn ty ar rent neu os ydych yn berchen ar eich cartref. Mae'n bwysig bod ystafell sbâr gennych at ddefnydd y plentyn.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i Mabwysiadu


Rwyf dros 40 mlwydd oed - ydw i'n gallu mabwysiadu?

Gellwch. Nid oes cyfyngiadau ar yr oedran hynaf ond mae angen bod yn 21 oed o leiaf. Fodd bynnag, argymhellir na ddylai 45 mlynedd o wahaniaeth oedran fodoli rhwng oedran y plentyn ieuengaf a'r rhiant mabwysiol ieuengaf.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i Mabwysiadu


Mae gen i anabledd - ydw i'n gallu mabwysiadu?

Gellwch. Fodd bynnag, gofynnir i bob ymgeisydd mabwysiadu gael archwiliad meddygol fel rhan o'r broses asesu. Mae hyn i sicrhau eich bod yn meddu ar y gallu corfforol i ofalu am blentyn. Os ydych yn anabl bydd eich Ymgynghorydd Meddygol yn cynnig argymhellion ynghylch eich addasrwydd i ofalu am blentyn.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i Mabwysiadu


Nid wyf yn briod - ydw i'n gallu mabwysiadu?

Gellwch. Gall mabwysiadwyr fod yn bobl sengl neu'n barau priod. Ni all parau dibriod fabwysiadu gyda'i gilydd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gellwn dderbyn ceisiadau oddi wrth y rheini sydd mewn perthnasau sefydlog hirdymor, gan enwi un ohonynt fel y mabwysiadwr.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau| yn ôl i Mabwysiadu


Ydw i'n gallu mabwysiadu os oes gennyf gofnod troseddol?

Gellwch. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y math o drosedd yr ydych yn euog ohono. Os ydych wedi troseddu yn erbyn plant neu bobl ifanc neu eich bod yn euog o droseddau treisgar ni fyddwch yn cael mabwysiadu plentyn. Rydym yn argymhell eich bod yn trafod unrhyw bryderon sydd gennych gyda'ch Gweithiwr Cymdeithasol sy'n gwneud yr asesiad ar y cyfle cynharaf posibl yn eich cais.

yn ôl i Mabwysiadu

 
English
 

Cyswllt i

Beth yw Mabwysiadu?
Y Plant sy'n aros am Leoliadau Mabwysiadu
Gofalwyr Blaenorol y Plant
Pwy all fabwysiadu?
Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cysylltwch â ni?
Dod yn Fabwysiadwr
Sut y paratoir pobl i fod?
Beth am gefnogaeth ar ôl y Lleoli?
Gwybodaeth Arall
Cwesitynau a Ofynnir yn Aml
Sut i gysylltu â ni
Bod yn Ofalwr
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint