Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Mabwysiadu

 

Dod yn Fabwysiadwr

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i bobl sy'n dymuno mabwysiadu fod o leiaf 21 mlwydd oed. Fodd bynnag, mae'n well gennym ystyried ymgeiswyr sydd dros 25 mlwydd oed, gan y credwn fod aeddfedrwydd a phrofiad o fywyd yn hanfodol i ymdopi â gofynion bod yn rhiant mabwysiol. Gall mabwysiadu ychwanegu dimensiwn ychwanegol at fod yn rhiant a gall fod yn brofiad llawn her ond boddhaol.

Bydd pob ymgeisydd mabwysiadu yn derbyn cwrs paratoadol 2 ddiwrnod yn ystod eu cyfnod asesu i ddarparu'r wybodaeth sy'n hanfodol iddynt er mwyn cael darlun realistig o'r hyn sydd ynghlwm wrth fod yn rhiant mabwysiol.

Er mwyn bod yn rhiant mabwysiol mae angen:

  • Hyblygrwydd.

  • Amynedd.

  • Dealltwriaeth o gefndir a hanes y plentyn a'u hanghenion posibl yn y dyfodol o ran y teulu genedigol.

  • Sensitifrwydd i anghenion y plentyn.

  • Ymroddiad a defosiwn i les y plentyn neu blant y byddwch yn eu mabwysiadu.

Mae penderfynu i fod yn rhiant mabwysiol yn un y mae'r mwyafrif o bobl yn cymryd amser hir i'w wneud. Rydym yn ymwybodol pan wneir y penderfyniad terfynol i fynd ymlaen mae'r mwyafrif o'r ymgeiswyr yn eiddgar i symud ymlaen mor fuan â phosibl. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn sicrhau ni ddylai'r cyfnod rhwng dychwelyd eich ffurflen gais i'ch cymeradwyo fel mabwysiadwr gymryd mwy na wyth mis. Mae'r siwrnai ganlynol yn amlinellu'r camau i'w cymryd o'r ymholiad i'r gymeradwyaeth.

Eich Siwrnai

  • Unwaith y byddwch wedi gwneud eich ymholiad cyntaf anfonir pecyn gwybodaeth atoch a bydd ymweliad yn cael ei drefnu.

  • Yna byddwch yn derbyn ymweliad oddi wrth y Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol a fydd yn cael y drafodaeth ddechreuol â chi ynghylch mabwysiadu. Byddant yn rhoi manylion y broses gan gynnwys yr asesiad i chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych.

  • Gofynnwn i chi lenwi a chwblhau ffurflen gais am eich hun a holl aelodau eraill eich cartref. Bydd gan y ffurflen 'atodiad caniatâd' y mae'n rhaid i chi ei arwyddo er mwyn rhoi'r hawl i ni wneud gwiriadau NSPCC, y gwasanaeth prawf a gwiriadau eraill. Gofynnir i bob unigolyn dros 16 oed yn eich cartref i gwblhau ffurflen SCT (Swyddfa Cofnodion Troseddol).

  • Bydd y Cyngor yn cwblhau'r gwiriadau hyn i sicrhau nad ydych wedi'ch canfod yn euog o droseddau yn erbyn plant a fyddai'n eich gwahardd rhag mabwysiadu fel mater o drefn. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth i ddangos pwy ydych (megis pasport, tystysgrif geni neu briodas) ac yn gofyn i chi gael gwiriad iechyd gyda'n meddyg.

  • Fe'ch gwahoddir i fynychu hyfforddiant cyn-cymeradwyaeth. Dyluniwyd y cwrs 2 ddiwrnod hwn i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol sydd ynghlwm wrth fabwysiadu. Bydd cyfle i chi gyfarfod a thrafod â mabwysiadwyr sydd wedi mynd drwy'r un broses a gellwch ofyn gymaint o gwestiynau ag y dymunwch.

  • Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr am eich geirda gwaith a phersonol.

  • Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol yn trefnu nifer o apwyntiadau â chi er mwyn cwblhau eich asesiad mabwysiadu. Byddwch chi a'ch Gweithiwr Cymdeithasol yn trafod ystod o bynciau yn ystod y cyfarfodydd hyn gan gynnwys, oed, nifer a nodweddion y plentyn/plant y dymunwch eu mabwysiadu.

  • Llunnir adroddiad gan y Gweithiwr Cymdeithasol sy'n gwneud yr asesiad o'r wybodaeth a gesglir gennych Bydd yr adroddiad yn disgrifio eich rhinweddau a'r sgiliau sydd gennych i'w cynnig i blentyn fel rhiant mabwysiol. Rhoddir y cyfle i chi ddarllen eich adroddiad a thrafod y cynnwys â'ch gweithiwr cymdeithasol.

  • Yna fe'ch gwahoddir gerbron y Panel. Y Panel fydd yn argymell p'un ai i'ch cymeradwy fel mabwysiadwr ai peidio, a nodi nifer, oed a rhyw y plant y gellwch eu mabwysiadu. Os na dderbyniwch gymeradwyaeth bydd y Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol yn trafod y rhesymau â chi a bydd yr asiantaeth yn ysgrifennu atoch. Gellwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

  • Yna bydd argymhelliad y panel yn cael ei anfon ymlaen y swyddog yn yr asiantaeth sy'n gwneud penderfyniadau - yn Wrecsam Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

 
English
 

Cyswllt i

Beth yw Mabwysiadu?
Y Plant sy'n aros am Leoliadau Mabwysiadu
Gofalwyr Blaenorol y Plant
Pwy all fabwysiadu?
Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cysylltwch â ni?
Dod yn Fabwysiadwr
Sut y paratoir pobl i fod?
Beth am gefnogaeth ar ôl y Lleoli?
Gwybodaeth Arall
Cwesitynau a Ofynnir yn Aml
Sut i gysylltu â ni
Bod yn Ofalwr
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint