|
Mae llawer o bobl yn Ofalwyr er nad
ydynt yn sylweddoli hyn efallai fel y gwaith a wnânt. Gofalwyr yw
pobl sy'n edrych ar ôl perthnasau neu gyfeillion (er nad bob amser
yn rhannu eu cartref) sydd, oherwydd anabledd, salwch neu effeithiau henaint
yn methu dod i ben adref heb gymorth.
Asesiad
Os byddwch yn penderfynu dod yn Ofalwr, a'i bod yn ymddangos bod y person
yn eich gofal angen gwasanaethau gofal yn y gymuned, yna gallwch ofyn
i'r Gwasanaethau Cymdeithasol asesu anghenion y ddau ohonoch. Bydd anghenion
yn cael eu paru â blaenoriaethau'r gwasanaeth. Cysylltwch ag adran
leol y Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am asesiad. Mae gwahanol fathau
o asesiad a gallant gynnwys gwahanol asiantaethau fel iechyd, yn dibynnu
ar anghenion y person sy'n cael yr asesiad. Mae modd asesu pobl sydd angen
gofal, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, ar wahân.
Yn Ebrill 1996, daeth deddf newydd i rym i gynorthwyo Gofalwyr. Enw hon
yw Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 (Deddf Gofalwyr
o hyn ymlaen). Amcan Deddf Gofalwyr yw sicrhau eich bod yn cael eich clywed
ac yn cael cynnig y cymorth sydd arnoch ei angen fel gofalwr. Rhaid ystyried
eich gallu i barhau fel gofalwr pan fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn
penderfynu pa wasanaethau sydd eu hangen. Mae adran y Gwasanaethau Cymdeithasol
yno i roi cymorth a chefnogaeth i chi a'r person yn eich gofal.
Gadael yr Ysbyty
Os ydych yn gofalu am rywun sy'n gadael yr ysbyty yna dylai tîm
yr ysbyty fod wedi cynllunio ar gyfer rhyddhau i baratoi cefnogaeth ar
gyfer eu claf. Mewn achosion heblaw argyfwng, pan fydd yn hysbys y bydd
ar y claf angen cefnogaeth ar ôl rhyddhau, dylai'r cynllunio hwn
ddechrau hyd yn oed cyn mynediad. Os oes gennych bryderon, siaradwch â
gweithiwr cymdeithasol yr ysbyty.
Cynllun Gofal
Dylai'r cynllun gofal, sy'n amlinellu'r math o ofal, ddilyn o'r asesiad.
Dylai fod ar sail y cytundeb rhwng y person sydd yn eich gofal, chi'r
gofalwr, a'r gweithiwr cymdeithasol / rheolwr gofal, ynghylch pa wasanaethau
sydd eu hangen a beth ellir ei ddarparu. Os bydd anghydfod yn codi, defnyddiwch
y drefn achosion a chwynion a sefydlwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dylai'r cynllun gofal ddarparu ar gyfer arolygu ac adolygu'r asesiad.
Gwyddom y gall iechyd Gofalwyr ddioddef oherwydd eu cyfrifoldebau ac,
felly, mae modd cynnwys gwasanaethau fel gofal seibiant i roi egwyl i
chi o'ch gofalu. Dylech aros mewn cysylltiad â'r sawl sy'n gyfrifol
am y cynllun gofal (gweithiwr cymdeithasol / rheolwr gofal) a dweud wrthynt
os bydd eich amgylchiadau'n newid a bod arnoch angen cymorth ychwanegol.
Efallai y bydd tâl yn cael ei godi ar y person sy'n derbyn y gwasanaeth.
Gwybodaeth bellach:
Ty Avow,
21 Stryt Egerton
Wrecsam
LL11 1ND.
Ffôn: 01978 312556
Ebost: carers@avow.org
neu
Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol,
3-5 Ffordd Grosvenor,
Wrecsam.
Ffôn: 01978 291422
|