Swyddfa Gofrestru Wrecsam
Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am Swyddfa Gofrestru Wrecsam (a elwir hefyd yn Swyddfa’r Cofrestrydd) sy’n darparu gwasanaethau cofrestru ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil.
Swyddfa Gofrestru
Ty Dewi Sant
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1NF
Yn y DU
Ffôn: 01978 292027
Tu allan i'r DU
Ffôn: +44(0)1978 292027
Oriau Agor:
Mae ein swyddfeydd ar agor i ymwelwyr rhwng 8.45 a 5.15 o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.45 i 4.45 ar ddydd Gwener. Neu gallwch ein ffonio rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Holiadur Cofrestru Canlyniadau
Gofyn am gopïau o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth
|
Derbynfa |
|
Ystafell Priodas |
Edrychwch ar fap o leoliad y Swyddfa Gofrestru (Mae’r cyswllt hwn yn agor ffenestr bori newydd)
Map o leoliad canol tref Wrecsam a phrif swyddfeydd y Cyngor
Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat canlynol:
Map o leoliad canol tref Wrecsam a phrif swyddfeydd y Cyngor - fersiwn PDF 100Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Edrychwch hefyd ar:
Newyddion diweddaraf: Nodyn i Rieni
Os ganwyd eich plentyn ar neu ar ôl 29ain Hydref 2002, sicrhewch eich bod yn mynd â’ch nodiadau rhyddhau o’r ysbyty gyda chi i’r swyddfa gofrestru pan fyddwch yn cofrestru genedigaeth eich plentyn. Mae’r nodiadau rhyddhau hyn yn cynnwys rhif GIG eich plentyn a bydd yn galluogi’r Cofrestrydd i roi ffurflen i chi gofrestru eich plentyn gyda’ch meddyg teulu.
Peidiwch â phoeni os anghofiwch fynd â’r nodiadau gyda chi. Gall eich meddyg teulu gael y rhif GIG gan ffynhonnell wahanol.
Gofyn am gopïau o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth
Mae copïau o dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth ar gael gan y Swyddfa Gofrestru. Mae angen y rhain arnoch at sawl diben beunyddiol:
- Ymgeisio am basport
- Cael benthyciad myfyriwr
- Atodi at CV
- Gwneud hawliad yswiriant
- Profi profeb
Ar gyfer pob copi, rhaid i ni wybod:
- enw’r unigolyn (ac enw partner yn achos priodas)
- dyddiad y digwyddiad
- man geni neu farw
- enw’r eglwys ar gyfer priodas
Gallwch roi’r manylion hyn mewn llythyr neu lawrlwytho, cwblhau a phostio’r
phostio’r ffurflen gais (gweler isod) berthnasol, ynghyd â’r ffi briodol at:
Swyddfa Gofrestru Wrecsam
Tŷ Dewi Sant
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1NF
Bydd gofyn i chi amgáu siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Buasem yn ddiolchgar pe gallech gynnwys amlen barod hefyd.
Gallech alw heibio i’r Swyddfa Gofrestru’n bersonol yn ystod oriau swyddfa arferol.
Ffurflenni Cais
Cais am Dystysgrif Geni – fersiwn PDF 22Kb 
Cais am Dystysgrif Marwolaeth – fersiwn PDF 20Kb 
Cais am Dystysgrif Priodas – fersiwn PDF 22Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymgeisio am gopi o dystysgrif, ffoniwch y swyddfa gofrestru’n uniongyrchol ar:
Yn y DU
01978 292027
Tu allan i’r DU
+44(0)1978 292027
Costau
Mae copi o dystysgrif geni, priodas a marolwaeth lawn yn £7.00 yr un.
Mae copi byr o dystysgrif geni ar gael am £5.50. Nid yw hwn yn cynnwys manylion y rhieni ac mae’n bosibl na fydd swyddfeydd pasport neu fudiadau eraill yn ei dderbyn bob tro.
Diogeledd
Ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn ceisiadau dros y ffôn ac argymhellwn na ddylech anfon manylion ariannol na phersonol trwy ebost.
Dyfarniad Ysgariad
Gallwch gael copi o’ch papurau ysgaru gan y llys lle proseswyd yr ysgariad.
Os bu i chi ysgaru yn Wrecsam, gallwch gael copi o’r dyfarniad absoliwt gan:
Llys Sirol Wrecsam
2il Lawr
31 Stryt Caer
WRECSAM
LL13 8BG
Ffôn: 01978-296140
Fel arall, cysylltwch â staff yn eich swyddfa gofrestru leol a fydd yn gallu rhoi’r rhif ffôn perthnasol i chi neu cysylltwch â’r:
Cofnodion Ysgaru Cenedlaethol
First Avenue
42-49 High Holborn
Llundain
WC1V 6NP
Ffôn: 020 7947 6051
|